dillad yn hongian mewn siop elusen

Sut mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio’n ariannol ar y sector gwirfoddol

Cyhoeddwyd: 20/05/20 | Categorïau: Heb gategori, Awdur: Jess Blair

Jess Blair sy’n adrodd yn ôl ar y cyntaf o’n cyfres o ddigwyddiadau COVID-19 fu’n canolbwyntio ar effaith ariannol yr argyfwng.

Ddydd Iau, 14 Mai, cynhaliodd CGGC y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau ar-lein o’r enw ‘Paratoi ar gyfer Gwahanol Ddyfodol’ sy’n edrych ar sut mae sector gwirfoddol Cymru yn ymateb i’r heriau a’r amgylchiadau yn sgil pandemig presennol y coronafeirws.

Mae hyn yn rhan o ymdrech ehangach i hwyluso sgwrs gyda’r sector gwirfoddol er mwyn deall sut mae sefydliadau’n ymateb i oblygiadau byrdymor a hirdymor y pandemig.

Yn y sesiwn gyntaf, a gadeiriwyd gan Peter Davies, Ymddiriedolwr a Chadeirydd CGGC, trafodwyd y materion ariannol sy’n effeithio ar y sector, ac roedd dros 90 o bobl a sefydliadau wedi’u cynrychioli.

Dyma’r cwestiynau allweddol y bydd pob un o’r digwyddiadau yn eu trafod:

  • Beth fu’r effaith ar y maes hyd yma?
  • Ble gallai hyn arwain at newid hirdymor – yn gadarnhaol ac yn negyddol?
  • Beth yw’r goblygiadau i sector gwirfoddol Cymru?
  • Beth allai sefydliadau gwirfoddol, CGGC, y llywodraeth, neu wneuthurwyr penderfyniadau eraill ei wneud a all helpu i’n llywio tuag at ddyfodol gwell?

Cyn y digwyddiad, anfonwyd arolwg at y cyfranogwyr i gael dealltwriaeth gychwynnol o’r prif faterion sy’n effeithio arnynt, a ddefnyddiwyd fel fframwaith ar gyfer y drafodaeth.

Codwyd nifer o faterion gan gyfranogwyr o ran effaith uniongyrchol argyfwng y coronafeirws ar y sector.

Effaith ar unwaith

Mae’r trydydd sector wedi’i daro i raddau helaeth gan effaith colli incwm ar unwaith, o ran y gweithgarwch masnachol maen nhw’n gallu ei gyflawni ac o ran gweithgarwch codi arian rheolaidd. Mae’n amlwg bod y tirlun ar gyfer y ddau fath yma o weithgarwch wedi newid yn sylfaenol. Enghraifft dda o hyn yw elusennau sy’n dibynnu ar siopau manwerthu i gynyddu eu hincwm. Mae llawer wedi cael eu gorfodi i gau eu siopau elusennol, gosod eu gweithwyr ar ffyrlo, a cholli’r incwm rheolaidd y byddai’r rhain yn ei ddarparu. Dywedodd eraill eu bod yn gweld arwyddion cynnar o syrthni ymhlith rhoddwyr, a’u bod naill ai’n gohirio neu’n newid gweithgarwch codi arian arferol, yn enwedig yn sgil pwyslais pellach ar gynhyrchu incwm yn ddigidol.

Dywedodd rhai fod costau presennol a gorbenion eisoes wedi codi ac mae’n ymddangos y byddant yn codi ymhellach wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio. Er enghraifft, mae costau’n gysylltiedig â darparu’r dechnoleg sydd ei hangen ar aelodau o staff i allu gweithio o gartref. Yn achos sefydliadau sydd ag aelodau o staff ar ffyrlo, codwyd pryderon am yr oedi o ran ad-dalu cyflogau, a allai arwain at ddiffyg ariannol mewn rhai achosion. Cododd llawer o’r bobl a gymerodd ran yn y digwyddiad bryderon ynghylch costau ychwanegol yn y dyfodol, er enghraifft costau glanhau a darparu cyfarpar diogelu personol.

