menyw mewn mwgwd yn handio draw bag llawn bwyd

Sut ydym ni’n cael yr effaith wirfoddoli fwyaf bosibl ar ôl y pandemig?

Cyhoeddwyd: 28/10/20 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Fiona Liddell

Mae Fiona Liddell, Rheolwr Helplu Cymru yn CGGC yn dadlau mai nawr yw’r amser i ailbrisio potensial gwirfoddoli er mwyn cyflawni canlyniadau cadarnhaol i’ch mudiad.

Mae pandemig Covid-19 wedi gosod straen ddigyffelyb ar ein gwasanaethau cyhoeddus ac, ar yr un pryd, wedi cyflwyno llawer o syniadau arloesol. Mae sectorau statudol a gwirfoddol wedi gorfod dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio gyda’i gilydd a chyda niferoedd mawr o wirfoddolwyr cymunedol.

Mewn llawer o achosion, bu gwirfoddolwyr yn rym hyblyg, ymatebol a thosturiol, a heb y rhain, ni fyddai anghenion cymunedol sylfaenol wedi’u diwallu.  Mae llawer ohonynt yn awyddus i barhau i wirfoddoli ar ôl argyfwng Covid-19.

PROFIAD DIWEDDAR

Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos rhai o’r partneriaethau a ffyrdd o weithio newydd sydd wedi datblygu yn ystod y misoedd diwethaf; ac maen nhw i gyd yn dibynnu ar wirfoddolwyr.

CANLYNIADAU GWIRFODDOLI

Nawr, wrth i ni ddisgwyl yn ochelgar am y posibilrwydd o gyfyngiadau pellach, rydyn ni hefyd yn ceisio edrych ymlaen, gan ail-lunio ein bywydau a’n mudiadau ar gyfer y ‘normal newydd’.

Sut gallwn ni adeiladu ar y diddordeb newydd hwn mewn gwirfoddoli er mwyn creu mwy o wydnwch a mwy o wasanaethau cydlynol? Sut gallwn ni sicrhau bod gwirfoddoli’n cyflwyno cymaint â phosibl o fuddion neu ‘ganlyniadau’?

Mae gwirfoddoli’n cyflwyno buddion di-ri i fuddiolwyr, gwirfoddolwyr a mudiadau, a gall gyd-fynd ag amcanion ac ethos eich mudiad mewn gwahanol ffyrdd.

Mae CGGC a Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda’i gilydd i gynhyrchu fideos i ddangos rhai ffyrdd y mae gwirfoddolwyr yn cyflawni canlyniadau ym maes iechyd a gofal. Cawsant eu ffilmio ychydig cyn y cyfyngiadau symud, ac maen nhw’n barod o’r diwedd i’w rhannu’n gyhoeddus:

Gwyddys hefyd fod gwirfoddoli’n cyflawni canlyniadau cadarnhaol i’r rheini sy’n gwirfoddoli (Saesneg yn unig), yn enwedig o ran llesiant meddwl a datblygu sgiliau newydd.

Mae’n cyflawni canlyniadau ar gyfer mudiadau hefyd. Mae Helplu (Saesneg yn unig) wedi bod yn casglu tystiolaeth o brosiectau peilot ar y rôl y gall gwirfoddolwyr ei chwarae o ran gwella moral a chynhyrchiant staff, yn ogystal â phrofiad cleifion mewn ysbytai.

Gall gwirfoddolwyr hefyd helpu i ehangu amrywiaeth o fewn mudiadau a chyflawni gwasanaethau mwy cyfartal, er enghraifft, drwy helpu i fynd i’r afael â rhwystrau ieithyddol neu ddiwylliannol.

Rydym wedi mapio rhai o’r gwahanol ffyrdd y mae gwirfoddoli’n cefnogi’r dyheadau a ddisgrifir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – y saith nod llesiant a’r pum ffordd o weithio. I gael y buddion mwyaf posibl o wirfoddoli, rhaid talu sylw dyledus at sut y caiff gwirfoddoli ei gynllunio a’i gefnogi, yn ogystal ag at raglenni gweithgareddau gwirfoddolwyr.

SYMUD PETHAU YMLAEN

Byddem yn annog unrhyw fudiad gwasanaeth cyhoeddus i feddwl am sut gall cynnwys gwirfoddolwyr helpu i gyflawni canlyniadau gwell – i fuddiolwyr, staff ac i’r gwirfoddolwyr eu hunain.

Mae ein siarter cydberthnasau gwirfoddoli a’r gweithle, a gyd-gynhyrchwyd â TUC Cymru, yn nodi egwyddorion clir ar gyfer cynnwys gwirfoddolwyr yn llwyddiannus mewn gweithleoedd cymysg o staff a gwirfoddolwyr. Mae angen cwmpasu a chynllunio gwirfoddoli’n briodol, ei gyflwyno mewn ymgynghoriad â’r gweithlu a’i gefnogi gyda’r hyfforddiant a’r oruchwyliaeth angenrheidiol. Dylid diffinio rolau’r staff a gwirfoddolwyr yn eglur a’r gwahaniaethau rhyngddyn nhw.

Mae’r siarter a’i defnydd wedi’i chymeradwyo mewn cyfres o gyfweliadau fideo â chydweithwyr yn GIG Caerdydd a’r Fro (Saesneg yn unig) (ac hefyd yma (Saesneg yn unig)), Cyngor Sir Fynwy (Saesneg yn unig), Amgueddfa Genedlaethol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (Saesneg yn unig).

Caiff egwyddorion arfer gorau ar gyfer gwirfoddoli eu diffinio yn safon ansawdd y DU ar gyfer gwirfoddoli: Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (Saesneg yn unig). Mae offeryn hunanasesu newydd, am ddim, a lansiwyd yn ddiweddar, yn rhoi cyflwyniad da i fudiadau sy’n ystyried cyflawni’r marc ansawdd llawn.

I gael cymorth ymarferol ar ddatblygu rhaglenni a pholisïau i wirfoddolwyr, bydd eich Cyngor Gwirfoddol Sirol yn falch o helpu. 

Astudiaeth achos gan Helplu Cymru. Mae Helplu yn gweithio gyda Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC ac 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli er mwyn cynorthwyo gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae’r dudalen Helplu ar ein gwefan yn cynnwys dolenni i erthyglau, blogiau a straeon achos diweddar.