Gwnaeth CGGC, Data Cymru, Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru ac Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru gydweithio’n ddiweddar ar ddigwyddiad Ennyn Effaith Gwerthuso gwasanaethau rheng flaen – BETH SY’N GWEITHIO? Yma, mae Mike Corcoran, a siaradodd yn y digwyddiad, yn rhannu ei farn ef ar werthusiad.
D’oes dim prinder o gyngor ar gael i’r rheini ohonom sydd â diddordeb mewn gwerthuso gwasanaethau rheng flaen. Mae’r ‘Canllaw Cyflwyniadol i Werthuso’ yn siop un stop gan Data Cymru sy’n gallu ymgyfarwyddo unrhyw un yn gyflym â’r termau, cysyniadau ac egwyddorion. Mae Llyfrau ‘Gwyrdd‘ a ‘Magenta‘ Llywodraeth y DU yn darparu canllawiau manwl ar gyfer llunwyr polisi a dadansoddwyr ar sut y dylid asesu ac adolygu polisïau a phrosiectau. Mae mudiadau a phrosiectau fel Inspiring Impact a Better Evaluation yn cynnig cyfoeth o adnoddau gwerthuso am ddim ar-lein, fel rydyn ni’n ei wneud ar Sylfaen Wybodaeth Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru. A dim ond crafu’r wyneb ydw i yma!
Ond cyn i fi droi at yr un o’r rhain, rwy’n hoffi dechrau trwy gadw tri pheth syml ar flaen fy nghof – mantrâu sy’n sicrhau nad wyf yn anghofio’r hyn sydd ei angen ar y gwerthusiad gorau.
-
Rydyn ni’n cael ein condemnio i gael effaith
Jean-Paul Sartre a ddywedodd y geiriau enwog, ‘caiff dyn ei gondemnio i fod yn rhydd’[1], oherwydd unwaith y cawn ein taflu i mewn i’r byd, nid oes gennym unrhyw ddewis ond cymryd cyfrifoldeb dros ein gweithrediadau. Gan gymryd ein hysbrydoliaeth oddi wrtho ef, gellir dweud fod gwerthuswyr yn ‘cael eu condemnio i gael effaith’, oherwydd unwaith rydyn ni’n taflu ein hunain i mewn i werthuso, nid oes gennym ddewis ond effeithio ar fywydau pobl.
Pan fyddwn yn gwerthuso gwasanaethau rheng flaen, pur anaml y byddwn yn gwerthuso gwasanaeth heb gynnwys defnyddwyr y gwasanaeth hwnnw mewn rhyw fodd: a pha un ag y mae’n eu cynnwys ai peidio, mae’r weithred o werthuso (neu o beidio â gwerthuso!) yn cael effaith. Pan fyddwn ni’n gofyn i rywun rannu ei brofiad, mae’n effeithio arno. Pan na fyddwn ni’n gofyn iddo, mae’n effeithio arno. Pan fyddwn ni’n gofyn i arsylwi ar ymddygiad rhywun, mae’n effeithio arno. Pan fyddwn ni’n arsylwi ar rywun heb ddweud wrtho, mae’n effeithio arno. Mae gan bob gweithred rydyn ni’n ei chyflawni fel gwerthuswyr ganlyniadau, a’n cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod y canlyniadau hynny’n arwain at effeithiau cadarnhaol i gymaint â phosibl o bobl. Pan fydd yn cael ei wneud yn dda, gall gwerthuso wella’r effeithiau a gyflwynir i’r bobl rydyn ni’n eu gwasanaethu, a dylid ei drin yr un mor bwysig â phob rhan arall o’r gwasanaeth.
-
Nid pwyntiau data yw pobl
Mae pob un ohonon ni’n defnyddio data pan fyddwn ni’n gwerthuso, ond rhaid i ni gofio bob amser nad pwyntiau data yw pobl! Mae pob ‘x’ ar graff yn cynrychioli unigolyn, â safbwyntiau, teimladau a phrofiadau: mae deall hyn yn amhrisiadwy os ydym i gael y mewnwelediadau dwfn ac awgrymedig hynny sydd eu hangen i wneud synnwyr o’r darlun arwynebol a gyflwynir i ni drwy’r ystadegau, a gwneud gwelliannau ystyrlon i’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu. Rhaid i ni fyth anghofio mai’r bobl hyn yw’r gwir arbenigwyr yn y gwasanaethau rydyn ni’n ceisio eu gwella, a byddai methu â manteisio i’r eithaf ar eu harbenigedd yn ein dadansoddiad yn gyfle enfawr i’w golli.
