Dau berson ymhlith grŵp wrth fwrdd yn rhoi pump uchel i'w gilydd

Sut i weithio’n well gyda’n gilydd i ddenu cyllid

Cyhoeddwyd: 24/11/21 | Categorïau: Cyllid, Awdur: Alison Pritchard

Yn gofod3 eleni, aeth Andrea Powell (Sefydliad Cymunedol yng Nghymru), Andrea Cleaver (Cyngor Ffoaduriaid Cymru) ac Alison Pritchard (CGGC) ati ar y cyd i gyflwyno ‘Sut i weithio’n well gyda’n gilydd i ddenu cyllid’. Yma, mae Alison yn rhannu rhai o’r pethau allweddol a ddysgwyd o’r digwyddiad.

PAM MAE ANGEN I NI GYDWEITHIO MWY

Trwy brosiect cyllido ymddiriedolaethau Sefydliad Cymunedol Cymru, mae Andrea Powell wedi bod yn edrych ar sut gall Cymru ddenu mwy o incwm o ymddiriedolaethau a sefydliadau. Mae Andrea wedi canfod mai un rhwystr i hyn yw bod llawer o ymddiriedolaethau a sefydliadau dim ond yn gallu cyllido ‘elusennau cofrestredig’.

Rydyn ni’n gwybod o Borth Data CGGC mai dim ond tua 6,700 o’r 50,000 o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru sy’n elusennau cofrestredig. Dengys gwaith ymchwil o 2019 y gallai fod oddeutu £65 miliwn ar gael i fudiadau yng Nghymru wneud cais amdano.

Felly, roedden ni’n meddwl bod yn rhaid i ni ddechrau sgwrs ynghylch cydweithio a gweithio mewn partneriaeth er mwyn annog yr 86% o’r sector nad ydynt yn elusennau cofrestredig i feddwl yn wahanol am sut i gael gafael ar ychydig o’r cyllid hwn (gweler Cyllido Cymru am fwy na 800 o gyrff llunio grantiau sy’n cyllido yng Nghymru).

DATBLYGU PARTNERIAETHAU

Rydyn ni’n sylweddoli na allai hyn fod yn newid hawdd i’w wneud. Yn anffodus, mae dibyniaeth hanesyddol Cymru ar gyllid grant wedi creu amgylchedd cystadleuol yn hytrach nag un cydweithredol.

Yn y digwyddiad, clywsom gan ddau fudiad sydd wedi datblygu cydweithrediadau sylweddol a gwerth chweil, ffurfiol ac anffurfiol. Gwnaeth Klavdjia o Gymdeithas Hanes Iddewig Cymru a Shirley o Gerrig Camu Gogledd Cymru siarad am eu profiadau nhw o ddatblygu cydberthnasau cryf.

Gwnaethant ddweud wrthym ni am y gwaith caled a’r ymrwymiad sydd wedi mynd i mewn i ddatblygu partneriaethau. Nid yw pob un wedi gweithio, ond mae’r rheini sydd wedi bod yn llwyddiannus wedi ychwanegu gwerth at eu mudiadau perthnasol, gan roi mwy o ddyfnder iddyn nhw fel mudiad ac o fewn y gwasanaethau y maen nhw’n eu darparu. Maen nhw wedi bod yn gost-effeithiol ac wedi’u helpu nhw i ehangu eu gorwelion, gan wella gwydnwch a chynaliadwyedd.

BETH YW CYDWEITHREDIAD DA?

Rydyn ni’n hyderus mai mwy o gydweithio yw rhan o’r ateb i oresgyn yr heriau hyn. Siaradodd Andrea Cleaver o brofiad am yr hyn sy’n gwneud cyd-gynhyrchu a chydweithrediad da. Gwnaeth hefyd rannu pum ystyriaeth i gyllidwyr wrth edrych ar geisiadau. Gall mudiadau gwirfoddol hefyd ddysgu o’r rhain a’u cymhwyso wrth gynllunio prosiectau a gwneud ceisiadau cyllido.

  1. Mae’r pethau hyn yn cymryd amser. Ni ellir adeiladu’r gydberthynas a’r ymddiriedaeth sydd eu hangen i redeg prosiect llwyddiannus mewn modd cydweithredol dros nos. Dylai partneriaid fod yn rhan o’r daith, o’r dechrau i’r diwedd.
  2. A oes asedau cytbwys? Beth mae pob partner yn ei gyflwyno, ble mae’r cydbwysedd o bŵer?
  3. Llythyrau cefnogi. Beth maen nhw’n ei ddweud, beth nad ydyn nhw’n ei ddweud, ble mae’r bylchau? Yn enwedig pan fydd mudiadau llai yn darparu llythyrau cefnogi ar gyfer mudiad mwy a fydd yn derbyn cyllid yn uniongyrchol.
  4. Llwybrau atgyfeirio. A oes ganddyn nhw brofiad o weithio gyda’r grwpiau o fuddiolwyr? A ydyn nhw’n deall yr anghenion a’r rhwystrau?
  5. Beth mae’r gyllideb yn ei ddweud wrthych? A yw’r holl bartneriaid yn cael eu cyllido’n briodol am eu rôl yn y cydweithrediad?

