Dwylo fenyw yn dal cyfrifiannell ac yn rhoi arian mewn banc colomennod

Wythnos siarad arian

Cyhoeddwyd: 10/11/20 | Categorïau: Funding, Awdur:

Mae’n Wythnos Siarad Arian yr wythnos hon – rydyn ni’n siarad â phrosiectau’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol am y gwaith y maen nhw’n ei wneud i wella sgiliau rheoli arian pobl, a sut maen nhw’n hybu eu llesiant ar yr un pryd.

Ymgyrch flynyddol gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau yw’r Wythnos Siarad Arian sy’n ceisio cael y genedl i siarad am arian. Eleni, rhwng 9-13 Tachwedd 2020, bydd yr wythnos yn dathlu’r gwaith sydd wedi’i wneud gan filoedd o fudiadau ar adeiladu llesiant ariannol ar hyd a lled Cymru a’r DU.

Pan fydd llawer o bobl yn meddwl am reoli arian, gallent neidio ar unwaith i feddwl am reoli cyllidebau gwaith, neu ad-daliadau morgais, neu gyfarfodydd arswydus â banciau, ond i gyfranogwyr ar brosiectau’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol (AIF), gall hyn gael goblygiadau gwahanol iawn ar eu bywydau bob dydd.

MAE HI MOR HAWDD AG 1, 2, 3…

‘Mae’n eu helpu nhw gyda phopeth, hyd yn oed mathemateg sylfaenol,’ meddai Charlotte Evans o Sgiliau, wrth siarad am gyfranogwyr ar eu prosiect AIF. ‘Mae’r gwaith rydyn ni’n ei wneud gyda nhw’n eu helpu gyda biliau, benthyciadau – ni fydd gan rai pobl hyd yn oed gyfrif banc pan fyddan nhw’n dod atom ni.’

‘Os ydyn nhw’n cael anhawster ariannol difrifol, byddwn ni’n eu hatgyfeirio i Gyngor ar Bopeth wrth gwrs, ond gallwn ni helpu i egluro pethau fel cost rent, cyfleustodau, weithiau hyd yn oed faint mae tegell yn costio. Mae rhai o’r bobl hyn eisiau symud allan o dai eu rhieni, ac mae hwn yn dysgu’r hanfodion iddyn nhw.’

BYW AR Y GWYNT

I gyfranogwyr yn Leonard Cheshire (Saesneg yn unig), mae dysgu i reoli arian yn helpu i wella eu llesiant cyffredinol hefyd. Dywedodd Debra John wrthym ‘Rydyn ni’n siarad am gyllidebu gyda symiau bach o arian, mae’r rhan fwyaf o’n cyfranogwyr yn derbyn budd-daliadau, felly nid ydynt mewn sefyllfa i gynilo, ond rydyn ni’n eu haddysgu i gynllunio.’

‘Os gallwn ni gael rhywun i gynllunio ar gyfer yr wythnos, cynllunio bwydlen a sut i goginio o’r dechrau, rydyn ni nid yn unig yn ei helpu i arbed arian, ond rydyn ni hefyd yn gwella ei iechyd a’i lesiant.’

Ceir effaith fwy eang ar lesiant cyffredinol hefyd yn sgil gallu ymdopi pan fydd bywyd yn cyflwyno rhywbeth annisgwyl. ‘Weithiau, rydych chi’n siarad am y symiau lleiaf o amser’, meddai Debra, ‘felly mae’n ymwneud mwy â dysgu sut i ymdopi â threuliau annisgwyl yn hytrach na “chyllidebu ar gyfer y dyfodol”.’

Mae’r rhain yn unigolion sy’n trafod symiau bach o arian, ond gall yr effaith ar bobl mewn sefyllfaoedd mor ansicr fod yn anferth.

‘Gall fod y gwahaniaeth rhwng gallu fforddio i brynu bwyd y diwrnod hwnnw neu beidio,’ meddai Debra –  Mae llawer o’u cleientiaid yn defnyddio banciau bwyd, ac mae hyn yn rhywbeth sydd angen iddynt fod yn ymwybodol ohono ar yr adegau hynny pan na all y gyllideb ymestyn – ‘Weithiau mae angen cymryd camau bach. Dywedodd un cyfranogwr wrthym ei fod wedi gallu cynilo ar gyfer gêm Xbox am y tro cyntaf, ac mae un arall heb arbed arian fel y cyfryw, ond mae wedi gallu benthyg llai o arian.’

