Mae’r rhwydweithiau cenedlaethol o bob rhan o’r sector gwirfoddol wedi cwrdd i drafod COVID-19 a sut gall y sector gwirfoddol gyfrannu at y gwaith o gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed yn ystod y cyfnod hwn. Dyma adroddiad Ben Lloyd, Pennaeth Polisi CGGC, ar y cyfarfod hwnnw.
Ar hyd a lled Cymru, mae mudiadau gwirfoddol wedi bod yn symud yn gyflym i sicrhau y gallant gynorthwyo eu cymunedau yn ystod yr argyfwng hwn. Rydyn ni wedi gweld grwpiau cymorth yn datblygu yn y gymuned, yn ogystal â lefelau eithriadol o ymrwymiad gan wirfoddolwyr cyfredol mewn cymunedau a lleoliadau iechyd.
Gwnaeth y cyfarfod drafod cynigion ar sut gallai Llywodraeth Cymru gefnogi pobl ar incymau isel orau drwy’r cyfnod adnodd hwn.
Fodd bynnag, er bod mwy a mwy o alw am wasanaethau elusennol, mae rhai elusennau’n wynebu cyfnod ariannol fwyfwy anodd – mae’r gallu i godi arian wedi cael ei lesteirio wrth i ddigwyddiadau, fel marathonau a gweithgareddau codi arian eraill gael eu gohirio, fel sy’n iawn i’w wneud. Gall hyn roi rhai mudiadau gwirfoddol mewn sefyllfa beryglus iawn: nid oes gan 24% o elusennau sy’n creu llai nag £1 miliwn o incwm unrhyw arian wrth gefn.
Gwnaethom godi’r materion hyn gyda Llywodraeth Cymru, a amlinellodd y camau roeddent yn gobeithio eu cymryd i gefnogi’r sector gwirfoddol. Yn galonogol, gwnaethant nid yn unig siarad am sefydlogrwydd ar unwaith, ond hefyd am roi cefnogaeth i fudiadau sy’n gweld ymchwydd mewn gwirfoddoli ac am adeiladu gwydnwch yn y dyfodol.
Wrth i ni symud ymlaen drwy’r cyfnod hwn sy’n rhoi straen ar ein cymdeithas a’n gwasanaethau cyhoeddus, bydd angen i’r sector gwirfoddol newid y ffordd y mae’n gweithredu er mwyn gwneud yn siŵr y bydd yn gallu chwarae ei ran yn y gwaith o helpu pobl drwy hyn. Bydd hyn yn cynnwys newid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, gobeithio gyda chefnogaeth cyllidwyr a rheoleiddwyr, er mwyn sicrhau y gall gofynion rheoleiddio fod yn fwy hyblyg yn ystod y cyfnod hwn. Gwnaethom ailadrodd ein pryderon i Lywodraeth Cymru.
Mae’r sector gwirfoddol, ynghyd â gweddill y wlad, yn wynebu heriau sylweddol. Er ein bod yn nodi’n glir y gallwn sicrhau ein bod yn rhan o’r datrysiad gyda’r gefnogaeth gywir, rydyn ni hefyd yn nodi’n glir ei fod yn bosibl na fydd llawer o fudiadau gwirfoddol yn adfer ar ôl yr argyfwng hwn heb y gefnogaeth gywir. Mae angen y gefnogaeth gywir gan lywodraethau, rheoleiddwyr a chyllidwyr er mwyn cadw’r sector yn un lewyrchus i’r dyfodol.