Mae Mair Rigby, Rheolwr Llywodraethu a Diogelu CGGC, yn siarad am fuddion gwirfoddoli fel ymddiriedolwr elusen a sut i ddechrau arni.
Yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr 2023, hoffwn ofyn i chi feddwl am wirfoddoli fel ymddiriedolwr elusen, oherwydd mae pobl yn anghofio weithiau bod ymddiriedolwyr yn wirfoddolwyr hefyd!
Mae’n wir fod ymddiriedolwr yn fath arbennig o wirfoddoli. Mae mwy o gyfrifoldeb ynghlwm â’r rôl na rolau llai ffurfiol. Ond, ar ddiwedd y dydd, mae’r rhan helaeth o ymddiriedolwyr elusennau yn ddi-dâl ac yn rhoi eu hamser o’i gwirfodd i fudiad.
BETH MAE’R YMCHWIL YN EI DDWEUD
Yn 2017, cyflwynodd y Comisiwn Elusennau waith ymchwil a ddangosodd fod oddeutu 700,000 o ymddiriedolwyr yng Nghymru a Lloegr, ac oddeutu 120,000 o ymddiriedolwyr newydd yn cael eu recriwtio bob blwyddyn. Mae 90% o ymddiriedolwyr yn dweud bod y rôl yn un gwerth chweil.
Gall ymgymryd â rôl ymddiriedolwr fod yn ffordd wych o wirfoddoli, yn enwedig os ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn i fudiad. Gall rhoi’r cyfle i chi gyfrannu at rywbeth sy’n agos at eich calon a bod yn wych i’ch datblygiad personol neu broffesiynol eich hun. Yn ôl gwaith ymchwil yr elusen Getting on Board:
- Mae 96% o ymddiriedolwyr yn dweud eu bod yn dysgu sgiliau newydd
- Mae 73% yn dweud ei fod wedi rhoi hwb i’w hyder (74% o fenywod)
- Dywedodd 84% ei fod yn ei gwneud nhw’n hapusach r
- Dywedodd 22% eu bod wedi cael dyrchafiad yn eu gwaith o’i herwydd
- Dywedodd 38% fod ganddyn nhw ddyheadau arwain newydd o ganlyniad i’r rôl
Mae llawer o gyfleoedd ar gael, ac mae llawer o fyrddau eisiau recriwtio ymddiriedolwyr iau a phobl ag amrediad amrywiol o sgiliau, profiadau a chefndiroedd, felly meddyliwch am beth allech chi ei gyflwyno i’r rôl a pheidiwch â bod ofn ymgeisio.
SUT I DDOD O HYD I GYFLEOEDD
Bydd angen i chi wneud ychydig o waith ymchwil i ddod o hyd i rolau gwag. Dyma rai mannau i edrych:
- Gallwch chi chwilio am rolau ymddiriedolwyr ar wefan Gwirfoddoli Cymru
- Beth am gael sgwrs gyda rhywun yn eich Canolfan Wirfoddoli lleol oherwydd gallai rhywun yno fod yn ymwybodol o gyfleoedd yn yr ardal
- Dilynwch yr elusennau sydd gennych chi ddiddordeb ynddyn nhw ar gyfryngau cymdeithasol neu cofrestrwch i gael eu cylchlythyrau
- Gall LinkedIn hefyd fod yn lle da i gadw llygad am rolau gwag
BETH I’W DDISGWYL
Mae pob elusen yn wahanol, ond dylai fod rhyw fath o broses ddethol ar gyfer penodi ymddiriedolwyr, fel arfer CV neu lythyr eglurhaol, gyda rhyw fath o gyfweliad ffurfiol.
Mae rhai elusennau yn cynnal diwrnodau neu nosweithiau agored i bobl â diddordeb mewn bod yn ymddiriedolwyr, sy’n gallu bod yn ffordd wych o gael rhagor o wybodaeth. Os oes gan yr elusen aelodaeth sy’n pleidleisio, efallai y bydd angen i chi fynd drwy broses ethol a chael eich penodiad wedi’i gadarnhau yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf.
