Ers dechrau COVID-19, mae cymunedau a busnesau ledled Cymru wedi gweithio mewn ffyrdd newydd i gefnogi pobl wrth iddynt wynebu’r heriau uniongyrchol ac anuniongyrchol niferus a berir gan y pandemig.
Mae Sue Husband o Busnes yn y Gymuned Cymru yn rhannu enghreifftiau o gyfraniad busnesau yn ystod y cyfnod hwn ac yn tynnu sylw at werth gwirfoddoli gan weithwyr.
Ar ôl lansio’r Rhwydwaith Ymateb Busnes Cenedlaethol (gyda chefnogaeth ein partneriaid sefydlu AXA UK, a Grŵp Cyfnewidfa Stoc Llundain) ym mis Ebrill 2020, mae Busnes yn y Gymuned (BITC) Cymru wedi’i ysbrydoli gan y gallu i addasu a ddangosir gan fusnesau a’u gweithwyr wrth iddynt fynd i’r afael ag effeithiau’r argyfwng. Yn sail i bob un o’r 600 a mwy gyfatebiaethau a wnaed ledled y DU yn y cyfnod hwn mae ymdrechion gweithwyr gwirfoddol sy’n gweithio y tu allan i’w cylch gwaith arferol i wneud newidiadau lleol cadarnhaol. Hoffai BITC Cymru ddiolch i’r holl fusnesau sy’n aelodau ac nad ydynt yn aelodau am eu cyfraniadau o ran amser, talent, ac arbenigedd, nid yn unig yn ystod y pandemig, ond hefyd dros y 12 mis diwethaf.
Sut mae’n haelodau wedi bod yn helpu
Mae’r hyblygrwydd hwn wedi galluogi busnesau a gweithwyr sy’n gwirfoddoli i ddiwallu anghenion lleol yn y modd brys, uniongyrchol y mae gofyn mor daer amdano, ond hefyd gyda ffocws ar gynaliadwyedd yn yr hirdymor. Mae rhai cyflogwyr wedi gwneud newidiadau rhagweithiol i’r polisïau gwirfoddoli presennol i annog staff i gyfrannu at ymdrechion lleol a chenedlaethol. Yn ystod wythnosau cynnar yr argyfwng, caniataodd y darparwr gwasanaethau diwydiannol, Grŵp E. G. Lewis a leolir yng Nghastell-nedd, i weithiwr ddefnyddio amser a cherbyd cwmni i ddanfon cyflenwadau iechyd hanfodol yn yr ardal leol. Yn fwy diweddar, mae aelodau staff sy’n gweithio yn Ne Cymru gyda’r busnes seilwaith Costain wedi danfon cyflenwadau mawr o offer amddiffyn i ysbytai.
Pam mae gwirfoddoli gan weithwyr yn bwysig
Mae gwirfoddoli gan weithwyr yn rhan hanfodol o unrhyw strategaeth fusnes gyfrifol. Mae’r buddion yn cynnwys cynyddu ymgysylltiad gweithwyr, gwell lles gweithwyr, cadw a recriwtio talent, a chyfleoedd dysgu a datblygu. At hynny, gall gwirfoddoli strategol, wedi’i alinio â’ch busnes craidd ac yn defnyddio sgiliau gweithwyr, greu effaith barhaol yn y gymuned, gan adeiladu cynaliadwyedd a gwytnwch yn y tymor hir. Mae llawer o wirfoddolwyr y busnes sy’n cymryd rhan yn y rhaglen Dosbarth Busnes yng Nghymru yn helpu i drosglwyddo sgiliau, profiad a hyder hanfodol i blant a phobl ifanc, a hyn wrth iddynt eu hunain ennill profiad personol a gyrfa gwerthfawr.
Gweithwyr yn gwirfoddoli ar ôl COVID-19
Er bod COVID-19 wedi arwain at ohirio neu ganslo gwirfoddoli traddodiadol ‘wyneb yn wyneb’, mae hwn yn gyfle i fusnesau ailfeddwl sut maent yn darparu cefnogaeth barhaus. Er enghraifft, gall busnesau sy’n gweithio gyda phartneriaid elusennol gynnig gallu newydd, wedi’i seilio ar sgiliau, arbenigedd ar fyrddau a phwyllgorau, a chymorth a chyngor technegol a allai fel arall fod y tu hwnt i gyrraedd elusennau llai, megis symud rhaglenni sefydledig ar-lein.
Mae Felicitie Walls, Rheolwr Gwirfoddoli yn WCVA, yn annog busnesau i ‘ddechrau gyda’r diwedd mewn golwg’. Esbonia Felicitie ‘trwy ddeall yr heriau sy’n wynebu’r cymunedau a’r problemau y maent yn ceisio eu goresgyn, gall busnesau a’u gweithwyr fod yn fwy parod i roi eu hamser mewn adnoddau mewn ffyrdd sy’n wirioneddol bwysig, ac ar y cyd gall y busnes a’r gymuned sy’n derbyn wneud gwahaniaeth mwy gyda’i gilydd’.
Am fwy o wybodaeth
Mae ystod o gyngor a chefnogaeth gyfredol ar gael i fusnesau sydd am ddatblygu eu rhaglenni gwirfoddoli a gefnogir gan weithwyr ar wefan Busnes yn y Gymuned. Cynhyrchwyd taflen ffeithiau benodol i helpu i arwain cyflogwyr trwy’r gefnogaeth y gallant ei chynnig i weithwyr yn ystod COVID-19, ar gael yma – https://www.bitc.org.uk/fact-sheet/covid-19-volunteering-during-the-pandemic/
Heddiw, mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW) hefyd yn falch o gyhoeddi ail-lansiad y daflen wybodaeth Gwirfoddoli a Gefnogir gan Gyflogwyr.
Os hoffai unrhyw un sy’n darllen y blog hwn ddechrau chwilio heddiw am eu cyfle gwirfoddoli nesaf, ewch i wefan Gwirfoddoli Cymru