Mae Siân Eagar, Swyddog Gwydnwch CGGC, yn crynhoi rhai o’r prif bwyntiau dysgu o’n digwyddiad costau byw, ‘Gwneud penderfyniadau mewn argyfwng’.
Fel rhan o gyfres fechan CGGC o weminarau ar yr argyfwng costau byw, gwnaethon ni wahodd Bev Garside o The Female Alchemist i siarad â’r sector am sut i lywio risgiau ac ansicrwydd a gwneud penderfyniadau mewn argyfwng.
Mae mudiadau gwirfoddol ar hyd a lled Cymru yng nghanol yr argyfwng costau byw presennol, yn brwydro i barhau i wasanaethu eu cymunedau a chynnal eu mudiadau. Mae gwydnwch y sector gwirfoddol ar brawf unwaith eto, wrth i fudiadau wynebu’r her ddwbl o alw uwch a chostau uwch.
Mae CGGC yn diffinio ‘gwydnwch’ fel a ganlyn:
‘Gallu mudiad i gynllunio ar gyfer, ymateb i, ac addasu i newid, gan ei alluogi i oroesi a ffynnu, nawr ac yn y dyfodol.’
Mae arweinyddiaeth, rheoli risg a gwneud penderfyniadau strategol i gyd yn agweddau allweddol o adeiladu gwydnwch, ond yng nghanol argyfwng, gyda llawer o alwadau cystadleuol, gall fod yn anodd gwybod sut i wynebu’r sefyllfa. Beth gall ymddiriedolwyr a rheolwyr ei wneud felly i sicrhau eu bod yn gwneud penderfyniadau da o dan y pwysau hwn?
CYMERWCH GAM YN ÔL, ASESWCH A CHYNLLUNIWCH
Yn ôl Bev, y cam cyntaf yw cydnabod effaith straen ar eich proses benderfynu. Mae wynebu argyfwng yn creu straen, sy’n gwneud i ni deimlo’n anesmwyth. Wedyn, drwy deimlo o dan bwysau i osgoi’r anesmwythder hwnnw, gallwn ni wneud penderfyniadau ymatebol na all, o bosibl, fod y datrysiad gorau.
Yn hytrach, mae angen i ni gymryd cam yn ôl, asesu’r sefyllfa a chynllunio ymateb a fydd yn ein harwain at wneud penderfyniadau gwell yn yr hirdymor. Gall fod yn anodd cymryd cam yn ôl yng nghanol argyfwng, ond drwy asesu’r blaenoriaethau ac ymdrin â phroblemau mewn modd strwythuredig, byddwch chi, yn y pen draw, yn arbed amser ac adnoddau, ac yn gallu bod yn ffyddiog eich bod wedi gwneud y penderfyniadau iawn.
Y CYLCH DYLANWAD
Cyngor Bev oedd canolbwyntio eich amser a’ch egni ar y problemau hynny sydd o fewn eich rheolaeth (ac nid y pethau nad ydynt wedi digwydd eto). Rhannodd Bev y model Cylch Dylanwad isod, sy’n dangos sut gallwch chi gategoreiddio problemau ar sail eich gallu i ddylanwadu arnyn nhw.
Y Cylch Dylanwad, Bev Garside, The Female Alchemist
Drwy ganolbwyntio ar y problemau yn y cylch cyntaf, y rhai y gallwch ac y dylech ddylanwadu arnyn nhw, gallwch chi gymryd rheolaidd drachefn a dechrau gwneud gwahaniaeth. Gallwch wedyn symud ymlaen i’r problemau mwy dyrys, lle bydd angen mwy o wybodaeth arnoch cyn gwneud eich penderfyniadau (a pheidio â gwastraffu amser ar y pethau na allwch chi ddylanwadu arnynt neu’r pethau na fydd yn digwydd o bosibl). Mae’r adnodd syml hwn yn helpu i ffocysu penderfyniadau, a gall fod o fudd i holl aelodau’r tîm fel modd o flaenoriaethu tasgau.
