Grŵp o bobl yn eistedd gyda'i gilydd ar gadeiriau mewn ystafell, un fenyw yn dal clipfwrdd

Sut mae pobl yn teimlo am wasanaethau iechyd meddwl?

Cyhoeddwyd: 16/02/26 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Simon Jones

Mae Simon Jones o Mind Cymru yn dweud wrthym am Arolwg Iechyd Meddwl Mawr a rôl y sector gwirfoddol mewn cymorth iechyd meddwl.  

Cyhoeddodd Mind ei ail Arolwg Iechyd Meddwl Mawr yn Hydref 2025, gan ddod â data a mewnwelediadau a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ynghyd a dadansoddi’r canlyniadau o’r Arolwg Iechyd Meddwl Mawr, a gafodd 18,000 o ymatebion y llynedd ledled Cymru a Lloegr.

Amlinellodd yr adroddiad angen cynyddol am gymorth iechyd meddwl, ynghyd â system sy’n cael anhawster dal i fyny â’r lefelau presennol o alw. Ni fydd hyn yn fawr o syndod i unrhyw un sy’n gweithio mewn cymunedau yn cefnogi lles pobl.

Gofynnodd yr arolwg am brofiadau pobl o gael gwasanaethau iechyd meddwl trwy ofal sylfaenol, ond hefyd am eu taith drwy gymorth y sector gwirfoddol. O’r 1,570 o bobl a ymatebodd yng Nghymru, roedd tua un rhan o dair ohonynt wedi defnyddio gwasanaethau’r sector gwirfoddol. Clywsom am ba mor bwysig yw’r cymorth hwn, sy’n aml yn ategu’r hyn y mae pobl yn ei gael o’r meddyg teulu a gwasanaethau gofal sylfaenol eraill.

PWYSAU MEWN GOFAL SYLFAENOL A’U HEFFAITH

Meddygon teulu sy’n parhau i fod y prif bwynt mynediad am ofal iechyd meddwl, ond amlygodd yr arolwg y straen sydd ar y rhan hon o’r system. Dywedodd bron hanner yr ymatebwyr fod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn aros am apwyntiad meddyg.

Dim ond cyfran fechan nododd welliant. Teimlai chwarter ohonynt eu bod wedi aros yn hirach na’r disgwyl.

Roedd y profiadau’n gymysg. Er bod bron hanner yr ymatebwyr yn credu eu bod hi’n hawdd cael gwasanaethau iechyd meddwl drwy’r meddyg teulu, roedd mwy nag un rhan o dair yn meddwl ei fod yn anodd. Er bod y mwyafrif yn dweud bod ganddyn nhw hyder yn eu meddyg ac yn ymddiried ynddo, dywedodd llawer wrthym nad oedd digon o amser i drafod eu hiechyd meddwl.

Golygai hyn nad oedd gan y meddyg teulu amser i ddod i adnabod y claf fel unigolyn a dim ond ychydig dros hanner y bobl a adawodd eu hapwyntiadau yn teimlo’n obeithiol am y dyfodol.

Gyda’i gilydd, mae’r canfyddiadau hyn yn amlinellu sut gall pwysau ar ofal sylfaenol adael rhai yn teimlo nad ydynt wedi cael eu clywed. Mae’n bwysig pwysleisio nad beirniadaeth o’r staff mo hyn, ond mwy o’r system y maen nhw’n gweithio o’i mewn.  System sy’n aml yn gadael y rheini, sy’n rhoi popeth i helpu pobl, yn teimlo wedi llwyr ymlâdd.

STORI WAHANOL YN Y SECTOR GWIRFODDOL

Roedd y profiadau o’r sector gwirfoddol yn llawer mwy positif ar y cyfan. Dywedodd saith o bob 10 ei bod hi’n hawdd cael gafael ar y gwasanaethau hyn, a gwnaeth llawer llai nodi anhawster yn y maes hwn o’i gymharu â chymorth gan feddygon teulu.

Roedd pobl yn fwy tebygol o deimlo eu bod wedi cael amser i siarad am eu hiechyd meddwl, bod mwy o amser i ddod i’w hadnabod nhw’n bersonol. Wrth reswm, gwnaeth hyn wneud iddyn nhw deimlo’n fwy gobeithiol am y dyfodol. Yn gyffredinol, dywedodd pedwar allan o bump fod eu hapwyntiad gyda’r sector gwirfoddol wedi diwallu eu hanghenion.

Roedd hi’n galonogol gweld bod llai o bobl yn teimlo eu bod wedi’u trin yn annheg o ran eu hiechyd meddwl yn y sector gwirfoddol o’i gymharu â gwasanaethau’r meddyg teulu.

Awgryma ein canfyddiadau bod y ffordd y cyflwynir cymorth gan y sector gwirfoddol yng Nghymru yn bwysig iawn i bobl. Yn aml, mae’n fwy perthynol a hyblyg ac yn canolbwyntio mwy ar yr unigolyn.

CYSYLLTU’R DOTIAU

Mae meddygon teulu yn chwarae rôl hanfodol mewn cysylltu pobl â chymorth y sector gwirfoddol. Amlyga’r *astudiaeth achos yn yr adroddiad gan Mind in the Vale sut gall gwasanaethau meddygon teulu wella profiadau a chanlyniadau cleifion trwy weithio’n agos gyda’r sector gwirfoddol lleol.

Cafodd bron chwarter y bobl wybod am wasanaethau’r sector gwirfoddol trwy eu meddygon teulu. Yn amlwg, mae cydberthnasau cryf rhwng gwahanol rannau o’r system yn bwysig. Ymhlith yr argymhellion pwysig o’r arolwg i’r sector eu hystyried roedd ffyrdd mwy hyblyg o drefnu cymorth, gan gynnwys systemau ar-lein a thrwy negeseuon testun.

SYMUD I OFAL IECHYD MEDDWL MYNEDIAD AGORED

Mae’r canfyddiadau o’r Arolwg Iechyd Meddwl Mawr yn nodi rôl hanfodol y sector gwirfoddol mewn cymorth iechyd meddwl. Yn aml, nid rhywbeth yn lle gofal sylfaenol yw’r gwasanaethau hyn, ond rhan hanfodol o system ehangach, sy’n rhoi mwy o amser i bobl edrych ar eu profiadau a chael y cymorth cywir.

Amlinellodd Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd y llynedd, symudiad trawsnewidiol i ofal iechyd meddwl mynediad agored ar yr un dydd. Bydd hyn yn sicrhau ei bod hi’n hawdd cael cymorth a bod y cymorth hwnnw’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Mae canfyddiadau ein harolwg yn dangos y gall y sector gwirfoddol yng Nghymru fod yn rhan allweddol o yrru’r trawsnewid hwn, ar lefel ddiwylliannol ac ymarferol, gan fod llawer ohonom ni wedi bod yn gweithio fel hyn ers peth amser.

Gyda’r amrywiaeth o brofiadau ar hyd a lled Cymru, nid oes amheuaeth bod angen gwaith ymchwil pellach i ddeall mwy y tu ôl i ganfyddiadau’r arolwg. Yr hyn sy’n eglur, fodd bynnag, yw bod sector gwirfoddol â chysylltiadau ac adnoddau da yn hanfodol i ddiwallu anghenion iechyd meddwl, yn enwedig ar adeg pan fo’r galw yn parhau i gynyddu ar draws y system.

Simon Jone syw Cyfarwyddwr Cyswllt Polisi ac Ymgyrchoedd dros dro yn Mind Cymru. Am ragor o wybodaeth am waith CGGC yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, ewch yma.

 

*Saesneg yn unig