Menyw a merch ifanc yn gwirfoddoli mewn loches asynnod

Sut mae gwirfoddoli’n dda i fusnes

Cyhoeddwyd: 10/02/26 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Stephanie Steele

A hithau’n Wythnos Elusennau Cymru, mae Stephanie Steele, Rheolwr Partneriaethau Utility Aid, yn egluro sut mae cefnogi cyflogeion i wirfoddoli wedi gwella llesiant a chryfhau cynnig y mudiad i elusennau.

Ein diben yn *Utility Aid yw helpu mudiadau gwirfoddol i leihau eu costau ynni fel y gallan nhw ganolbwyntio ar ddarparu’r gwasanaethau pwysicaf. Ond nid cydberthynas trafodaethol yn unig sydd gennym â’r sector gwirfoddol – mae’n bersonol. Fel un o Gyflenwyr Dibynadwy CGGC, rydyn ni’n credu’n gryf mewn gwerth gwirfoddoli, i’r mudiadau rydyn ni’n eu cefnogi ac i’n staff sy’n rhoi o’u hamser.

Mae Wythnos Elusennau Cymru yn cynnig yr adeg berffaith i ddathlu’r ymrwymiad hwnnw ac i fyfyrio ar sut mae gwirfoddoli yn cryfhau’r gwaith rydyn ni’n ei wneud. Rydyn ni’n falch iawn o fod yn noddi’r wythnos eleni.

PAM MAE GWIRFODDOLI YN RHAN ANNATOD O’N DIWYLLIANT

Mae Utility Aid yn gweithio gydag elusennau a mudiadau gwirfoddol yn unig, yn rhoi cymorth i gaffael ynni, rheoli cyfrifon, dilysu anfonebau ac adrodd ar garbon. Rydyn ni’n ail-fuddsoddi’r elw yn ôl yn y sector, yn noddi ymgyrchoedd sy’n canolbwyntio ar elusennau ac yn cynnig sesiynau ymgynghori i fudiadau sydd angen cyngor arbenigol cyn cyrraedd pwynt argyfwng.

Rydyn ni eisiau i’n staff deimlo’n gysylltiedig â’r sector mewn modd ystyrlon, felly mae pob aelod o’r tîm yn cael dau ddiwrnod o wirfoddoli â thâl y flwyddyn, gyda’r rhyddid i ddewis yr achosion sy’n agosaf at eu calonnau. Rydyn ni hefyd yn rhoi arian cyfatebol tuag at ymdrechion codi arian, gan helpu cydweithwyr i gael cymaint â phosibl o effaith.

Mae gwirfoddoli yn ein helpu ni i ddeall y pwysau a’r sefyllfaoedd y mae ein cwsmeriaid yn eu hwynebu ac mae’r mewnwelediad hwnnw’n amhrisiadwy.

‘MAE’N GWNEUD I MI EDRYCH AR FYWYD MEWN FFORDD GWBL WAHANOL’

I mi’n bersonol, mae gwirfoddoli gydag elusen plant *Over the Wall Camp ac mewn lloches gathod leol wedi dod yn ffordd bwysig o gadw fy mywyd yn gytbwys. Roeddwn i’n arfer gweithio i elusen Over the Wall Camp, ac mae’n parhau i fod yn arbennig tu hwnt. Mae’n creu profiadau gwersylla trawsnewidiol i blant â chyflyrau iechyd difrifol -rhywle lle gallant fod yn blant cyffredin, wedi’u hamgylchynu â phobl eraill sy’n deall eu byd.

Mae treulio amser yn gwirfoddoli yno yn adfywiol. Mae’n rhoi seibiant i mi o ddiwrnodau a yrrir gan ddangosyddion perfformiad allweddol ac yn fy helpu i ganolbwyntio o’r newydd ar yr hyn sy’n wirioneddol bwysig. Yn bwysicach oll, mae’n fy atgoffa o ba mor hanfodol yw’r sector gwirfoddol. Mae teuluoedd yn dibynnu ar y rhaffau achub y mae elusennau yn eu taflu iddyn nhw, yn aml yn ystod eu hadegau anoddaf.