CWESTIYNAU I’W GOFYN
Byddwn i’n eich argymell yn gryf i wneud ychydig o waith ymchwil er mwyn gwneud yn siŵr bod y rôl yn iawn i chi a’ch bod chi’n gwybod beth rydych chi’n cytuno ei wneud! Gall bod yn ymddiriedolwr fod yn llawer o hwyl, ond mae angen i chi fod yn ymwybodol mai’r ymddiriedolwyr yn y pen draw sydd â’r cyfrifoldeb dros oruchwylio’r ffordd y caiff elusen ei rhedeg. Dyma rai cwestiynau i feddwl amdano cyn ymgeisio:
- A yw popeth yn edrych yn iawn ar gofnod yr elusen ar gofrestr y Comisiwn Elusennau (Saesneg yn unig)? Gallwch chi ddarllen yr adroddiad blynyddol a’r cyfrifon diweddaraf os hoffech chi weld rhagor o fanylion
- A oes aelodaeth o’r elusen neu a oes angen i chi ymuno fel aelod cyn gwneud cais i fod yn ymddiriedolwr?
- A ydych chi wedi edrych ar wefan yr elusen a’i phresenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol? A ydych chi’n hapus gyda’r hyn y gallwch chi ei weld o ran gwerthoedd yr elusen?
- A yw’r elusen yn anghorfforedig neu’n gorfforedig? Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth i’r math o rwymedigaethau y gallai fod gan yr ymddiriedolwyr
- Pa fathau o gyfrifoldebau cyfreithiol sydd gan yr elusen? A oes staff neu adeiladau, ac a yw’n gweithio gyda phlant neu oedolion mewn perygl? Ni ddylai hyn newid eich meddwl am ymgeisio, ond byddwch yn ymwybodol mai’r ymddiriedolwyr yn y pen draw sy’n gyfrifol am yr elusen, felly mae angen i chi wybod beth rydych chi’n cytuno ei wneud cyn ymgeisio a bod yn gysurus bod yr elusen yn rheoli unrhyw risgiau’n briodol.
CYN YMGEISIO
Os ydych chi’n hapus gyda’r wybodaeth am yr elusen ac yn teimlo yr hoffech chi fod yn ymddiriedolwr, mae rhai pethau eraill y byddwn ni’n awgrymu eich bod yn edrych arnyn nhw cyn gwneud cais am y rôl wag:
- Faint o ymrwymiad amser sydd ynghlwm â’r rôl? (cyfarfodydd bwrdd yn unig, neu fwy?)
- A yw’r cyfarfodydd yn hygyrch i chi? (amser, ardal, lleoliad, opsiynau ymuno)
- A ydyn nhw’n talu treuliau parod (gofal plant?)
- A fydd rhyw fath o sesiwn gynefino, neu gefnogaeth i ymddiriedolwyr newydd?
- A fydd unrhyw hyfforddiant yn cael ei gynnig?
Bydd angen i’ch disgwyliadau fod yn gymesur â maint ac adnoddau’r elusen rydych chi’n edrych arni, ond dylai unrhyw elusen sy’n cael ei llywodraethu’n dda ateb eich cwestiynau’n onest a gallu dweud wrthych chi pa gefnogaeth sydd ar gael i ymddiriedolwyr newydd.
SUT I GAEL RHAGOR O WYBODAETH:
- Mae canllaw’r Comisiwn Elusennau, Yr Ymddiriedolwr Hanfodol, yn cynnwys popeth sydd angen i chi ei wybod am y gofynion a’r cyfrifoldebau
- Cod Llywodraethu i Elusennau’r DU
- Mae gan yr elusen ‘Getting on Board’ adnoddau i ddarpar ymddiriedolwyr, gan gynnwys canllaw am ddim y gallwch chi ei lawrlwytho, Sut i Ddod yn Ymddiriedolwr (Saesneg yn unig)
- Mae gan ‘Reach Volunteering’ lawer o wybodaeth am fod yn ymddiriedolwr (Saesneg yn unig)