DIM OND DAU BETH SY’N SICR MEWN BYWYD…

Gall yr heriau a wynebir gan gyfranogwyr o gefndiroedd mwy ansefydlog amlygu problemau na fyddai llawer ohonom yn meddwl amdanynt, fel y gwelir gan waith Llamau gyda’u cyfranogwyr AIF. Mae llawer ohonynt wedi bod mewn gofal, ac yn dod i Llamau (Saesneg yn unig) i geisio dod o hyd i dŷ, yn ogystal â chymryd eu camau cyntaf i mewn i fyd addysg bellach ffurfiol.

Maen nhw’n gobeithio y gallant ddefnyddio’r Wythnos Siarad Arian i annog pobl i gael achrediad Agored gyda nhw – rhywbeth a fydd yn helpu i wella rhifedd yn ogystal â sgiliau cyllidebu.

Dywedodd Elizabeth Stokes o Llamau: ‘Mae rheoli arian yn rhan gyson o’n cwricwlwm. Yn enwedig os yw pobl yn symud ymlaen i leoliadau gwaith – sut i gyllidebu, sut fydd cael cyflog yn effeithio ar eu budd-daliadau.’

Yn aml, mae’r pethau hyn wedi’u darparu ar gyfer cyfranogwyr cyn hyn, felly mae’n bwysig sicrhau eu bod yn ymwybodol o bopeth. Un broblem benodol y mae’r rheini sydd wedi’u rhoi mewn gofal yn ei hwynebu yw’r ffaith nad oes ganddyn nhw rifau Yswiriant Gwladol, sy’n hanfodol i unrhyw un sy’n cael ei gyflogi a’i drethu.

Fel arfer, caiff rhifau Yswiriant Gwladol eu creu pan fydd rhywun sy’n rhoi gofal yn gwneud cais am fudd-dal plant, ond ni fydd y bobl ifanc hyn wedi cael presenoldeb o’r fath yn eu bywydau bob tro, felly gallant dyfu i fyny heb fod yn ymwybodol bod rhywbeth ar goll ganddyn nhw. Gallai ymddangos fel proses weinyddol eithaf dinod yn ôl pob golwg, ond mae’n rhywbeth y mae llawer ohonom siŵr o fod yn ei gymryd yn ganiataol.

‘Efallai eu bod wedi gorfod newid eu henwau, oherwydd bywyd teuluol ansefydlog, felly gall hyn achosi problemau pan ddaw hi i agor cyfrif banc, pan fydd llawer ohonynt angen tystiolaeth a dogfennau ategol,’ meddai Elizabeth. Mae’r cymorth y mae Llamau yn ei gynnig i’w cyfranogwyr yn sicrhau bod ganddyn nhw fynediad at yr hyn y byddai llawer ohonom yn ei ystyried yn gyfleuster sylfaenol iawn, yr hyn sy’n ein galluogi i gael ein talu.

‘Nid yw llawer o’n pobl ifanc wedi cael rhywun mewn gwaith yn esiampl iddynt, neb sydd wedi achwyn am orfod talu treth neu dalu biliau,’ meddai Elizabeth, ‘felly nid ydynt wedi cael ffordd naturiol, wrth fynd heibio o gael yr wybodaeth hon yn yr un modd â llawer o bobl eraill.’

DOD O HYD I’R OFFER CYWIR

Mae Llamau wedi canfod fod adnoddau’r Wythnos Siarad Arian, fel eu hofferyn cyllidebu, yn ddefnyddiol i bobl ifanc ac maen nhw wedi darganfod fod rhannu cyllidebau i ddarnau llai fel hyn yn amhrisiadwy.

‘Mae’n bwysig bod pethau fel hyn yn berthnasol ac wedi’u gosod mewn modd sy’n briodol ar gyfer pobl ifanc mewn gofal sy’n cael eu cynorthwyo, eglura Elizabeth. Dyma hefyd yw budd prosiectau’r AIF – maen nhw’n cael eu rhedeg gan bobl â gwybodaeth arbenigol a mewnwelediad i fywydau cyfranogwyr sy’n eu galluogi i rannu gwybodaeth mewn modd priodol.

‘Mae Offeryn yr Wythnos Siarad Arian yn gofyn am draul ddyddiol reolaidd – drwy edrych ar bethau fel gweithiwr ieuenctid, gallwch chi ofyn ar unwaith “faint wyt ti’n ei wario ar ddiodydd egni?” ac nid yw hwnnw’n rhywbeth y byddai pobl yn ei ystyried fel arall. Dyna sut rydych chi’n ei egluro iddyn nhw.’

Mae’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol yn cael ei rheoli gan CGGC, a’i chefnogi gan gyllid o Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewrop. Ei nod yw lleihau anweithgarwch economaidd yng Nghymru a gwella cyflogadwyedd pobl dan anfantais. Gellir cael rhagor o wybodaeth am y gronfa yma.

Ymgyrch flynyddol gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau yw’r Wythnos Siarad Arian. Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr wythnos a sut i gymryd rhan ar eu gwefan.