Mae Russell Todd yn siarad am ddatblygiad fframwaith ar gyfer treftadaeth chwaraeon yng Nghymru a pham mae grwpiau gwirfoddol a gwirfoddolwyr yn chwaraewyr allweddol yn y gêm hon.
Mae chwaraeon wastad wedi bod yn bwysig i Gymru fel cenedl, o gêm hynafol y cnapan, i rygbi a phêl-droed modern; o focsio i seiclo, athletau i nofio. Mae ein gwlad ni wedi creu casgliad trawiadol o bobl eithriadol yn y byd chwaraeon ac rydyn ni’n gwneud yn well na phob disgwyl mewn cystadlaethau rhyngwladol ym mhob maes, gan gynnwys chwaraeon i bobl anabl, lle y mae Cymru wedi arloesi ers tro byd.
Mae chwaraeon yng Nghymru yn cyffwrdd â phob plwyf, pentref a thref, gan ddod â phobl ynghyd, gwella iechyd a hybu datblygiad personol, cynnig cyfleoedd am gyfeillgarwch oes ac ennyn cystadleuaeth gyfeillgar.
FFRAMWAITH AR GYFER TREFTADAETH CHWARAEON
Serch yr holl lawenydd y gwnaeth tîm pêl-droed dynion Cymru ddod ag i’r genedl drwy gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd yn Qatar, neu’r llawenydd a ddaeth trwy law Geraint Thomas pan enillodd y Tour de France eiconig yn 2018, asgwrn cefn y diwylliant cyfoethog hwn yw clybiau llawr gwlad a redir gan wirfoddolwyr. Yn aml, gwirfoddolwyr yw’r rhai hynny hefyd, hyd yn oed mewn chwaraeon proffesiynol, sy’n trysori treftadaeth chwaraeon, a dyma un o’r rhesymau pam y treuliodd Cwmni Buddiannau Cymunedol Sporting Heritage (gwefan Saesneg yn unig) amser gyda’r sector treftadaeth yn ystod y pandemig yn datblygu Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Treftadaeth Chwaraeon Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Gyda drysau amgueddfeydd a chasgliadau ar agor drachefn i’r cyhoedd, mae’r amser wedi dod i fwrw ymlaen â’r Fframwaith a rhoi rhai cynlluniau penodol ar waith i’w cyflawni yn y blynyddoedd i ddod. Rydw i wedi cael fy mhenodi i hwyluso’r gwaith hwn, ac elfen ganolog o hyn yw cefnogi’r sectorau gwirfoddol a chymunedol i gyfrannu at y broses fel bod y Fframwaith yn ymatebol i anghenion a dyheadau grwpiau gwirfoddol sydd eisoes yn gofalu’n angerddol a brwdfrydig am dreftadaeth chwaraeon y genedl, ynghyd â gweithwyr proffesiynol y maes treftadaeth.
SUT GALLWCH CHI GYMRYD RHAN
Bydd pobl yn gallu cymryd rhan mewn ffyrdd amrywiol, gan gynnwys digwyddiadau, ar-lein ac wyneb yn wyneb. Bydd arddangosfa treftadaeth chwaraeon ar-lein i Gymru, ac efallai yr hoffech chi enwebu eitem dreftadaeth gan eich clwb neu gymdeithas.
Hefyd mae arolwg wedi newydd agor i helpu i ganfod pa gasgliadau treftadaeth chwaraeon sy’n bodoli yng Nghymru, ble maen nhw’n cael eu cadw, ydyn nhw wedi’u catalogio, ac ym mha gyflwr y maen nhw: https://www.surveymonkey.co.uk/r/deall_treftadaeth_chwaraeon.
Am ragor o wybodaeth am y gweithgareddau Fframwaith i ddod neu am Gwmni Buddiannau Cymunedol Sporting Heritage yn fwy cyffredinol, ewch i’w gwefan www.sportingheritage.org.uk (Saesneg yn unig), dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol – @sportinghistory ar Twitter a @sportingheritagecic ar Facebook ac Instagram – neu anfonwch e-bost ataf i yn russell@sportingheritage.org.uk.
Delwedd nodwedd: ‘Merched yn chwarae pêl-droed’ yng Nghasnewydd ym 1895. Mae’r llun yn rhan o brosiect Crowd Cymru; cedwir y llun gwreiddiol yn Archifdy Gwent yng Nglyn Ebwy