Yn y blog hwn mae Swyddog Datblygu’r Marc Ansawdd Korina Tsioni yn esbonio beth yw Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) a sut mae sicrwydd ansawdd yn berthnasol yn ystod ac yn dilyn argyfwng.
IiV yw’r marc ansawdd ar gyfer mudiadau sy’n rheoli gwirfoddolwyr, a bu’n mynd o nerth i nerth cyn ac yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud.
Bu rhaid i nifer o fudiadau gwirfoddol ohirio’u gwaith yn ystod y misoedd diwethaf; cafodd eraill eu creu er mwyn cwrdd ag anghenion lleol; a llwyddodd rhai i barhau i ddarparu gwasanaethau a gweithio ar eu sicrwydd ansawdd ar yr un pryd.
‘Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi ein gwirfoddolwyr’
Dyfarnwyd gwobr IiV i Discovery (Gwirfoddoli Myfyrwyr Abertawe) am y pedwerydd tro ym mis Mai yng nghanol cyfnod y cyfyngiadau – dyma ddywedon nhw ynglŷn â’u gwaith gyda ni:
‘Golyga IiV ein bod yn gwybod bod modd i ni nawr, wrth orfod addasu ein gwasanaethau a’n cyfleoedd yn gyflym i ymateb i argyfwng Covid, addasu’n ddiogel a chadarnhaol, o weithio o fewn y fframwaith a ddarparwyd gan IiV.’
‘Credwn fod IiV yn arddangos yr holl waith caled a wneir yn gyson gan ein staff, ein hymddiriedolwyr a’n gwirfoddolwyr er mwyn cynnal y safonau uchel a ddisgwylir o fudiad a ddyfarnwyd â’r marc ansawdd.’
‘Fel mudiad wedi’i arwain gan wirfoddolwyr, mae ein gwirfoddolwyr wrth wraidd y cyfan a wnawn ac rydyn ni wir yn eu gwerthfawrogi.’
Barod i helpu
Mae Barod yn elusen gofrestredig sy’n cefnogi unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan eu camddefnydd nhw eu hunain neu gan gamddefnydd rhywun arall o sylweddau.
Dechreuodd Barod fel prosiect wedi’i arwain gan wirfoddolwyr yn 1972 ac mae gwirfoddoli’n parhau wrth wraidd yr hyn maen nhw’n ei wneud nawr. Dyfarnwyd eu gwobr gyntaf i Barod ym mis Ebrill 2020!
‘I ni, roedd cael ein cydnabod ar gyfer Gwobr Buddsoddi mewn Pobl yn bwysig oherwydd ein bod eisiau sicrhau bod ein gwirfoddolwyr yn cael y budd mwyaf o’u profiad gyda ni.
‘Gwelwn y Wobr Buddsoddi mewn Pobl fel modd o’n cadw ar flaen y gad mewn perthynas â’r arfer orau yn ymwneud â gwirfoddoli, ac fel modd o asesu ein hunain a’n dulliau o gefnogi a datblygu gwirfoddolwyr yn rheolaidd.
‘I’n gwirfoddolwyr, mae’n sicrwydd ein bod yn gwneud ein gorau drostyn nhw, ein bod wedi ymrwymo iddyn nhw fel unigolion a bod gennym broses ddiogel ac effeithiol yn ei lle.’
Yr hyn ddywedodd Aseswyr IiV wrthym
Mae tîm Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn cynnwys nifer o aseswyr Cymraeg a Saesneg eu hiaith sy’n darparu eu holl waith yn rhithiol ar hyn o bryd. Mae nifer o fudiadau llwyddiannus wedi penderfynu defnyddio IiV ac ar hyn o bryd maen nhw mewn gwahanol fannau ar y siwrnai.
Siaradais â Paul Bevan, un o’n haseswyr gweithredol sy’n cynnal asesiadau ar-lein.
‘Gall sicrwydd ansawdd wneud gwahaniaeth enfawr i’r gwasanaeth mae pobl yn ei dderbyn,’ meddai Paul.
‘Mae cael ymarferion cadarn sydd wedi’u profi’n effeithiol yn eu lle yn ei gwneud yn haws i addasu i argyfwng fel pandemig Covid-19.’
