O brisiau uwch i anawsterau wrth geisio recriwtio staff, mae Ben Lloyd, Pennaeth Polisi CGGC, yn rhoi ychydig o adborth difrifol i ni o’n hymgysylltiad diweddar â’r sector gwirfoddol ynghylch y costau byw.
Mae CGGC wedi bod yn ymgysylltu â’r sector ynghylch yr effaith y mae’r argyfwng costau byw yn ei chael ar y bobl y mae’n gweithio gyda nhw, yn ogystal â’r effaith ar y mudiadau eu hunain. Fel y corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru, ni sydd yn y sefyllfa orau i gynrychioli’r sector pan rydyn ni wedi clywed ganddynt am y materion sy’n effeithio arnyn nhw. Ynghyd â dwsinau o ryngweithiadau ag aelodau, derbynyddion grant, a mudiadau eraill, rydyn ni wedi ymgysylltu’n fwy ffurfiol mewn tair ffordd:
- Gwnaethom ni lansio arolwg ar gyfer y sector
- Gwnaethom ni gynnal digwyddiad bord gron, gan gydweithio â Chyngor ar Bopeth Cymru
- Rydyn ni wedi siarad â rhwydweithiau Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector ynghylch profiadau eu haelodau eu hunain.
CANFYDDIADAU CYFFREDINOL
Dangosodd ein harolwg bryder cyffredinol ynghylch effaith y prisiau uwch. Roedd pob mudiad a ymatebodd i’n harolwg ni yn disgwyl cynnydd mewn costau i’r bobl y maen nhw’n gweithio gyda nhw, a 98% ohonynt yn disgwyl cynnydd sylweddol. O ganlyniad, mae 95% o fudiadau yn disgwyl gweld cynnydd yn y galw am eu gwasanaethau.
Mae llawer o’r mudiadau hyn wedi amlygu nad yw nifer uwch o bobl yn gallu diwallu eu hanghenion sylfaenol. Er enghraifft, dywedodd un mudiad yn Rhondda Cynon Taf wrthym fod y ffaith bod gan eu cleientiaid ‘lai o sefydlogrwydd ariannol, a llai o allu i fodloni ymrwymiadau ariannol bob dydd [yn golygu] na allant ymateb i argyfwng / taliadau brys, a’u bod yn syrthio’n ddyfnach i ddyled.
Disgwylir mai’r sbardun mwyaf yn y costau cynyddol fydd biliau ynni, i unigolion a mudiadau, gydag oddeutu dwy ran o dair o’r ymatebwyr yn dewis hwn fel y prif sbardun yn y ddau gwestiwn.
Bydd bwyd a rhent hefyd yn arwyddocaol i unigolion – roedd 13% a 10% o fudiadau yn disgwyl mai hwn fyddai un o’r prif broblemau i’r bobl y maen nhw’n gweithio gyda nhw, gydag eraill yn nodi problemau tebyg yn y blwch ‘arall’.
Mae mudiadau yn disgwyl gweld cynnydd mewn costau staffio, gyda 19% yn nodi hyn fel eu prif gost. Dewisodd 7% arall gostau trafnidiaeth. Caiff llai o roddion eu nodi yn y blwch ‘arall’.
Adlewyrchwyd y pryderon hyn yn ystod ein cyfarfod bord gron. Problem arall a amlygwyd droeon oedd yr her y mae mudiadau’r sector yn eu hwynebu wrth recriwtio staff. Mae hyn wedi bod yn anodd i lawer o fudiadau ers peth amser, ond mae wedi gwaethygu wrth i heriau ariannol ei gwneud hi’n anoddach rhoi contractau mwy hirdymor neu gynnig codiadau costau byw.
ANGHYDRADDOLDEB
Mae wedi’i brofi bod pwysau ariannol, fel y rhai rydyn ni eisoes yn eu profi drwy’r argyfwng Costau Byw, yn cael eu teimlo’n waeth gan rai carfannau o’r boblogaeth nag eraill. Bydd mwy o effaith ar bobl sydd eisoes yn byw mewn tlodi a’r rheini o gefndiroedd wedi’u hymyleiddio.
