Syniadau da i elusennau sy’n ymgyrchu yn ystod etholiadau’r Senedd

Syniadau da i elusennau sy’n ymgyrchu yn ystod etholiadau’r Senedd

Cyhoeddwyd: 16/04/21 | Categorïau:
Warning: Invalid argument supplied for foreach() in /home2/wcva/ET0KZV18/htdocs/wcva2021/wp-content/themes/designdough/single-view.php on line 62
Awdur: David Cook

Mae Swyddog Polisi CGGC, David Cook, yn rhannu rhai pwyntiau i fudiadau gwirfoddol eu hystyried wrth agosáu at etholiad y Senedd eleni ar 6 Mai.

Bydd canlyniad etholiad nesaf y Senedd yn cael effaith fawr ar fuddiolwyr llawer o fudiadau’r sector gwirfoddol. Mae hyn yn golygu bod llawer o fudiadau eisiau manteisio ar y cyfle hwn i siarad ag ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol ynghylch y materion sydd o bwys iddyn nhw. Mae’r blog hwn yn amlygu rhai syniadau da i helpu elusennau a grwpiau cymunedau i wneud yr union beth hynny, gan gadw at y rheolau ynghylch ymgyrchu yn ystod cyfnodau etholiadau.

YMGYRCHU’N GYFFREDINOL

Mae gan y Comisiwn Elusennau gyngor i elusennau sy’n dymuno ymgyrchu ar faterion sydd o bwys iddyn nhw a’u buddiolwyr. Dylech ddarllen hwn yn ofalus os ydych chi’n debygol o fod yn cynnal ymgyrch wleidyddol. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi bod y rheolau hyn yn gofyn i’ch ymgyrch fod yn berthnasol i’ch dibenion elusennol a bod yn wleidyddol niwtral.

Mae’r rheolau hyn hefyd mewn grym yn ystod cyfnod etholiad, ond mae gofynion eraill y bydd angen i chi eu hystyried.

YMGYRCHU YN YSTOD ETHOLIADAU 2021

Rydyn ni nawr yn y cyfnod yn union cyn Etholiadau 2021 y Senedd, gyda’r ymgyrchoedd gwleidyddol yn dechrau o ddifrif. Mae hwn yn gyfnod cymhleth i fudiadau sy’n ymgyrchu. Mae nifer o reoliadau sy’n rheoli pa weithgarwch y gellir ac na ellir ei wneud. Dyma rai syniadau defnyddiol ar gyfer ymlwybro drwy’r cyfnod ymgyrchu’n llwyddiannus.

Dewch yn gyfarwydd â’r canllawiau swyddogol

Dim ond trosolwg o’r rheoliadau sy’n ymwneud ag ymgyrchu yn ystod y cyfnod hwn a geir yn y blog hwn. Mae canllawiau’r Comisiwn Elusennau yn nodi’n glir sut gallwch chi ymgyrchu dros faterion sy’n bwysig i’ch elusen, gan hefyd sicrhau bod eich elusen yn parhau i fod yn annibynnol o wleidyddiaeth. Mae canllawiau’r Comisiwn Etholiadol hefyd yn amlinellu’r hyn y gallwch ac na allwch ei wneud.

Gwyliwch eich gwario

Os ydych chi’n bwriadu gwario dros £10,000 ar ymgyrchu yn ystod y cyfnod hwn (gan gynnwys yn ystod etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu), mae’n rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda’r Comisiwn Etholiadol fel ymgyrchydd nad yw’n blaid.

Ni allwch wario mwy na £30,000.

Cynlluniwch eich ymgyrchu’n ofalus

Mae rheolau ynghylch pa weithgareddau a reoleiddir gan y Comisiwn. Bydd y gwario’n cael ei reoleiddio os bydd y gweithgaredd arfaethedig yn pasio un o ddau brawf y Comisiwn – y Prawf Diben a’r Prawf Cyhoeddus.

Y Prawf Diben

Mae hwn yn ymwneud â

  • chynadleddau i’r wasg neu ddigwyddiadau eraill ar y cyfryngau
  • trafnidiaeth mewn cysylltiad â rhoi cyhoeddusrwydd i’ch ymgyrch

Rheoleiddir gwariant a allai ddylanwadu ar bobl i bleidleisio dros neu yn erbyn:

  • un blaid wleidyddol neu ragor
  • pleidiau neu ymgeiswyr gwleidyddol sy’n cefnogi neu’n gwrthod cefnogi polisïau neu faterion penodol
  • categorïau o ymgeiswyr (er enghraifft, y rheini mewn grŵp oed penodol)

Y Prawf Cyhoeddus

Hyd yn oed os byddant yn bodloni’r Prawf Diben, bydd y gweithgareddau canlynol dim ond yn weithgareddau a reoleiddir os byddant hefyd yn bodloni’r Prawf Cyhoeddus – hynny yw, os yw’r gweithgaredd wedi’i anelu at, yn cynnwys, yn cael ei weld neu ei glywed gan y cyhoedd, neu ran o’r cyhoedd:

  • deunydd etholiadol– taflenni, hysbysebion, gwefannau
  • canfasio ac ymchwil i’r farchnad
  • ralïau neu ddigwyddiadau cyhoeddus

Ni ystyrir aelodau a ‘chefnogwyr ymroddgar’ eich mudiad yn rhan o’r cyhoedd yn yr achos hwn.

Cofiwch gynnwys eich Bwrdd

Cofiwch y dylai Bwrdd eich mudiad gael gwybod am unrhyw benderfyniadau ymgyrchu yr ydych chi’n ei wneud yn ystod y cyfnod hwn. Mae’n bosibl y byddant yn gallu rhoi cyngor i chi hefyd!

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â policy@wcva.cymru, ond noder na all CGGC gynnig cyngor cyfreithiol.