‘Golygodd yr asesiad ar-lein fod y cyfathrebu dieiriau a’r awgrymiadau bychain, sydd fel arfer yn ychwanegu cyfoeth wrth gwrdd â phobl wyneb yn wyneb, yn cael eu colli.’
‘Fodd bynnag, teimlai fel pe bai’n lleihau teimladau rhai pobl o bryder neu nerfusrwydd ynglŷn â chael eu cyfweld gan asesydd.
‘Cawsom sgyrsiau anffurfiol a arweiniodd at bobl yn darparu gwybodaeth dda, gonest a meddylgar. Fel asesydd, roedd cwblhau’r asesiad ar-lein yn hawdd iawn ei reoli, a theimlai fel pe bai’n brofiad cyffyrddus a hawdd i staff a gwirfoddolwyr.
‘Roedd yn broses gynt i wirfoddolwyr a staff gan fod gennym gyfweliad yn ffocysu ar amser oedd wedi’i drefnu o flaen llaw, gan arbed amser teithio ac ymyriadau eraill.’
Edrych tua’r dyfodol
Mae’r gweithlu asesu ansawdd wedi bod yn gweithio trwy gyfnod y cyfyngiadau er mwyn sicrhau bod ansawdd ar ei lefel uchaf, bod tystiolaeth yn cael ei fonitro ac yr adroddir yn briodol yn ei gylch.
Fel y corff cenedlaethol sy’n rheoli IiV yng Nghymru, bydd ein tîm yn rhannu’r dysgu a ddeilliodd o’r cyfnod hwn o newid cyflym gyda thîm ehangach IiV yn y DU er mwyn ein cynorthwyo i gynllunio ar gyfer dyfodol sicrwydd ansawdd gwirfoddoli a’r modd y caiff ei ddarparu.
Yn y cyfamser, rydym wedi bod yn falch o weld bod mudiadau’n gwerthfawrogi’r cyfle i ddefnyddio’r safonau fel offeryn myfyrio ac yn ymgymryd â’r asesiad pan fyddan nhw’n teimlo’n barod i wneud hynny.
Siarter ar gyfer gwirfoddoli a pherthnasau’r gweithle
Wrth i fudiadau geisio ymgysylltu gwirfoddolwyr yn eu gwaith, rhai am y tro cyntaf, neu mewn ffyrdd gwahanol, mae’n adeg werthfawr i fwrw golwg ar y siarter ar gyfer gwirfoddoli a pherthnasau’r gweithle – a gynhyrchwyd ar y cyd rhwng CGGC a Wales TUC Cymru er mwyn cryfhau perthnasoedd rhwng staff cyflogedig a staff di-dâl.
Mae’r siarter yn amlinellu’r egwyddorion ar gyfer cynnwys gwirfoddolwyr er mwyn hyrwyddo gweithle iach a chydnaws.
Oes gennych chi ddiddordeb yn IiV?
Yn CGGC, credwn mai IiV yw’r fframwaith gorau i fudiad gwirfoddol er mwyn gwella’u rheolaeth o wirfoddolwyr gan ei fod yn berthnasol i siwrnai gyfan y gwirfoddolwr o fewn eich mudiad.
Mae’r fframwaith yn rhannu siwrnai’r gwirfoddolwr yn naw ardal wahanol, er mwyn eich cynorthwyo gyda’ch gwaith monitro a chofnodi.
Gallwch ddod o hyd i’r fframwaith rhad ac am ddim ar-lein a dechrau’r drafodaeth o fewn eich tîm. Heb os, gwaith tîm yw IiV, gan fod pawb yn chwarae eu rhan yn siwrnai’r gwirfoddolwr.
I lawrlwytho’r safon neu i ddarganfod mwy ynglŷn â’r wobr, ewch i wefan IiV. Os oes gennych ddiddordeb mewn siarad â ni ynglŷn ag IiV er mwyn rhannu eich meddyliau, eich pryderon neu’ch syniadau, mae croeso i chi gysylltu â ni ar ktsioni@wcva.cymru – byddem yn falch o glywed gennych.