Mae unigolion sy’n syrthio i mewn i fwy nag un categori o risg uwch yn peri gofid arbennig i’r sector. I ddangos graddfa’r anghyfartaledd, cawsom wybod gan fudiad arbenigol y byddai’r costau bob dydd i bensiynwr â nam difrifol ar ei olwg 73 y cant yn uwch nag i rywun o’r un oedran heb nam ar ei olwg. O ganlyniad, bydd yn llawer mwy agored i gostau uwch tra bydd ar incwm sefydlog.
Mae menywod yn fwy tebygol o fod yn hawlio Credyd Cynhwysol, ac yn fwy tebygol o fod yn ddibynnol ar hwn tra byddant mewn gwaith. Yn y cyfamser, mae 46% o aelwydydd rhieni sengl (menywod yn bennaf) eisoes mewn tlodi.
Mae pobl o gymunedau ethnig lleiafrifol yn fwy tebygol o fod ar incymau is neu o fod yn wynebu mathau eraill o wahaniaethu.
Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr o grwpiau a fydd yn cael eu heffeithio’n anghymesur. Mae’n bwysig bod y sector gwirfoddol a’r sector cyhoeddus yn sylweddoli’r her ychwanegol a’r risg uwch i garfannau penodol o bobl, yn enwedig y rheini sy’n perthyn i nifer o grwpiau risg uwch ar yr un pryd.
GWIRFODDOLI
Mae CGGC wedi bod yn casglu tystiolaeth ar sut mae’r argyfwng costau byw yn debygol o effeithio ar wirfoddolwyr. Awgryma ymchwil diweddar gan NCVO mai’r cynllun ffyrlo oedd yn rhannol gyfrifol am yr ymchwydd mewn gwirfoddolwyr yn ystod pandemig COVID, a alluogodd unigolion oed gwaith i wirfoddoli. Ni fydd yr un yn wir yn ystod argyfwng costau byw.
Yn ogystal â hyn, mae CGGC wedi gweld cynnydd yn nifer y cyfleoedd gwirfoddoli sy’n cael eu hysbysebu heb unrhyw sôn eu bod yn ad-dalu treuliau. Bydd hyn yn cael effaith arbennig ar wirfoddolwyr ar incymau is a phobl o gymunedau wedi’u hymyleiddio.
Rydyn ni hefyd yn clywed storïau am y syrffed neu’r gorflinder y mae rhai gwirfoddolwyr yn ei deimlo ar ôl tair blynedd o weithgarwch brys.
Trwy weithio gyda’n partneriaid ar lefel y DU, a defnyddio ein rhwydweithiau ein hunain o fewn Cymru, fe wnawn ni barhau i fonitro’r tueddiadau hyn ac adrodd yn ôl i’r sector a’r llywodraeth. Mae Prif Grantiau Gwirfoddoli Cymru ar agor am geisiadau ar hyn o bryd; mae gan fudiadau tan 13 Ionawr 2023 i ymgeisio.
Y DYFODOL
Mae ymateb y sector gwirfoddol yn dangos yr un egni, tosturi a chreadigrwydd y byddem ni’n ei ddisgwyl. Mae CGGC yn bwriadu defnyddio’r dystiolaeth o’n gwaith gyda’r sector i bwyso ar y llywodraeth i roi mwy o gymorth i’r rheini sydd ei angen, ac i’r mudiadau sy’n eu cynorthwyo. Gwyddom na wnaeth y cynnydd hwn mewn caledi ddechrau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac i lawer o bobl, gwaethygu amgylchiadau a oedd eisoes yn anodd y mae hyn yn ei wneud. Yn yr un modd, mae llawer o fudiadau’r sector gwirfoddol wedi bod yn rhedeg ar gyllidebau ceiniog a dimai eu hunain am amser maith.
Mae’n anochel y bydd mwy o dystiolaeth yn dod i’r amlwg wrth i’r argyfwng hwn barhau. Bydd CGGC yn parhau i ddiweddaru’r sector gwirfoddol ar y tueddiadau sy’n dod i’r golwg.
Rydyn ni’n awyddus i glywed barn cymaint â phosibl o fudiadau ar yr argyfwng costau byw. Anfonwch unrhyw sylwadau at policy@wcva.cymru.
DARGANFOD MWY
Mae ein tudalen costau byw yn cynnwys adnoddau a gwybodaeth i gefnogi mudiadau gwirfoddol gyda heriau’r argyfwng costau byw.