Mae menyw hŷn mewn sbectol yn canolbwyntio'n galed ar ei gwaith, yn eistedd o flaen gliniadur

Sut i wneud penderfyniadau codi arian da mewn argyfwng

Cyhoeddwyd: 14/12/22 | Categorïau: Cyllid,Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Alison Pritchard

Mae Alison Pritchard, Rheolwr Cyllid Cynaliadwy CGGC, yn rhannu’r hyn a ddysgwyd am godi arian yn ein digwyddiad costau byw diweddar, ‘Gwneud penderfyniadau mewn argyfwng’.

Fel rhan o gyfres fechan o ddigwyddiadau gan CGGC ar yr argyfwng costau byw, gwnaethom ni wahodd Simon Scriver, cyd-sylfaenydd Fundraising Everywhere, i siarad am ba mor bwysig yw hi i fudiadau gwirfoddol wneud penderfyniadau codi arian da mewn argyfwng.

GWYDNWCH

Mae CGGC yn diffinio ‘gwydnwch’ fel a ganlyn:

‘Gallu mudiad i gynllunio ar gyfer, ymateb i, ac addasu i newid, gan ei alluogi i oroesi a ffynnu, nawr ac yn y dyfodol.’

Dau o’r pethau allweddol i wneud y gwydnwch hwnnw’n fwy posibl yw strategaethau ac incwm anghyfyngedig.

Mae’r broses o ddatblygu strategaethau sefydliadol* yn ymwneud â llawer o waith ymchwil a chasglu mewnwelediadau i’r cyd-destun y mae mudiad yn gweithio o’i fewn, y gymuned y mae’n gweithio ar ei rhan a’r rhanddeiliaid sy’n cefnogi’r gwaith hwnnw. Mae cael yr wybodaeth hon yn hanfodol ar gyfer cynllunio ar gyfer, ymateb i ac addasu i newid, ac argyfyngau.

(*Mae rheoli risg yn rhan annatod o strategaeth dda. Mewn blog arall o’r gyfres hon o ddigwyddiadau, mae Siân Eagar yn myfyrio ar bwysigrwydd rheoli risg ac adnoddau rheoli eraill.)

Mae incwm anghyfyngedig (incwm nad yw â diben penodol) yn rhoi’r rhyddid i fudiad wneud newidiadau neu roi cynnig ar rywbeth newydd wrth i’r amgylchedd newid o’i amgylch. Er bod cyllidwyr yn gwneud cynnydd da ar fod yn fwy hyblyg yn sgil pandemig COVID-19, arian a godir ac incwm a enillir sydd, mewn gwirionedd, yn darparu’r rhyddid hwn.

GWERTH CODWYR ARIAN

Dechreuodd Simon drwy osod y cyd-destun ar gyfer agwedd bresennol llawer o’r sector ar godi arian. Cafodd nifer eithafol o godwyr arian eu rhoi ar ffyrlo neu eu diswyddo yn ystod pandemig COVID-19, ar adeg pan oedd angen incwm yn daer i gyllido’r cynnydd enfawr yn y galw am wasanaethau. Roedd hyn yn gyferbyniad llwyr i’r diffyg blaenoriaeth a oedd wedi’i rhoi i godi arian a chynhyrchu incwm ers tro byd, sef un o elfennau hanfodol elusennau ymarferol.

Cydberthnasau yw sylfaen prosesau codi arian da, boed hynny’n gydberthynas ag unigolion, cyllidwyr neu gwmnïau. Amlygodd Simon fod unigolyn, ar gyfartaledd, yn treulio oddeutu 18 mis mewn rôl codi arian ar hyn o bryd. Pan ystyriwch fod yr amser a dreulir ar ddatblygu cydberthynas â phartner corfforaethol hefyd yn 18 mis ar gyfartaledd, mae’n amlygu sut gall peidio â chadw codwyr arian yn eu rolau effeithio ar eich siawns o ddenu incwm. Rydyn ni angen codwyr arian sydd eisiau aros yn eu rolau’n ddigon hir i ddatblygu cydberthnasau a rhoi systemau a phrosesau ar waith i gynnal a meithrin y cydberthnasau hyn dros gyfnod mwy hirdymor.

‘Edrychwch ar godi arian drwy lygaid eich rhoddwyr…’

I’r rheini sy’n ddigon ffodus i beidio â bod angen gwasanaethau elusennol, yn aml, y digwyddiadau codi arian a’r cyfathrebiadau y maen nhw’n eu creu yw’r unig bwynt cyswllt sydd gan gefnogwr â’ch elusen. Mae angen i’r pwynt cyswllt hwnnw fod yn gadarn, yn berthnasol ac yn ddeniadol. Mae angen buddsoddi amser ac anodau ynddo.

