Pobl o gwmpas bocs yn llawn nwyddau a roddwyd, a het Nadolig

Sut gwnaeth y sector helpu’r rheini mewn angen dros y Nadolig

Cyhoeddwyd: 02/01/24 | Categorïau: Dylanwadu, Awdur: David Cook

Mae’r Nadolig drosodd, ond roedd y sector gwirfoddol yng Nghymru yn brysur drwy gydol y gwyliau.

I roi cipolwg i chi o’r gwaith anhygoel y mae’r sector cyffredinol yn ei wneud dros y Nadolig, rydyn wedi siarad â thri mudiad sy’n gweithio yn y maes iechyd a gofal a ddywedodd wrthym ni am yr hyn a wnaethant i helpu pobl dros yr ŵyl.

Y WALLICH

‘Ar adeg y Nadolig, pan mae’r sector preifat yn dechrau tawelu, mae pethau’n dechrau prysuro yn Y Wallich. Mae’r Nadolig yn gyfnod prysur tu hwnt i ni, nid dim ond oherwydd y tywydd a’r tymereddau isel, ond hefyd am fod pobl yn dod yn fwy ymwybodol yn sydyn o drafferthion y digartref. Mae fel petai’r rheini nad oeddent yn meddwl amdano o’r blaen yn sylweddoli’n sydyn nad oes gan bawb cartref. Wrth iddyn nhw siopa, mae presenoldeb cynhyrfus pobl ar ein strydoedd i weld yn effeithio ar bawb yn wahanol.

‘Dyw’r Wallich byth ar gau – rydyn ni’n parhau i roi allgymorth ym mhob tywydd ac ar bob diwrnod o’r flwyddyn. Roedden ni allan ar ein rowndiau brecwast yn gynnar iawn, yn gwneud yn siŵr bod gan bawb bopeth oedd eu hangen arnyn nhw am y diwrnod. Gwnaethon ni ein gorau glas i sicrhau bod gan bawb ginio Nadolig poeth i edrych ymlaen ato a gwelsom ni fusnesau yn bod yn hyfryd o hael.

‘I bobl mewn llety dros dro, gall y Nadolig fod yn adeg o synfyfyrdod a thristwch – ond nid tra byddwn ni yma! Roedd gan ein prosiectau preswyl raglen gyfan o weithgareddau gwych, a oedd yn amrywio o grefftau Nadolig i nosweithiau siocled poeth.

‘Er bod y Nadolig drosodd, gallwch chi barhau i gymryd rhan yn ein hymgyrch gaeaf. Cewch ragor o wybodaeth yma.’

Dr Lindsay Cordery-Bruce, Prif Swyddog Gweithredol, The Wallich

BYDDUB YR IACHAWDWRIAETH

‘Mae gan Fyddin yr Iachawdwriaeth lwyth o weithgareddau wrth agosáu at y Nadolig. Cawson ni Apêl Deganau flynyddol lle rhoddodd y cyhoedd deganau ac anrhegion newydd i blant y teuluoedd hynny na all roi bwyd ar y bwrdd, cynhesu eu cartrefi na thalu eu biliau. Cafodd yr anrhegion hynny eu dosbarthu ar hyd a lled Cymru yr wythnos cyn y Nadolig. Yng Ngogledd Cymru, rhoddwyd sanau wedi’u gwau â llaw i garcharorion yng Ngharchar Berwyn ac ym mhob cwr o Gymru, roedd llawer o ganolfannau yn cynnig dillad cynnes (siwmperi, cotiau, hetiau a menig) i’r rheini mewn angen.

‘Gwnaeth llawer o’n heglwysi a chanolfannau cymunedol ledled Cymru ddarparu Cinio Nadolig ar 25 Rhagfyr ar gyfer y rheini a oedd o bosibl ar eu pen eu hunain neu mewn angen. I unrhyw un oedd angen basged fwyd, cafodd y rhain eu darparu’n eang mewn llawer o drefi a dinasoedd ledled Cymru, ynghyd â help gyda nwy a thrydan. Roedd y rhan fwyaf o’n canolfannau cymunedol yn cael eu hagor o leiaf bob wythnos fel Canolfannau Cynnes, a hefyd yn rhoi cymorth ymarferol ac yn hybu cynhwysiant cymdeithasol.’

Sarah Jefferies, Rheolwr Rhanbarthol Cymru a’r De-orllewin, Byddin yr Iachawdwriaeth

Y SAMARIAID

‘Gyda’r pwysau ychwanegol y gall y Nadolig ei roi ar bobl, gall ein pryderon a’n hofnau deimlo’n waeth… Mae’n bwysig bod pobl yn edrych ar eu hunain ac yn gofalu am eu llesiant.  Efallai nad ydyn nhw’n mwynhau’r pethau y bydden nhw’n arfer eu mwynhau. Efallai eu bod yn poeni am ffrindiau a theulu neu bethau eraill sy’n digwydd yn y byd. Gallai fod rhesymau di-ri pam eu bod yn gweld yr adeg hon o’r flwyddyn yn anodd, ac mae hynny’n iawn.

‘Roedd gwirfoddolwyr Samariaid Cymru ar gael i siarad â nhw drwy gydol y Nadolig, ar-lein a thrwy e-bost, yn Gymraeg a Saesneg.

‘Gwnaethon ni hefyd lunio canllaw am ddim i unrhyw un a oedd yn ei chael hi’n anodd ymdopi yng Nghymru, o’r enw Dod o hyd i’ch Ffordd. Mae’r canllaw hwn i unrhyw un, waeth a ydych chi wedi sylwi nad yw eich llesiant cystal, yn teimlo’n unig neu’n ynysig neu’n meddwl am hunanladdiad ac mewn argyfwng.’

Emma Gooding, Rheolwr Polisi a Chyfathrebiadau, Samariaid Cymru

I gael gwybod mwy am waith y sector yn y maes iechyd a gofal, cysylltwch ag iechydagofal@wcva.cymru neu ewch i dudalen ein Prosiect Iechyd a Gofal.