Mae Dr Lindsay Cordery-Bruce, Prif Weithredwr CGGC, yn dadlau bod gwaith craffu yn hanfodol, ond mae targedu pobl sy’n gweithio i fudiadau gwirfoddol yn bygwth y ddadl gyhoeddus y mae democratiaeth yn dibynnu arni.
Rwyf wedi profi rhai pethau brawychus yn ystod fy ngyrfa yn y sector gwirfoddol a chymunedol. Rydw i wedi cael fy nal yn wystl, wedi cael fy nal yn erbyn waliau a’m bygwth â thrais. Rydw i wedi wynebu bygythiadau i losgi fy nghartref ac wedi adfywio mwy o bobl ar fin gorddosio nag y gallaf eu cyfrif.
Digwyddodd y digwyddiadau hynny pan oeddwn i’n gweithio ar y rheng flaen gyda phobl mewn argyfwng a thrallod dwys. Ni ddylai unrhyw un dderbyn hyn fel rhan o’r swydd, ond roeddwn i’n deall yr amgylchiadau a berodd iddyn nhw ddigwydd.
Yr hyn sy’n teimlo’n wahanol nawr yw gweld staff elusennau yn cael eu targedu’n negyddol gan bocedi bach o’r cyhoedd dim ond oherwydd y gwaith maen nhw’n ei wneud neu’r achosion y maen nhw’n eu cefnogi. Mae pobl yn cael eu targedu ar-lein, mae eu gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu, ac maen nhw’n cael eu gadael yn bryderus am eu diogelwch.
Yn CGGC, rydyn ni wedi bod yn clywed am fwy a mwy o ddigwyddiadau pryderus ledled Cymru, ac nid ni yw’r unig rai sy’n teimlo hyn. Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Comisiwn Elusennau ddatganiad yn datgelu bod un o bob pedair elusen yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan raniad mewn cymdeithas* sy’n arwain at fandaliaeth, protestiadau a newidiadau yn lefel y gefnogaeth dros eu hachosion.
Nid wyf erioed wedi bod yn fwy ofnus dros bobl sy’n gweithio ar draws ein sector. Ai dyma’r gost o helpu pobl nawr?
CRAFFU NID DYCHRYN
Mae angen craffu, anghytundeb a thrafodaethau cadarn ar ddemocratiaeth iach. Dylai mudiadau gwirfoddol sy’n ymgyrchu, yn derbyn cyllid cyhoeddus ac elusennol neu sy’n ceisio dylanwadu ar bolisïau ddisgwyl cael eu cwestiynu. Dylid profi eu tystiolaeth, dylai eu gwariant fod yn atebol, a dylai eu penderfyniadau fod yn agored i gael eu herio.
Ond mae llinell glir rhwng dwyn mudiad i gyfrif a thargedu’r bobl sy’n gweithio iddo. Mae’r llinell honno yn cael ei chroesi ac mae’n fy ngwneud i’n wallgof.
Mae CGGC wedi clywed yn uniongyrchol gan fudiadau gwirfoddol lle mae eu staff wedi cael eu targedu ar-lein a’u gwybodaeth gyflogaeth wedi’i rhannu mewn modd cas. Mae digwyddiadau wedi’u newid neu eu canslo gan na allai trefnwyr fod yn ffyddiog y byddai staff a mynychwyr yn ddiogel. Mae digwyddiadau wedi’u hadrodd i’r heddlu.
GWANHAU DEMOCRATIAETH
Y tu ôl i bob enghraifft mae rhywun sy’n ceisio gwneud ei waith. Nid oes unrhyw un yn dod yn darged dilys i’w ddychryn trwy ddewis gweithio i elusen.
Rwy’n gwybod bod atebolrwydd a beirniadaeth yn rhan o’r hyn rydyn ni’n ei wneud ac felly dylai fod. Dylai beirniadaeth ganolbwyntio ar dystiolaeth, polisi, penderfyniadau a’r defnydd o arian cyhoeddus ac elusennol.
Pan fydd beirniadaeth yn datblygu i fod yn ymgyrch ar-lein barhaus, yn cynnwys rhannu gwybodaeth bersonol neu’n gwneud i bobl ofni am eu diogelwch, nid craffu mo hyn mwyach. Targedu a chodi ofn yw ef. Mae angen iddo stopio!
Nid yw hyn yn gwneud dadleuon cyhoeddus yn gryfach. Os yw pobl yn ofni siarad, trefnu digwyddiadau neu gyfrannu eu harbenigedd, mae lleisiau yn cael eu gwthio allan o’n bywyd dinesig ac mae democratiaeth yn cael ei gwanhau. Rydyn ni i gyd ar ein colled.
CYFRIFOLDEB A RENNIR
Saif y cyfrifoldeb am gam-drin gyda’r rheini sy’n ei gyflawni. Serch hyn, mae gan y rheini ohonom sydd â llwyfannau cyhoeddus ddyletswydd i sicrhau bod yr her yn parhau i ganolbwyntio ar fudiadau a’u penderfyniadau, nid ar weithwyr unigol, a dyletswydd i gondemnio targedu’n glir pan fydd yn digwydd.
Y prawf go iawn yw a ydyn ni’n cymhwyso’r egwyddor honno’n gyson, hyd yn oed pan fydd y rheini sy’n cael eu targedu yn cynrychioli achos neu sefyllfa rydyn ni’n anghytuno’n gryf ag ef.
Dylai trais yn erbyn pobl mewn bywyd cyhoeddus ar draws y sbectrwm gwleidyddol wneud i bob un ohonom wrthod dad-ddyneiddio, codi ofn a bygythiadau’n gyflymach ac yn fwy cyson, pwy bynnag y maen nhw’n ei dargedu.
SEFYLL GYDA’N GILYDD
Mae cost ymarferol hefyd. Mae diogelwch, monitro cyfryngau cymdeithasol, cyngor cyfreithiol a chyfathrebu a chefnogaeth ychwanegol i staff yn creu pwysau sylweddol na gynlluniwyd ar eu cyfer. Rhaid i’r llywodraeth a chyllidwyr gydnabod y pwysau hynny a bod yn barod i helpu pan fydd risgiau credadwy.
Nid rôl CGGC yw cysgodi mudiadau gwirfoddol rhag cwestiynau anodd. Ei rôl yw amddiffyn yr amodau lle gall gweithredu gwirfoddol ffynnu, a lle gall pobl gyfrannu at fywyd cyhoeddus heb bryderu am eu diogelwch.
Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn dod â rhanddeiliaid a chynrychiolwyr o bob rhan o’r sector gwirfoddol ynghyd. Byddwn yn sefyll mewn undod â’r rheini sy’n cael eu targedu ac yn trafod sut gallwn gefnogi pobl a diogelu’r amodau y mae ein democratiaeth yn dibynnu arnynt.
Heriwch y polisi. Trafodwch y sefyllfa. Profwch y dystiolaeth.
Ond rhowch gorau i droi’r bobl sy’n gweithio i elusennau yn dargedau.
CADW MEWN CYSYLLTIAD
Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd ar draws y sector gwirfoddol yng Nghymru.
*Saesneg yn unig