Mae dau ddyn du ifanc yn danfon eitemau bwyd i stepen drws ar stryd deras. Maent yn gwisgo masgiau wyneb a chrysau-t Prosiect Datblygu Congo

Sut gallwn ni baratoi ar gyfer dyfodol gwahanol

Cyhoeddwyd: 10/08/20 | Categorïau: Dylanwadu, Awdur: Anna Nicholl

Wrth i ni symud tuag at ‘normal newydd’, mae Anna Nicholl, Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygu’r Sector CGGC, yn adlewyrchu ar yr hyn rydym wedi’i ddysgu wrth i ni baratoi ar gyfer dyfodol gwahanol yn dilyn y pandemig. 

Yn ystod Mai a Mehefin, hwylusodd CGGC bobl i ddod at ei gilydd er mwyn archwilio effaith COVID-19, pa bosibiliadau a agorwyd ar gyfer y dyfodol a goblygiadau i’r sector gwirfoddol a rhanddeiliaid allweddol.

Mae lefel y cyfranogiad yn adlewyrchu’r gwerth a welodd pobl mewn dod ynghyd i rannu a dysgu oddi wrth ei gilydd yng nghanol yr holl ansicrwydd.

Cyfrannodd pobl o dros 260 o fudiadau ledled Cymru, o elusennau mawr i grwpiau bach anffurfiol, yn ogystal â phartneriaid megis CLILC, Un Llais Cymru, Llywodraeth Cymru, Busnes yn y Gymuned, cyllidwyr, academyddion ac unigolion.

Felly, beth ddysgom ni? Yn ddiweddar fe gyhoeddom adroddiad terfynol sy’n amlinellu’r rhain yn swyddogol, gan gynnwys syniadau ar gyfer y camau nesaf. I fi, mae tri pheth yn sefyll allan.

Gallwn wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd

Yn y lle cyntaf, mae’r argyfwng wedi tynnu sylw o’r newydd tuag at y gwahaniaeth y gall pobl ei wneud wrth ddod ynghyd yn wirfoddol â nodau cyffredin.

Yr her nesaf yw cynnal y gydnabyddiaeth honno ac annog y systemau a’r ymddygiad sy’n galluogi pobl i wneud y gwahaniaeth hwnnw.

Bu’r ymateb cymunedol yn hanfodol i lesiant nifer fawr o bobl. Cychwynnodd grwpiau newydd ac anffurfiol ledled y wlad, gan gynnwys grwpiau cyd-gymorth.

Roedd modd i’r gweithredu cymunedol lleol hwn weithio’n gyflym ac mewn ffyrdd nad oedd modd i rannau eraill o gymdeithas wneud. Fe arweinion nhw’r ffordd yn aml.

Bu rhai pethau penodol o gymorth i’r grwpiau hynny symud yn gyflym a gwneud mwy o wahaniaeth:

  • Roedd o gymorth bod seilwaith cymunedol eisoes yn ei lle – seilwaith cysylltiadau a seilwaith ffisegol fel ei gilydd
  • Cysylltiadau da â busnesau lleol a chyrff cyhoeddus
  • Fe ysgogodd yr angen enfawr a’r ymateb anffurfiol cyflym filoedd o bobl.

Fodd bynnag, i gynnal ysgogiad a chadw pawb yn ddiogel, bydd angen o hyd am lywodraethiant priodol a rhwydweithiau cefnogi.

Amlygodd yr argyfwng y rôl enfawr mae mudiadau gwirfoddol sefydledig yn ei chwarae hefyd.

Cafodd nifer syndod fod cynifer o’r gwasanaethau y dibynwn arnynt o ddydd i ddydd – o grwpiau chwarae cyn-ysgol i gartrefi gofal a hosbisau, o wasanaethau argyfwng i galerïau a safleoedd treftadaeth – yn cael eu darparu gan y sector gwirfoddol.

Yn anffodus, y bygythiad i’w bodolaeth sydd wedi ein hatgoffa ni o ba mor werthfawr ydynt.

Rhan fawr o’r bygythiad hwnnw yw gwydnwch ariannol. Caiff hyn ei adlewyrchu yn yr ymateb anhygoel o gyfraniadau gan y cyhoedd yn ogystal â chyllid gan y Llywodraeth.

Yn anffodus, gwyddom na fydd hyn yn ddigon i ddiwallu’r angen ariannol. Bydd angen i fudiadau addasu a dangosodd y sesiynau rai o’r ffyrdd y gallwn wneud hynny.