Heblaw am hynny, dangos parch tuag at werth cynhenid y bobl rydyn ni’n eu gwerthuso yw’r peth iawn i’w wneud! Mae cyd-gynhyrchu’n seiliedig ar bump egwyddor, a’r egwyddor gyntaf yw ‘Gwerthuso pob cyfranogwr, ac adeiladu ar ei gryfderau’. Pryd bynnag y mae gennym reswm da dros gredu fod y bobl hynny sy’n destun ein gwerthusiad eisiau cymryd rhan uniongyrchol ynddo, dylent gael cyfle i wneud hynny, a chymryd cymaint o ran ag y maen nhw’n dymuno.
-
Mae gennych chi ganiatâd i fod yn greadigol!
Nid yw gwerthuso mewn modd trwyadl, cadarn a dibynadwy yn eich rhwystro rhag mynd ati mewn ffyrdd creadigol. I’r gwrthwyneb, heb fod yn greadigol, byddwn yn llawer llai tebygol o ddod o hyd i ffyrdd o werthuso sy’n llwyr ddiwallu anghenion a dymuniadau’r bobl rydyn ni’n eu cynnwys, neu o gyflwyno’r effeithiau mwyaf i’r bobl rydyn ni’n eu gwasanaethu. Ni fyddwn chwaith yn cael hanner cymaint o hwyl!
Nid yw bod yn greadigol yn golygu torri’r rheolau, nac esgeuluso’r rhwymedigaethau sydd gennym i’n cyllidwyr a’n rhanddeiliaid. Yn hytrach, mae’n golygu deall sut, o fewn y cyfyngiadau hyn, y gallwn deilwra a phersonoli ein dulliau i’n cyd-destunau penodol ein hunain. Os oedd Claude Monet a Jackson Pollock yn gallu creu darnau o waith mor amrywiol o fewn cyfyngiadau ychydig o droedfeddi sgwâr o gynfas, gallwn ni ddod o hyd i ffyrdd o gyflwyno effaith bob amser o fewn cyfyngiadau gofynion adrodd ein cyllidwyr. Mae llawer o’r gwaith caled wedi’i wneud i ni. Ym mhob cwr o’r byd, mae ysblander o ddulliau creadigol o ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau, casglu data a gwerthuso gwasanaethau ar waith: wedi’u defnyddio, eu profi a’u seilio ar gyngor eglur a pharchus, hawdd ei gael.
Yn 2019, lansiodd Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru ‘Mesur yr Hyn sy’n Bwysig’. Wedi’i gomisiynu, ei ddylunio a’i ddatblygu ar y cyd â’n haelodaeth, mae Mesur yr Hyn sy’n Bwysig yn offeryn mynediad agored sydd, drwy gyfres fer o gwestiynau hunanasesu, yn eich arwain yn uniongyrchol at ganllawiau sydd wedi’u cyhoeddi ar yr amrywiaeth o ddulliau gwerthuso sy’n gymesur â dymuniadau’r bobl rydych chi’n gwneud y gwerthusiadau â nhw, y bobl rydych chi’n gwerthuso ar eu cyfer, a chi – ffordd wych o ddechrau meddwl yn greadigol!
Mae Mike yn helpu sefydliadau o bob lliw a llun ym mhob cwr o’r byd i egluro eu strategaethau, cyfleu eu syniadau ac ymhél â’u cynulleidfaoedd mewn ffyrdd arloesol a chreadigol. Mae’n gydymaith hirdymor o Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, ac arweiniodd y gwaith o ddatblygu offeryn gwerthuso’r Rhwydwaith, ‘Mesur yr Hyn sy’n Bwysig’.
Bu Mark Corcoran yn siarad yng ngweithdy Ennyn Effaith Data Cymru a Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), ‘Gwerthuso gwasanaethau rheng flaen – BETH SY’N GWEITHIO? ar ddydd Mercher 12 Chwefror 2020 yn Nhŷ’r Llywodraeth Leol, Caerdydd.
[1] Jean-Paul Sartre, o’r ddarlith, “Existentialism is a Humanism” (1946)