menyw yn siglo dwylo gyda dyn dros bwrdd cyfarfod

U sydd am Uno

Cyhoeddwyd: 15/06/20 | Categorïau: Heb gategori, Awdur: Judi Rhys

Yma, mae Judi Rhys, Prif Swyddog Gweithredol Tenovus Cancer Care a chyn-Brif Swyddog Gweithredol Arthritis Care, yn rhannu ei barn ar uno a’r cynhwysion sy’n hanfodol ar gyfer uno’n llwyddiannus

Mae’n drueni ei bod hi’n cymryd argyfwng yn aml cyn i elusennau ddechrau defnyddio’r gair ‘Uno’.  Ac mae’r ffaith bod pynciau fel cydweithredu ac uno wedi’u crybwyll droeon mewn llawer o weminarau a thrafodaethau ford gron ar-lein rwyf wedi ymuno â nhw yn ystod y misoedd diwethaf yn dangos pa mor ddifrifol yw’r cyfnod hwn.

Rydyn ni wedi gweld nifer o drefniadau uno proffil uchel yn y sector elusennau iechyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf – Breast Cancer Now (sy’n ganlyniad o uno Breakthrough Breast Cancer ac Ymgyrch Canser y Fron) a Breast Cancer Care, y British Lung Foundation ac Asthma UK, a’r trefniant uno y gwnes i ei drefnu rhwng Arthritis Care (lle roeddwn i’n Brif Swyddog Gweithredol) ac Arthritis Research UK i ffurfio Versus Arthritis.

Maen nhw i gyd wedi’u cyflawni o fan cryf ac am resymau strategol, lle mae’r partneriaid sy’n uno wedi sylweddoli synergedd y diben a’r gwelliannau y gellir eu gwneud drwy uno. Gwelliannau fel cyrraedd mwy o fuddiolwyr, cyfuno ymdrechion ymchwil, cynyddu’r proffil cyhoeddus a lleihau costau a dyblygu.

Cystadleuaeth iach

Mae oddeutu 29,000 o elusennau sydd wedi’u cofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau yn nodi mai eu prif nod yw ‘datblygu iechyd neu achub bywydau’.

Ers tro byd bellach, rhai o’r elusennau mwyaf gweladwy ac uchel eu proffil yn y DU yw’r rheini sy’n ymwneud â gwaith ymchwil, ymgyrchu neu gymorth ar gyfer cyflyrau meddygol.

Gall elusennau ymchwil meddygol fod yn arbennig o addas i’w huno. Pam ddylai elusennau â chennad debyg orfod cystadlu’n uniongyrchol am roddwyr yn yr oes sydd ohoni? Gallent fod yn dyblygu’r ymdrechion ymchwil drwy weithio ar wahân, yn hytrach na chydweithio i ddefnyddio adnoddau’n well.

Wrth gwrs, termau o’r sector preifat yw ‘uno’ a ‘chaffael’, ac maen nhw’n cyfleu llwyth o syniadau am frwydro dros bŵer, bod yn anghyfeillgar a meddiannu.

Ond y gwir amdani yw nad oes y fath beth â meddiannu anghyfeillgar yn y sector gwirfoddol, ac mae’r daith i uno, a’r rhesymau amdani, yn wahanol iawn.

Yn fwy, yn well ac yn wahanol

Yn fy achos i, roedd gennyf awydd ac argyhoeddiad cryf mai’r peth gorau ar gyfer ein buddiolwyr fyddai dod â gwaith ymchwil a chymorth ynghyd.

Roedd hwn yn rhywbeth yr oedd sylfaenydd Arthitis Care, Cymro o’r enw Arthur Mainwaring-Bowen, wedi dyheu amdano ers tro byd, ac roedd yn braf ofnadwy bod ei wraig weddw yn fyw o hyd i weld y freuddwyd yn cael ei gwireddu.

Uno trawsnewidiol oedd hwn a yrrwyd gan weledigaeth gymhellol i fod yn ‘fwy, yn well ac yn wahanol’, i wneud mwy ar gyfer buddiolwyr craidd y ddau fudiad rhagflaenol, ac i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r 17.8 miliwn o bobl sy’n cael eu heffeithio gan arthritis a chyflyrau perthnasol.

Fy ngweledigaeth bersonol oedd cryfhau fy elusen a datblygu’r gweithgarwch. Roeddwn i’n gwybod bod llunwyr polisi a buddiolwyr yn cael anhawster gwahaniaethu rhwng y ddau fudiad weithiau, a phan oeddem ni’n ceisio cydweithredu, roedd rhannu gwaith ymchwil ac eiddo deallusol yn broblemus.