Pan rydw i’n dychwelyd i’m rôl yn Utility Aid, mae’r persbectif hwnnw yn fy ngyrru i ddarparu’r gwasanaeth gorau bosibl. Po fwyaf cysylltiedig ydym ni i’r sefyllfaoedd y mae ein cwsmeriaid yn eu hwynebu, gorau’n gyd y gallwn ni eu cefnogi.

‘MAE’N YMWNEUD Â GWNEUD GWAHANIAETH GO IAWN’

Mae’r Rheolwr Marchnata, Sasha Harvey, wedi gwirfoddoli i amrywiaeth eang o fudiadau, o loches asynnod i fanciau bwyd, cartrefi gofal a grwpiau cymunedol. Mae ei chyfraniadau yn cynnwys ysgrifennu cardiau Nadolig i drigolion hŷn, cludo prydau bwyd yn ystod y pandemig, lapio basgedi, cynorthwyo mewn picnic cymunedol ar gyfer Rainbow Stars, hyfforddi pobl sy’n gwneud y fenter Soffa i 5k, gwirfoddoli gyda’i chlwb pêl-droed lleol a hyd yn oed helpu pobl ddall a phobl ag amhariad ar eu golwg drwy’r ap ‘Be My Eyes’.

Mae Sasha yn dewis cyfleoedd lle mae angen cymorth gwirioneddol:
‘Dim cyfle i gael llun mo hwn’. Mae gwirfoddoli hefyd wedi cael effaith barhaol ar ei lles a’i gwaith:

‘Rwyf wrth fy modd yn ei wneud a bydden i’n dwli gwneud mwy ohono. Mae’n gwneud i mi deimlo’n dda. Ac mae’n fy helpu i gysylltu â chwsmeriaid mewn ffordd well a chryfach.’

DEALL YR HERIAU SY’N WYNEBU ELUSENNAU

Mae’r Ymgynghorydd Ynni, Jordan Phillips, wedi gwirfoddoli ddwywaith gyda gwasanaeth côr Nadolig y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth – elusen ag arwyddocâd personol oherwydd profiad ei deulu.

I Jordan, mae gwirfoddoli wedi dyfnhau ei ddealltwriaeth o sut mae elusennau yn gweithredu o ddydd i ddydd:

‘Fe helpodd fi i ddeall yr hyn sy’n mynd ymlaen y tu ôl i’r llenni a’r anawsterau y maen nhw’n eu hwynebu – boed y rheini’n ymwneud â chyllid neu geisio dod o hyd i wirfoddolwyr.’

Mae’r wybodaeth honno yn ein helpu ni i deilwra ein gwasanaethau’n fwy effeithiol, gan sicrhau ein bod yn cefnogi elusennau mewn ffyrdd sy’n wirioneddol ddiwallu eu hanghenion.

CYD-YMRWYMIAD I WNEUD DAIONI

Mae gwirfoddoli yn dod â’n tîm yn agosach at galon y sector gwirfoddol. Mae’n meithrin empathi, yn cryfhau dealltwriaeth ac, yn y pen draw, yn ein helpu ni i ddarparu gwasanaeth mwy ystyriol ac ymatebol.

Yn ystod Wythnos Elusennau Cymru, rydyn ni’n falch o ddathlu’r mudiadau sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth ar hyd a lled Cymru – ac rydyn ni’r un mor falch i sefyll ochr yn ochr â nhw, nid fel darparwr gwasanaeth yn unig, ond fel gwirfoddolwyr, cynghreiriaid a chefnogwyr.

Beth am ganfod sut gallwch chi gymryd rhan yn yr wythnos yn: wythnoselusennau.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith, ewch i: *www.utility-aid.co.uk

 

*Saesneg yn unig