COFRESTR RISG SEFYLLFAOL
Gwnaeth Bev ein hatgoffa hefyd o bwysigrwydd asesu risg, a sut gall hyn fynd o’i le mewn sefyllfa argyfwng. Gall y problemau y mae pobl yn gweiddi amdanynt dynnu eich sylw yn hawdd, pan nad y rhain, o bosibl, yw’r rhai a allai effeithio fwyaf ar eich mudiad. Gallwch chi roi sylw i hyn drwy greu cofrestr risg sefyllfaol, gan ddefnyddio’r dull sgorio Coch, Oren a Gwyrdd arferol i nodi’r problemau sydd angen eich sylw.
I wneud eich asesiad risg, mae angen i chi ddilyn y camau canlynol –
- Ysgrifennwch restr o’r risgiau sy’n wynebu eich mudiad
- Rhowch sgôr i bob risg sy’n nodi pa mor debygol yw hi o ddigwydd (1 = isel, 5 = uchel)
- Rhowch sgôr i bob risg sy’n cynrychioli graddfa’r effaith pe bai’r digwyddiad yn digwydd (1 = isel, 5 = uchel)
- Lluoswch y rhifau o bwyntiau 2 a 3 i roi sgôr risg gyffredinol y byddwch chi’n ei chategoreiddio fel Coch – Uchel, Oren – Canolig, Gwyrdd – Isel
- Nodwch y pethau y gallwch chi eu gwneud i liniaru (leihau) y risg. Cofiwch feddwl am bethau y gallwch chi eu gwneud i leihau’r tebygolrwydd a’r effaith
- Penderfynwch pwy fydd yn gyfrifol am wneud y gwaith sydd angen ei wneud i liniaru’r risg
- Cytunwch ar amserlen i adolygu’r risg
Dangosir enghraifft o ran o gofrestr risg isod:
Trwy ddilyn y broses asesu risg hon, byddwch chi’n gweld y problemau sy’n cyflwyno’r bygythiad mwyaf i’ch mudiad, sef y rhai sydd angen eich sylw. Mae’r broses hon yn sicrhau eich bod yn gwbl ymwybodol o sefyllfa eich mudiad, eich bod yn canolbwyntio eich amser a’ch adnoddau ar y pethau sydd o bwys a’ch bod chi mor barod â phosibl.
CYNEFINWCH AG ANSICRWYDD
Gwnaeth Bev annog pobl i gydnabod y bydd ansicrwydd yn rhan o’n proses benderfynu am beth amser – felly mae angen i ni gynefino â hynny. Mae angen i arweinwyr fod yn barod i wneud penderfyniadau interim ar y wybodaeth sydd wrth law ac yna eu hadolygu wrth i’r sefyllfa ddatblygu.
Bydd gwneud penderfyniadau amserol yn bwysig, ac mae hynny’n cynnwys cydnabod y gall peidio â gwneud unrhyw beth yn ei hun fod yn risg i fudiad. Fodd bynnag, nid yw hynny’n golygu bod angen rhuthro penderfyniadau, weithiau mae angen gwerthuso ac aros. Rhybuddiodd Bev bobl rhag cael eu rhoi dan bwysau i ymateb i amserlenni pobl eraill, oni bai bod angen i gydymffurfio.
Hyd yn oed mewn argyfwng, mae’n rhaid i ni roi amser i’n hunain i feddwl, asesu, blaenoriaethu a chynllunio.
RHAGOR O WYBODAETH
Mae Bev Garside, The Female Alchemist (Saesneg yn unig), yn asiant newid cymwys gyda mwy na 30 mlynedd o brofiad o weithio gyda mudiadau yn y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol. Mae Bev yn cynnig amrediad o wasanaethau ymgynghori, gan gynnwys rheoli ymyriadau critigol, rheoli newid, arweinyddiaeth a hyfforddiant, ac yn cydweithio â chleientiaid i gyflawni newid effeithiol.
Mae CGGC wedi creu tudalen adnoddau ar gyfer yr argyfwng costau byw, gan gynnwys adran ar lywodraethu a gwneud penderfyniadau.
I gael rhagor o wybodaeth am broblemau rheoli sy’n berthnasol i’r argyfwng costau byw, edrychwch ar y blog hwn gan Alison Pritchard, Rheolwr Cyllid Cynaliadwy CGGC, am bwysigrwydd gwneud penderfyniadau da wrth godi arian.
Mae Siân yn crynhoi’r prif bwyntiau dysgu o gyflwyniad diweddar Gus Williams ar reolaeth ariannol yn ystod yr argyfwng costau byw.