Y broses negodi

Dechreuodd fy nhrafodaethau a gwaith ymchwil ynghylch uno posibl ym mis Chwefror 2017, gyda sgyrsiau cychwynnol rhwng prif weithredwr Arthritis Research UK a finnau.

Roedd elusennau ein dau wedi penodi cadeiryddion newydd yn ddiweddar, a ddaeth â dimensiwn ffres i’r trafodaethau, a ffurfiwyd gweithgor a oedd yn cynnwys y Prif Swyddogion Gweithredol, y cadeiryddion ac un ymddiriedolwr ychwanegol o’r ddwy ochr.

Gwnaethon ni ystyried amrediad llawn o opsiynau, gan gynnwys mathau o bartneriaeth a chydweithredu nad oedd yn drefniant uno llawn. Wedi hynny, gwnaethon ni symud ymlaen yn gyflym i brofi buddion posibl trefniant uno llawn.

Ym mis Ebrill y flwyddyn honno, gwnaethon ni ymgynghori â bwrdd ymddiriedolwyr llawn y ddwy elusen, a daethpwyd i gytundeb dros dro i uno ym mis Mai. Arweiniodd hyn at archwiliad manylach, a ganfu fod y ddwy elusen yn sefydlog yn ariannol, a daethom i gytundeb terfynol i uno ym mis Gorffennaf.

Dod i delerau â ‘cholli ymerodraeth’

Gall bod yn anodd iawn darbwyllo pobl fod yr uno’n ymwneud â’r elusen, ei buddiolwyr a bodloni ei hamcanion.

Roeddwn i’n gwybod ei bod hi’n bwysig rhoi’r teimladau naturiol o orbryder ac amheuaeth o’r neilltu, a gwyddwn na fyddai hyn yn digwydd heb gynllunio a gwaith trefnu.

Felly, aethom ati i ddechrau ymgyrch ymgynghori i egluro’r uno, a oedd yn cynnwys ymweliadau â’n canghennau lleol, ‘cyfarfodydd llawr’ tîm cyfan yn swyddfeydd y ddau fudiad ac uwch-aelodau staff o’r ddwy ochr yn gweithio yn swyddfeydd ei gilydd ar ddiwrnodau penodol o’r wythnos.

Cymeradwywyd yr uno gan randdeiliaid fy elusen mewn cyfarfod cyffredinol blynyddol (AGM), y gwnaethon ni ei gynnal heb gynnwys Arthritis Research UK.

Gwnaeth hyn i gyd helpu i ddod â’r ddwy ochr ynghyd, ac yn arbennig, i sicrhau y gallai staff, ymddiriedolwyr a rhwydweithiau gwirfoddoli Arthritis Care deimlo bod yr uno’n gyfle i ehangu eu dylanwad mewn mudiad newydd, a rhoi’r gorau i deimlo fel petai nhw dan fygythiad ac yn ‘colli ymerodraeth’.

Mae’n hysbys iawn fod balchder, hunan-fudd a’r awydd i gadw ymreolaeth wedi difetha trafodaethau am uno yn y gorffennol. Eto i gyd, nid oes gan yr un elusen yr hawl i fodoli yn ei hun. Roedd hi’n bwysig drwy gydol y broses hon i ddangos arweinyddiaeth anhunanol ac i ateb cwestiynau’n ddidwyll ac yn onest.

Fe wnes i benderfyniad cynnar i beidio â chynnig fy hun ar gyfer rôl y Prif Swyddog Gweithredol, a gwnaeth hynny’n bendant gael gwared ag un o’r rhwystrau sydd wedi llesteirio ymdrechion uno eraill.

Arwain drwy esiampl

Nid yw arwain trefniant uno yn y sector gwirfoddol yn rhywbeth mae rhywun yn ei wneud ar chwarae bach. Mae angen sylw fforensig i fanylion, sgiliau cyfathrebu o’r radd flaenaf a ffocws di-ildio.

Ond y wobr yw mudiad cryfach, sydd mewn sefyllfa well i gyflawni’r genhadaeth a gwneud y gwahaniaeth i’n buddiolwyr y mae pob un ohonon ni’n dymuno ei wneud. Fe gymera i hynny dros gadw’r drefn bresennol unrhyw ddiwrnod o’r wythnos.