CODI ARIAN TRWY GYDBERTHYNAS

Yn hanesyddol, mae nifer y bobl sy’n rhoi arian yn parhau i fod yn weddol gyson mewn argyfwng, ond gallai amlder a gwerth y rhoddion hyn amrywio.

Prosesau codi arian da yw’r bont rhwng rhoddwr, ei werthoedd a’i allu i effeithio ar newid er mwyn dilyn y gwerthoedd hynny. Nid yw pawb eisiau, neu’n gallu, gweithio neu wirfoddoli i elusen, ond mae rhoi arian neu nwyddau yn ffordd i’r unigolion hynny gyfrannu at yr achos(ion) sy’n agos at eu calonnau – eu hachosion nhw.

Mae rhoddwyr yn ffyddlon. Maen nhw’n teimlo perchenogaeth dros eu hachosion, mewn ffordd nad ydynt dros elusennau eraill. Y cydberthnasau hyn â’r rhoddwyr sydd angen i ni eu cynnal a’u gwasanaethu mewn argyfyngau.

Siaradodd Simon am bwysigrwydd hyrwyddo ein mudiadau fel cost hanfodol i roddwyr, yn hytrach na rhywbeth braf ei gael y gallent ystyried ei lleihau neu dorri wrth i bobl addasu eu gwariant personol. Nid cardota mohono; mae’n gyfle iddyn nhw barhau i gadw at eu gwerthoedd ar adeg pan fo’r problemau cymdeithasol sy’n agos at eu calonnau yn mynd o ddrwg i waeth.

FFYNNU DROS OROESI

Syniadau da Simon ar gyfer ffynnu yn ystod argyfwng yn hytrach na dim ond goroesi:

  • Sicrhewch eich bod yn cyfathrebu â’ch cefnogwyr – Sgwrsiwch â nhw (nid dim ond dweud pethau wrthynt), gan eu sicrhau bod y gefnogaeth y maen nhw’n ei rhoi i chi yn eu helpu i wneud y newid neu gael yr effaith y maen nhw eisiau ei weld.
  • Ceisiwch hybu eich holl fudiad i gefnogi eich ymdrechion codi arian – nid oes angen i bawb yn eich mudiad fod yn godwr arian, ond mae gan bob un ohonynt rôl i’w chwarae (e.e. cydweithwyr mewn meysydd cyflawni gwasanaethau sy’n cyflwyno data ar effaith ac astudiaethau achos i helpu codwyr arian lunio achosion dros gefnogaeth). Byddwch yn fudiad codi arian, nid dim ond yn fudiad sy’n codi arian.
  • Meddyliwch o ddifrif am godi arian – rhowch amser ac arian iddo, sicrhewch fod gennych chi adnoddau priodol, rhowch gynnig ar bethau, ceisiwch gael adborth ar eich gweithgareddau codi arian a gwnewch newidiadau os nad yw’n gweithio. Sicrhewch eich bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer Codi Arian (Saesneg yn unig).

HYFFORDDIANT AC ADNODDAU

Bydd CGGC yn rhedeg cyrsiau hyfforddi amrywiol sy’n ymwneud â chodi arian yn y flwyddyn newydd. Cadwch lygad ar ein tudalennau hyfforddiant a digwyddiadau am ragor o wybodaeth.

Rydyn ni wedi creu tudalen adnoddau ar gyfer yr argyfwng costau byw, gan gynnwys adran ar gyllid a chodi arian.

Simon Scriver yw cyd-Sylfaenydd Fundraising Everywhere (Saesneg yn unig), sef cymuned ar-lein sy’n cynnig datblygiad proffesiynol, cymorth rhwng cymheiriaid a rhwydweithio i godwyr arian ac arweinwyr elusennau’r dyfodol.

Am ragor o wybodaeth am y pwnc hwn, edrychwch ar y darn hwn gan Siân Eagar, Swyddog Gwydnwch CGGC sy’n myfyrio ar syniadau Bev Garside ar sut i lywio risg ac ansicrwydd a gwneud penderfyniadau mewn argyfwng.

Mae Siân yn crynhoi’r prif bwyntiau dysgu o gyflwyniad diweddar Gus Williams ar reolaeth ariannol yn ystod yr argyfwng costau byw.