Yma, mae Pennaeth Polisi CGGC, Ben Lloyd, yn adrodd ar drafodaethau ynghylch polisi Llywodraeth Cymru ar asedau cymunedol.
Mae’r newyddion wedi ymdrin â nifer o storïau yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar adeiladau cymunedol sydd wedi’u prynu a’u colli gan y gymuned; er enghraifft, y capel hwn ym Mhenrhyn Llŷn a gafodd ei farchnata fel cartref gwyliau, a’r dafarn hon yng Nghaerdydd a gafodd ganiatâd i gael ei dymchwel. Yn y ddau achos hyn, mae unigolion neu grwpiau lleol wedi ceisio dod o hyd i ffordd o gadw’r adeiladau hyn fel cyfleusterau cymunedol. Mae’r ddau wedi’u defnyddio fel canolfannau cymunedol ers tro byd, ac mae’r cymunedau yn wynebu colli rhai o’u mannau mwyaf gwerthfawr. Rheswm rhannol dros y colledion hyn yw bod llawer o’r mannau hyn wedi’u colli yn sgil tueddiadau economaidd newidiol a llai o gymorth gan y sector cyhoeddus.
Mae rhai o’r adeiladu neu’r parseli tir hyn (a elwir gyda’i gilydd yn asedau cymunedol) yn eiddo i’r sector cyhoeddus, ac mae’r gwaith o drosglwyddo asedau o’r sector cyhoeddus i’r sector gwirfoddol wedi bod ar droed ers nifer o flynyddoedd drwy raglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol Llywodraeth Cymru. Gall y broses hon fod yn heriol, ond mae cymunedau wedi llwyddo i gadw nifer o asedau drwy’r rhaglen hon. Ond, gall mannau cymunedol hefyd fod yn eiddo i berchnogion preifat, fel yn yr enghreifftiau uchod.
CYMORTH CYMUNEDOL
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llywodraethau ledled y DU wedi bod yn edrych ar ffyrdd o gynorthwyo cymunedau i gadw adeiladau a thir sydd wedi bod yn cael eu defnyddio gan gymunedau, boed y rheini yn nwylo cyhoeddus neu breifat. Yma yng Nghymru, er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru wedi cyllido Cronfa Benthyciadau Asedau Cymunedol CGGC, ac yn rhedeg ei rhaglen cyfleusterau cymunedol ei hun. Yn yr un modd, gall mudiadau yng Nghymru wneud cais i Gronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU. Yn olaf, gall llawer o gymunedau godi arian drwy dechnegau arloesol fel cyfrannau cymunedol.
Ond, ni all cyllid yn ei hun ddiogelu asedau cymunedol. Ym mis Tachwedd, gwnaeth nifer o fudiadau sy’n gweithio ar faterion cymunedol gwrdd i drafod materion sy’n ymwneud â pherchnogaeth a’r rôl y mae asedau yn ei chwarae mewn grymuso cymunedau.
Yn ystod y cyfarfod, gwnaethon ni drafod y prinder deddfwriaeth ‘hawl y gymuned i brynu’ yng Nghymru, fel yr hyn sy’n bodoli yn Lloegr a’r Alban. Teimlai’r grŵp yn gryf y byddai modd cryfhau gallu cymunedau i gadw asedau pe bai deddfwriaeth debyg ar gyfer Cymru, wedi’i theilwra i’n hamgylchiadau ein hunain.
Gwnaeth y grŵp hefyd nodi’r heriau penodol sy’n wynebu cymunedau tlotach sy’n cymryd perchnogaeth o asedau a’r amrediad o heriau technegol y gallai grwpiau llai eu hwynebu wrth gymryd perchnogaeth o ased.
Mae angen gwneud llawer o waith yn y maes hwn, a bydd y grŵp yn cyfarfod i drafod cynlluniau mwy cadarn wrth symud ymlaen, gan gynnwys sut i gyflwyno achos dros newid y gyfraith yn y maes hwn.
Y TU HWNT I’R PANDEMIG
Gwnaeth y pandemig gau cymaint o’n mannau cymunedol ni – waeth a oeddent yn eiddo i’r sector gwirfoddol, cyrff cyhoeddus neu gwmnïau preifat – a dangosodd pa mor dyngedfennol ydyn nhw i’n llesiant cyfunol. Ar ôl blynyddoedd o weld mannau cymunedol yn lleihau, mae’r angen am fannau a redir gan y gymuned yn fwy eglur nag erioed. Fel rhan o waith y sector gwirfoddol ar gryfhau grwpiau cymunedol, rydyn ni’n awyddus i fynd i’r afael â hyn.
Oes gennych chi brofiad o geisio cymryd rheolaeth dros ased cymunedol, waeth a gafwyd canlyniad cadarnhaol neu beidio? Neu stori am sut mae man cymunedol wedi trawsnewid gwaith eich mudiad? Bydden ni’n dwli clywed eich syniadau ar sut y gellid symleiddio’r broses o gadw mannau cymunedol. Anfonwch e-bost at policy@wcva.cymru.