Tyrfa o bobl yn eistedd yn y Senedd yn ystod Wythnos Gofalwyr 2019, mae Claire Morgan, Cyfarwyddwraig Gofalwyr Cymru yn rhoi sgwrs

Wythnos Gofalwyr 2022: Pwysau cynyddol ar ofalwyr di-dâl

Cyhoeddwyd: 06/06/22 | Categorïau: Heb gategori, Awdur: Claire Morgan

Yma, mae Claire Morgan, Cyfarwyddwr Gofalwyr Cymru, yn myfyrio ar y pwysau anghynaladwy y mae gofalwyr di-dâl yn parhau i’w hwynebu y tu hwnt i gyfyngiadau’r pandemig.

Yr Wythnos Gofalwyr hon (6-12 June), gobeithio y bydd pob un ohonom ni’n manteisio ar y cyfle i fyfyrio ar rôl hanfodol gofalwyr di-dâl yn ystod y pandemig ac i gydnabod y pwysau parhaus y maen nhw’n eu hwynebu er bod gweddill y gymdeithas yn ‘ailagor’.

Cynyddodd nifer y gofalwyr di-dâl yn ofnadwy ar hyd a lled Cymru yn ystod y pandemig. Mae llawer o’r rheini a ysgwyddodd gyfrifoldebau gofalu ychwanegol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi gorfod parhau i roi cymorth i’r rheini sy’n fwyaf agored i niwed. Dengys ein hadroddiad newydd, a fydd yn cael ei lansio yn ystod Wythnos Gofalwyr, y pwysau anghynaladwy sydd ar ofalwyr di-dâl ac effaith sylweddol hyn ar eu hiechyd corfforol a meddyliol.

CYMRYD RHAN YN WYTHNOS GOFALWYR 2022

Mae’r Wythnos Gofalwyr, a sefydlwyd gan ‘Carers UK’ 27 o flynyddoedd yn ôl, yn ymgyrch codi ymwybyddiaeth flynyddol sy’n cael ei chynnal i gydnabod y cyfraniad hanfodol sy’n cael ei wneud gan y 6.5 miliwn o ofalwyr yn y DU.

Hoffwn eich annog i gymryd rhan yn yr Wythnos Gofalwyr gan fod gan bob un ohonom ni rôl i’w chwarae mewn helpu i sicrhau bod gofalu’n Weladwy ac yn cael ei Werthfawrogi a’i Gefnogi. Waeth a allwch chi roi cymorth i ffrind neu aelod o’r teulu sy’n gofalu am rywun, sicrhewch eu bod mewn cysylltiad â’r wybodaeth a’r help sydd eu hangen arnynt, gwnewch eich rhan i godi ymwybyddiaeth neu dangoswch eich bod yn cefnogi gofalwyr di-dâl drwy ‘ychwanegu eich llais’ ar wefan Wythnos Gofalwyr: www.carersweek.org.

PWYSAU CYNYDDOL

Dengys ein gwaith ymchwil, heb syndod, bod mwy o ofalwyr di-dâl yng Nghymru yn 2022 nag oedd cyn y pandemig, gyda 23% o oedolion y genedl (oddeutu 584,134 o bobl) bellach yn cynorthwyo perthynas, ffrind agos neu gymydog oherwydd salwch cronig, gan gynnwys anhwylder meddyliol, dementia, anabledd neu henaint.

Mae dwysedd y gofal y mae gofalwyr yn ei ddarparu hefyd wedi cynyddu ers yn gynharach yn y pandemig, a gallai nifer o ffactorau fod wedi effeithio ar hyn. Mae llawer o’r gwasanaethau roedd gofalwyr yn dibynnu arnynt o’r blaen yn parhau i fod â llai o ddarpariaeth neu wedi cau, mae pobl sy’n agored i niwed yn parhau i warchod eu hunain ac mae pob un ohonom ni’n gwybod am y pwysau ar ofal iechyd sylfaenol a’r prinder cronig o ofal cymdeithasol.

Ar yr un pryd, rydyn ni’n wynebu argyfwng costau byw sy’n cynyddu’r costau gofalu, fel costau ynni, bwyd a theithio. Mae’r costau cynyddol hyn yn bwrw gofalwyr yn galed. Dengys ein hadroddiad bod gofalwyr ag incymau teuluol llai yn llawer mwy tebygol o fod yn darparu cryn dipyn o ofal (e.e. dros 20 awr yr wythnos). Mae darparu mwy o ofal hefyd yn lleihau’r siawns o allu ymdopi’n ariannol, oherwydd mae gofalwyr yn llai tebygol o allu cydbwyso gwaith a gofal, gan eu gwthio i mewn i dlodi a chaledi ariannol.

SICRHAU BOD GOFALWYR YN CAEL Y CYMORTH SYDD EI ANGEN ARNYNT

Mae’n hollol dyngedfennol bod gofalwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gadw’n iach fel y gallant barhau i ofalu am eu hanwyliaid.

Y saith elusen genedlaethol sy’n arwain Wythnos Gofalwyr 2022 yw Carers UK, Age UK, yr Ymddiriedaeth Gofalwyr, Cymdeithas MND, Rethink Mental Illness, Oxfam GB a The Lewy Body Society. Rydym yn galw am gynllun adfer a seibiant ar gyfer Cymru, sy’n ymroddedig i anghenion gofalwyr, gan gynnwys; buddsoddiad penodol mewn cymorth iechyd meddwl, blaenoriaethu gwyliau gofalwyr, hybu incymau gofalwyr er mwyn lleihau’r risg o dlodi a chaledi, help gyda chostau bwyd ac ynni a, chyn daw’r gaeaf, blaenoriaethu’r rhaglen frechu.

Gwnewch yr hyn y gallwch chi’r Wythnos Gofalwyr hon i sicrhau bod gofalu’n Weladwy ac yn cael ei Werthfawrogi a’i Gefnogi.

Rhagor o wybodaeth am Wythnos Gofalwyr 2022.