BETH ALLWN NI EI WNEUD AMDANO?

Gwnaeth rhan olaf y digwyddiad edrych ar gydweithrediad gyda’r mynychwyr. Gwnaethom ni drafod yr hyn sy’n eu hysgogi i weithio’n gydweithredol; gwnaethom ni ofyn iddyn nhw ystyried eu rhwystrau presennol i weithio’n fwy cydweithredol a pha gymorth fyddai’n fuddiol iddyn nhw i wneud cydweithrediad yn haws. Yn sgil y trafodaethau hynny, cyflwynwyd yr ystyriaethau canlynol:

I gyllidwyr

  • Myfyriwch ar sut y mae llythyrau cefnogi yn cael eu defnyddio a’u hasesu
  • Pan fydd cydweithrediad yn ofyniad, sicrhewch fod amser arwain priodol (a chyllid datblygu fel y bo’n briodol/nodweddiadol) yn cael ei gynnwys mewn cynlluniau cyllido er mwyn caniatáu i’r cydberthnasau dibynadwy hynny gael eu hadeiladu ac i lywodraethu cadarn gael ei ddatblygu
  • Ewch ati i godi ymwybyddiaeth o gynlluniau sy’n cefnogi’r math hwn o weithio ac ystyriwch pa gymorth y gallwch chi ei gynnig i helpu mudiadau i ddatblygu partneriaethau newydd (a allai rhywfaint o’r cyllid gael ei ddefnyddio ar gostau datblygu?)
  • Rhannwch enghreifftiau o bartneriaethau llwyddiannus o fewn gwybodaeth a chanllawiau ymgeisio
  • Sicrhewch fod gofynion a dogfennau ymgeisio yn hygyrch i gydweithrediadau (er enghraifft, rhowch opsiwn i bobl lawrlwytho ffurflenni cais ar byrth gwe fel dogfennau pdf y gellir eu rhannu er mwyn gallu cyd-gynhyrchu atebion, a gwnewch yn siŵr fod ffurflenni ar fformat sy’n caniatáu i wybodaeth gael ei chynnwys am yr holl bartneriaid)
  • Cysylltwch â’r holl bartneriaid i bennu gwir natur y bartneriaeth a dyfnder y gydberthynas rhwng partneriaid

I gyrff cymorth ac aelodaeth

  • Darparu hyfforddiant ar arferion gorau wrth weithio mewn partneriaeth a’r hyn sy’n gwneud partner da
  • Creu cyfleoedd rhwydweithio a mentora i fudiadau sy’n seiliedig ar ddaearyddiaeth a thema
  • Rhannu enghreifftiau a thempledi o ddogfennau sy’n berthnasol i weithio mewn partneriaeth

I fudiadau gwirfoddol

  • Byddwch yn agored i gydweithredu!
  • Wrth gynllunio prosiect, ymchwiliwch i’r hyn y mae mudiadau eraill yn eu gwneud ac edrychwch ar y cwmpas sydd ar gael i ategu gwaith eraill
  • Byddwch yn barod i gydweithredu; gwnewch yn siŵr fod eich trefniadau llywodraethu’n gryf a’ch bod chi’n ymwybodol o’r hyn y gallwch chi ei gyflwyno i bartneriaeth
  • Rhannwch yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu, y pethau cadarnhaol a negyddol, o’ch profiad o gydweithredu pan fo’n bosibl
  • Byddwch yn barod i gael eich herio ac i ddysgu o adborth adeiladol
  • Byddwch yn wydn – nid yw partneriaethau cryf yn digwydd dros nos, maen nhw’n cymryd cryn dipyn o amser ac ymdrech ac mae’n bosibl na fyddant yn gwbl syml. Peidiwch â gadael i rwystr eich atal rhag rhoi cynnig arall arni

CAMAU NESAF

Byddai CGGC yn dwli clywed gennych chi os oes gennych chi unrhyw brofiadau neu ddysgu y byddech chi’n fodlon eu rhannu o weithio mewn cydweithrediad. Rydyn ni’n gobeithio datblygu modelau arferion gorau, enghreifftiau, templedi o ddogfennau ac ati y gallwn ni eu rhannu â phob un ohonoch chi.

Cysylltwch ag Alison Pritchard, Rheolwr Cyllid Cynaliadwy CGGC ar apritchard@wcva.cymru. Byddwn ni, wrth gwrs, yn parchu eich anhysbysrwydd ac ni fyddwn ni’n rhannu eich profiadau ar unrhyw adeg heb ganiatâd.

Mae adran Fy Rhwydwaith ar Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn lle gwych i gysylltu â mudiadau eraill. Cofrestrwch am ddim a dechreuwch sgwrsio!