Dywedodd nifer o sefydliadau, o ganlyniad i hyn, eu bod yn ceisio cymorth dros dro drwy geisiadau am grant, boed hynny drwy gyfrwng ymddiriedolaethau elusennol neu fenthyciadau tarfu ar fusnes. Mae cyllidwyr yn chwarae rhan hanfodol yn hyn o beth, a thynnodd rhai o’r cyfranogwyr sylw at yr angen am hyblygrwydd ganddyn nhw.

Y tirlun hirdymor

Er bod llawer o sefydliadau’n delio â heriau ar hyn o bryd, mae’n amlwg bod heriau ychwanegol, a mwy difrifol o bosib, yn y tymor hwy.

Nododd un cyfranogwr hyn, gan ddweud ‘Mae ein dyfodol agos ni’n iawn, ac rydyn ni hefyd yn gallu gweld sut y byddwn ni’n gallu cefnogi ein cymunedau am weddill y flwyddyn. Ein pryder mwyaf yw o fis Ebrill 2021 ymlaen, pan fydd ein ffynonellau cyllid wedi sychu, y cronfeydd wrth gefn wedi mynd a chynnydd yn y galw gan y rheini a oedd yn agored i niwed cyn hyn.’

Codwyd pryderon ychwanegol ynghylch gallu rhai sefydliadau i gael gafael ar arian er mwyn sicrhau eu bod yn hyfyw ar gyfer yr hirdymor, gydag effaith benodol ar y rhai nad ydyn nhw’n gorfforedig.

Un o’r sectorau lle mae pryderon hirdymor eisoes yn amlwg yw’r sector gofal plant. Mae’r rhain yn aml yn sefydliadau anghorfforedig, yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr a bydd nerfusrwydd rhieni ynghylch caniatáu i blant ddychwelyd i leoliadau gofal plant ac ysgolion hefyd yn effeithio arnynt.

Galw am newid

Rhan o nod cynnal y sesiynau hyn yw deall sut y gall gwahanol gyrff gefnogi’r sector wrth i’r argyfwng fynd yn ei flaen. Mae’r rhain yn cynnwys ni ein hunain, y sector gwirfoddol yn gyffredinol ac wrth gwrs, gwneuthurwyr penderfyniadau fel awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.

Yn y sesiwn, nododd y cyfranogwyr ystod o fecanweithiau cymorth i’w hystyried, megis:

  • Cynnwys y trydydd sector yng ngrŵp cynghori allanol y Cwnsler Cyffredinol ar adfer ar ôl Covid,
  • Newidiadau ym meini prawf Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru i gynyddu cymhwysedd i fusnesau bach a sefydliadau anghorfforedig,
  • Brocer neu rwydwaith cymorth ar gyfer sefydliadau sy’n gobeithio sefydlu partneriaethau neu uno.

Bydd CGGC yn ystyried yr argymhellion hyn, ynghyd â’r sylwadau o’r ddau arolwg, y cyfryngau cymdeithasol a’r digwyddiadau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer y dyfodol.

Paratoi ar gyfer gwahanol ddyfodol: adeiladu ar ymateb y gymuned a gwirfoddoli

Mae COVID-19 wedi effeithio ar fywydau pawb. Mae’r cyfyngiadau wedi ein gorfodi i wneud pethau’n wahanol, ac i wneud pethau gwahanol. Mae wedi creu posibiliadau newydd – rhai da a rhai drwg.

Wrth i lunwyr polisi ddechrau edrych i’r dyfodol, mae’r digwyddiadau yma’n cynnig lle i rannu dysg, i ystyried goblygiadau ar gyfer y dyfodol ac i drafod beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer gwneud penderfyniadau heddiw.

Bydd ein digwyddiad ar-lein nesaf yn canolbwyntio ar wirfoddoli. Cynhelir y digwyddiad ar 21 Mai 2020 ac mae rhagor o fanylion ar gael yma.

Diolch i bawb a gymerodd ran yn y sesiwn gyntaf yma. Yn ystod y cyfnod digynsail hwn, mae’n hanfodol bod y sector yn dod ynghyd, yn rhannu heriau ac yn edrych tua’r dyfodol.