Ond nid mater ariannol yn unig yw hyn. Os yw’r sector yn mynd i barhau i gyfrannu cymaint i gymdeithas, bydd angen i’r ffyrdd rydym ni’n rhedeg ein mudiadau ac yn darparu gwasanaethau fod yn fwy gwydn ac yn fwy hyblyg.

Mae’r dyfodol yn parhau’n anhygoel o ansicr. Mae’r ymateb i COVID-19 wedi dangos ein bod yn medru gwneud, ond bydd angen i ni barhau i ddod at ein gilydd a dysgu oddi wrth ein gilydd. Mae gan gyrff aelodaeth a seilwaith rôl allweddol i’w chwarae wrth alluogi hynny.

Gall y sector gwirfoddol helpu i greu gwell dyfodol

Yr ail wers i mi yw pa mor bwysig ydyw fod ymdriniaethau ein sector, a yrrir gan werth, wrth wraidd trafodaethau – a phenderfyniadau – ynglŷn ag adferiad.

Bu galw pendant ar i ni beidio â ‘mynd yn ôl’ i systemau ac ymddygiad a oedd yn gyrru anghydraddoldeb, niwed amgylcheddol ac angrymuso cymunedau. Rydym am fachu ar gyfleoedd i greu gwell dyfodol.

Ceir cyfleoedd i drawsnewid gwasanaethau yn fwy radical, i symud tuag at  economi sy’n canolbwyntio ar lesiant ac i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Mae rhan o hyn yn ymwneud â gallu mudiadau gwirfoddol i ymgysylltu a  dylanwadu ar weithredu a blaenoriaethau’r llywodraeth. Mae arnom angen i’r llywodraeth gadw ymgysylltiad agored a rhoi’r gorau i broses gaeëdig o wneud penderfyniadau a dulliau o’r brig i lawr a oeddent, ar adegau, yn sgil-gynhyrchu angenrheidiol o’r ymateb argyfwng. Mae’r argyfwng wedi dangos sut y gallwn ni i gyd wneud mwy o wahaniaeth trwy weithio gyda’n gilydd.

Ceir cyfleoedd hefyd i gydweithio ar draws y seilos yn ein sector ni ein hunain, gan ddefnyddio ein hasedau ar y cyd, er mwyn creu gwell dyfodol trwy adferiad. Mae angen i ni archwilio hynny ymhellach.

Mae angen i ni ddysgu o’r newidiadau y cawsom ein gorfodi i’w gwneud

Ac mae hynny’n fy arwain at fy nhrydydd pwynt. Rydym wedi dysgu bod modd i ni wneud pethau’n wahanol. Mae hynny wedi creu meddylfryd gwahanol o ran yr hyn sy’n bosibl yn y dyfodol.

Mae COVID-19 wedi gyrru newid yng nghyd-destun caledi a thrasiedïau personol mawr. Nid yw hon yn amgylchedd y mae unrhyw un am iddi barhau.

O’n gorfodi i wneud pethau’n wahanol, fodd bynnag, mae’r argyfwng wedi arwain at ymdriniaethau gwahanol sydd, o bryd i’w gilydd, wedi gweithio’n dda. Cawsom ein gorfodi i ddod o hyd i ddatrysiadau mewn ffyrdd a deimlai cyn hynny yn amhosibl.

Un enghraifft yw dulliau mwy hyblyg o gomisiynu a rhannu data a alluogodd ymatebion cydweithredol.

Trwy arddangos gwahanol bosibiliadau, grym gweithredu gwirfoddol a chymunedol, cawsom ein gwthio i edrych yn fanylach ar yr hyn y gallwn ei ddysgu o fentrau cyfredol.

Er enghraifft, sut gallwn ni ddysgu o weithgaredd cyfredol wedi’i harwain gan y gymuned a allai, os nad yw’n tyfu’n fwy, dyfu ar draws Cymru?

Mae’n debygol bod heriau mwy, hyd yn oed, o’n blaenau – argyfwng iechyd cyfredol, yn ogystal â dirywiad economaidd difrifol a goblygiadau cymdeithasol ehangach.

Wrth baratoi at hyn, mae CGGC yn awyddus i weithio gydag eraill er mwyn sicrhau’r atebion a arweinir gan werth y mae ein sector yn eu cynnig, cryfhau rôl ymatebion gwirfoddol a chymunedol a chynyddu gwydnwch.

Byddem wrth ein bodd o glywed mwy o’ch syniadau ynglŷn â sut y gallwn greu gwell dyfodol gyda’n gilydd trwy policy@wcva.cymru. I ychwanegu’ch llais ac i gael gwybod y diweddaraf am ein gwaith polisi, ymunwch â CGGC.