HERE
Sut y gall Llywodraeth Cymru amddiffyn y sector gwirfoddol ar ôl COVID-19

Sut y gall Llywodraeth Cymru amddiffyn y sector gwirfoddol ar ôl COVID-19

Cyhoeddwyd: 18/02/21 | Categorïau: Awdur: John Griffiths MS

Mae John Griffiths, Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain Casnewydd a Chadeirydd Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau’r Senedd yn ysgrifennu am ymchwiliad diweddar y Pwyllgor yn edrych ar effaith COVID-19 ar y sector gwirfoddol.

Yn nhymor yr hydref 2020, dechreuodd Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau’r Senedd ddarn penodol o waith yn canolbwyntio ar effaith COVID-19 ar y sector gwirfoddol.

Fel Aelodau unigol o’r Senedd, roeddem i gyd yn ymwybodol o’r gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud gan wirfoddolwyr, staff a’r sector ehangach yn ein hetholaethau a’n rhanbarthau ein hunain. Roeddem ni’n gallu gweld y rôl hanfodol roedden nhw’n ei chwarae wrth ymateb i’r argyfwng a chefnogi pobl drwy’r pandemig. O fynd i siopa a chasglu presgripsiynau ar ran eraill i wasanaethau cyfeillio i fynd i’r afael ag unigrwydd, mae’r sector wedi bod ar flaen y gad wrth ymdrechu i helpu’r bobl fwyaf anghenus. Ond roeddem ni’n gwybod hefyd fod y sector o dan bwysau aruthrol. Yn yr hydref y llynedd, gwnaethom benderfynu ymchwilio i’r hyn y gellid ei wneud, os o gwbl, i gefnogi’r sector, yn enwedig cyn yr ail don o achosion a ddisgwyliwyd a’r posibilrwydd o fwy o gyfyngiadau symud.

Casglwyd tystiolaeth gan randdeiliaid allweddol gan gynnwys Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, gwahanol Gynghorau Gwirfoddol Sirol o bob rhan o Gymru, sefydliadau trydydd sector, cyllidwyr, gweithwyr rheng flaen a gwirfoddolwyr. Roeddem yn gwerthfawrogi’n arbennig yr amser a gymerodd pobl o’u gwaith prysur, boed yn waith â thal neu’n ddi-dâl, i rannu eu profiadau a’u syniadau â ni.

Roedd yn amlwg iawn o’r dystiolaeth bod y sector gwirfoddol yn chwarae rhan anfesuradwy wrth gefnogi gwasanaethau cyhoeddus a phobl i ymdopi â’r pandemig. Mae’r sector yn defnyddio ei ystwythder, ei sgiliau a’i wybodaeth leol i ddarparu’r cymorth a’r gwasanaethau sy’n diwallu anghenion cymunedau lleol orau. Rydym yn cymeradwyo’r holl waith caled a wneir gan y sector ac yn gwybod ei fod wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i unigolion a chymunedau ledled Cymru. Mae wedi helpu gyda’r anghenion mwyaf dybryd yn ystod y cyfnod heriol iawn hwn.

Wrth i’r cyfnod clo ddechrau ym mis Mawrth 2020, roedd hi’n llygedyn o obaith gweld cynifer o bobl yn cofrestru i wirfoddoli, a hithau’n gyfnod llwm ac ansicr i ni i gyd. Cawsom wybod bod 22,000 o bobl o bob rhan o Gymru wedi cofrestru i wirfoddoli erbyn diwedd mis Rhagfyr 2020. Nid yw’r ffigur hwn hyd yn oed yn cynnwys pawb a wirfoddolodd â’r GIG, y cymdogion a’r ffrindiau a helpodd ei gilydd, na’r rhai a sefydlodd grwpiau cydgymorth lleol, felly gwyddom mai diferyn yn y môr yw’r ffigur hwnnw.

Roedd yn wych gweld cymaint o frwdfrydedd ac ewyllys da cymunedol. Fodd bynnag, cawsom wybod bod y strwythurau gwirfoddoli presennol o dan straen aruthrol wrth geisio rheoli nifer y bobl a gofrestrodd. Credwn y gallwn ddysgu gwersi o hyn am sut i reoli a chefnogi gwirfoddolwyr wrth ymateb i unrhyw argyfyngau yn y dyfodol.

Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd yn amlwg bod y sector yn wynebu dyfodol heriol. Mae hynny wedi gwaethygu yn sgil COVID, wrth i’r sector golli nifer o ffrydiau incwm fel digwyddiadau codi arian, a gorfod cau siopau elusennol am gyfnodau estynedig. Cawsom wybod y gallai’r sector wynebu ergyd ddwbl dros y blynyddoedd nesaf gyda llai o incwm ond mwy o alw am wasanaethau a chymorth. Roedd yn bryder arbennig i ni ei bod yn ymddangos mai ar y sefydliadau hynny sydd wedi arallgyfeirio eu ffrydiau ariannu dros y blynyddoedd diwethaf i’w gwneud yn llai dibynnol ar grantiau a chyllid y Llywodraeth y mae’r cyfyngiadau symud wedi effeithio fwyaf.

Dyna pam rydym wedi galw am ymestyn y gefnogaeth sydd ar gael i’r sector ar hyn o bryd y tu hwnt i’r argyfwng presennol. Nid ydym am weld sefydliadau sydd wedi chwarae rhan hanfodol wrth ymateb i’r pandemig yn cau dim ond am fod cyllid yn brin. Rydym yn ymwybodol hefyd fod rhai o’r heriau hyn yn effeithio’n arbennig ar y sector pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r rhwystrau y maent yn eu hwynebu, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar yr holl gyllid posibl.

Wrth edrych i’r dyfodol, credwn hefyd y gall sector gwirfoddol chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o wella ar ôl COVID-19, ac y bydd yn gwneud hynny. Rhaid manteisio ar egni, brwdfrydedd ac arbenigedd y sector i sicrhau ein bod yn cael adferiad teg a chyfiawn.

Gwnaethom gyfanswm o 20 o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Mae gan Lywodraeth Cymru chwe wythnos i ymateb i bob un o’r argymhellion, ac yna bydd ein hadroddiad ac ymateb Llywodraeth Cymru yn cael eu trafod yn y Cyfarfod Llawn, pan fydd cyfle i’r holl Aelodau gyfrannu.