Darganfyddwch sut gallwch chi ymuno â’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol i godi ymwybyddiaeth o fudiad Cludiant Cymunedol ffyniannus y DU yn y blog #CTWeek23 hwn gan y Cyfarwyddwr, Gemma Lelliott.
Rhwng 16 a 21 Hydref 2023, bydd cymunedau ledled y DU yn dathlu rôl hanfodol a gwaith ysbrydoledig Cludiant Cymunedol (CC) yn helpu miliynau o bobl i gadw mewn cysylltiad a bod yn annibynnol, i gymryd rhan yn eu cymunedau a chael mynediad at wasanaethau cyhoeddus hanfodol fel iechyd a gofal cymdeithasol, cyflogaeth, addysg a hyfforddiant.
Gyda chymorth yr Adran Drafnidiaeth, mae CTA yn lansio ei wythnos ymwybyddiaeth genedlaethol gyntaf erioed ar gyfer y sector Cludiant Cymunedol: CTWeek23 ‘Pontio’r bwlch, cysylltu cymunedau’. Mae CT Week yn rhoi cyfle i ni gydnabod a dathlu ymdrechion amhrisiadwy darparwyr CC ledled y DU sy’n cefnogi miliynau o bobl ac sy’n defnyddio cludiant i greu cymdeithasol mwy cynhwysol a chysylltiedig. Mae grwpiau a mudiadau cludiant cymunedol ledled Cymru yn galluogi ac yn grymuso pobl i gysylltu, cyfrannu a ffynnu, drwy ddarparu gwasanaethau hanfodol a gaiff eu hesgeuluso’n aml.
GWEITHREDWYR CC
Wedi’u gyrru gan gymunedau a’u llunio gan y bobl sy’n defnyddio eu gwasanaethau, mae gweithredwyr CC yn cynnig cysylltiadau hanfodol i bobl sy’n profi rhwystrau cludiant fel incymau isel, gwasanaethau bws sydd wedi’u lleihau neu eu stopio, a cherbydau anhygyrch. Heb y cymorth amhrisiadwy hwn, fe fyddem yn gweld llawer mwy o bobl nad ydynt yn gallu cyrraedd gwaith, mynd i’r ysgol neu goleg, cymdeithasu â ffrindiau, gofalu am anwyliaid neu gyrraedd apwyntiadau iechyd. Rydyn ni eisiau defnyddio CTWeek23 i amlygu a chwyddo lleisiau’r darparwyr cymunedol hanfodol hyn, er mwyn cael cyrff cyhoeddus, cyllidwyr a phartneriaid i feddwl am sut gallent gefnogi ac ymgysylltu’n well â’r mudiad cludiant cymunedol.
CYMRYD RHAN
Os hoffech chi gymryd rhan yn CTWeek23, edrychwch ar ein pecyn cymorth ar gyfer yr ymgyrch (Saesneg yn unig) am rai syniadau ac adnoddau. Ac os oes gennych chi gysylltiad â darparwr CC yn eich ardal eisoes, beth am fanteisio ar y cyfle hwn i rannu blog neu lunio rhai postiadau ar gyfryngau cymdeithasol ynghylch y gwahaniaeth y maen nhw’n ei wneud i’ch gwaith?
Os nad ydych chi wedi clywed am CC o’r blaen, cysylltwch â ni yn CTA a gallwn ni eich helpu chi i ddod o hyd i’ch gweithredwr agosaf i drefnu ymweliad. Neu efallai bod eich mudiad yn gysylltiedig â rhywun a allai ein helpu ni i ledaenu’r gair ynghylch y mudiad cludiant cymunedol? Efallai y byddai gan eich staff ddiddordeb mewn cyfleoedd gwirfoddoli, neu efallai y byddai rhai o’ch prosiectau yn elwa ar gysylltu â darparwyr cludiant sy’n gwybod yn gwmws sut i gefnogi amrediad amrywiol o bobl fel y gallant gyrraedd eu cyrchfan ag urddas?
Sut bynnag y byddwch chi’n dewis cymryd rhan, bydd eich cymorth yn amhrisiadwy i’n helpu ni i ddathlu’r sector a chael mwy o bobl i gymryd rhan a’i gefnogi. Edrychwch ar ein tudalennau CTWeek23 cysylltwch â gemma@ctauk.org, a chofiwch ein tagio ar @ctauk1 a rhannu’r hashnod #CTWeek23 ar draws eich holl sianeli.
AM CTA
Mae’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol (CTA) yn elusen seiliedig ar aelodau yn y DU sy’n cynnig arweinyddiaeth, hyfforddiant, cyngor a chymorth gweithredol i elusennau, grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol sy’n ymwneud â chludiant yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ein gweledigaeth yw byd lle y gall pawb yn eu cymunedau gael mynediad at gludiant sy’n diwallu eu hanghenion.