Yn ystod ein digwyddiad ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, bu panel o arbenigwyr yn y diwydiant yn trafod rhwystrau ac atebion i greu gweithleoedd cynhwysol i fenywod. Mae Elen Notley o CGGC yn rhannu rhai o’r prif bwyntiau o’r drafodaeth.
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i fyfyrio ar ba mor bell rydyn ni wedi dod – ond hefyd ar faint ymhellach sydd raid i ni fynd. Mae newidiadau diweddar mewn polisïau amrywiaeth gan gorfforaethau byd-eang a gostyngiad yn nifer y menywod mewn uwch swyddi arwain yng ngwledydd Prydain yn ein hatgoffa nad yw cynnydd yn rhywbeth y gallwn ei gymryd yn ganiataol.
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn cael ei ddathlu ers canrif a mwy, a bob blwyddyn mae’n digwydd ar ddiwrnod pen-blwydd fy mam-gu, sy’n arbennig o addas gan ei bod hi’n fodel rôl mor ddylanwadol arna i. Yn ystod ei gyrfa, Gran oedd yr un oedd yn ennill cyflog tra bod Bumpy (fy nhad-cu) yn cymryd mwy o gyfrifoldebau o ran magu plant ac yna gofalu am rieni oedrannus fy mam-gu.
Wrth siarad â hi yn ei pharti pen-blwydd yn 80 ddydd Sadwrn, gofynnais iddi am Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ac fe ddywedodd – yn ystod ei gyrfa – taw hi, yn aml iawn, oedd yr unig fenyw yn yr ystafell. Dywedodd fod yn rhaid iddi weithio’n galetach a bod yn well na’r holl ddynion er mwyn symud ymlaen yn ei gyrfa. Ac er mor heriol roedd hyn wedi bod, fe ddywedodd hi hefyd pa mor ffodus oedd hi i allu dilyn ei gyrfa.
Aeth Gran ’nôl i weithio chwe wythnos yn unig ar ôl rhoi genedigaeth. Roedd ganddi gefnogaeth gartref gyda’i rhieni’n gofalu am fy mam, ac roedd Bumpy yn fodlon ac yn gallu camu i mewn a gofalu am ei rhieni hi pan ddaeth yr amser. Mae hyn yn anarferol hyd yn oed y dyddiau yma heb sôn am bryd hynny, sy’n dangos pa mor anodd mae’n gallu bod i fenywod symud ymlaen yn y gweithle.
Y FRWYDR BARHAUS AM GYDRADDOLDEB RHYWEDD YN Y GWEITHLE
Ddylai hi ddim bod yn ‘anarferol’ neu’n ‘lwcus’ bod menywod yn gallu goresgyn cyfrifoldebau gofalu, problemau iechyd, rhagfarn ar sail rhywedd a rhywiaeth er mwyn gallu dilyn gyrfaoedd yn yr un ffordd â dynion. Felly beth allwn ni ei wneud fel unigolion a chyflogwyr i annog cydraddoldeb?
Mewn sawl ffordd, mae’r sector gwirfoddol yn arwain y ffordd yn y maes yma, ac yn arddangos arferion gorau ar gyfer gweithleoedd cynhwysol. Yn ein digwyddiad ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, daeth arbenigwyr o fyd cyfraith cyflogaeth, eiriolaeth polisi, a gwaith elusennol rheng flaen at ei gilydd i archwilio rhai o’r rhwystrau yma mae menywod yn dal i’w hwynebu a beth gellir ei wneud i’w goresgyn.
Dyma beth oedd ganddyn nhw i’w ddweud…
IECHYD MENYWOD YN Y GWEITHLE: YR ANGEN AM SGYRSIAU AGORED
Mae iechyd menywod yn parhau i fod yn bwnc tabŵ mewn llawer o weithleoedd, er gwaethaf yr effaith sylweddol mae cyflyrau fel endometriosis, y menopos, a phroblemau iechyd cronig eraill yn eu cael ar weithwyr.
Sut gall elusennau a chyflogwyr leihau stigma?
- Cymryd agwedd gydgynhyrchiol at lunio polisïau, gan gynnwys staff yn y broses i sicrhau bod polisïau’n adlewyrchu eu hanghenion.
- Darparu trefniadau gweithio hyblyg ac addasiadau rhesymol sy’n cydnabod effaith cyflyrau iechyd menywod.
- Ymgysylltu â sefydliadau arbenigol fel Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW) ac Endometriosis UK i ddarparu hyfforddiant a chymorth.
- Meithrin diwylliant o fod yn agored a dangos empathi, gan sicrhau bod gweithwyr yn teimlo’n ddiogel i rannu eu profiadau heb ofni gwahaniaethu.
‘Mae cwmnïau sy’n cydnabod gwahanol anghenion iechyd menywod, yn hytrach na thrin eu staff fel rhifau, yn gwneud yn llawer gwell.’ – Fflur Jones, Darwin Gray.
Rhannodd Rachel Joseph, enillydd ein Gwobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn yn 2022 a gwirfoddolwr gyda Thriniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW), y cyngor yma gyda ni ar gyfer cyflogwyr sy’n ystyried materion yn ymwneud ag iechyd menywod:
‘Addysgwch eich hunain ar anghydraddoldebau iechyd menywod yng Nghymru a gwledydd Prydain a chymerwch gamau i greu gweithle diogel a chefnogol yn y cyd-destun yma. Os yw’ch gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu tawelu yn y gofodau meddygol sydd i fod i’w helpu, gallai’r diffyg ymddiriedaeth yna effeithio ar y gweithle hefyd – efallai na fydd eich cyflogeion yn teimlo wedi’u grymuso ddigon i gyfleu eu hanghenion i chi. Rhowch ddiwedd ar y cylch o ddistawrwydd.’
NEWIDIADAU POLISI: BETH DDYLAI DDIGWYDD AR LEFEL GENEDLAETHOL?
Mae llawer o broblemau yn y gweithle yn deillio o fethiannau polisi ar lefel y llywodraeth. Nododd ein panel sawl maes lle mae angen newid ar frys:
- Diwygio gofal plant: Mae system gofal plant Cymru yn parhau i fod yn gymhleth ac yn anodd ei llywio, yn enwedig i rieni plant o dan dair oed.
- Amddiffyniadau cyfreithiol cryfach: Mae gwahaniaethu yn erbyn menywod beichiog a mamau newydd yn parhau i fod yn gyffredin, ac eto dim ond chwe mis yw’r amserlen ar gyfer cymryd camau cyfreithiol – yn aml mae hyn yn amserlen rhy dynn i fenywod sy’n dychwelyd i’r gwaith nodi a herio triniaeth annheg.
- Cau’r bwlch cyflog rhywedd: Mae’n rhaid i gwmnïau mawr adrodd am eu bylchau cyflog, ond dylid annog sefydliadau llai a’r sector cyhoeddus hefyd i gadw cofnod a mynd i’r afael â gwahaniaethau.
- Mwy o fenywod mewn rolau gwneud penderfyniadau: Mae cynrychiolaeth wleidyddol yn bwysig. Heb fenywod wrth y bwrdd, mae polisïau sy’n effeithio arnyn nhw’n llai tebygol o gael eu blaenoriaethu.
‘Oni bai bod ganddon ni gydraddoldeb rhwng dynion a menywod mewn swyddi arwain, fydd y materion yma ddim yn cael eu blaenoriaethu.’ – Nerys Evans, Cavendish Cymru.
RHYWIAETH A RHAGFARN AR SAIL RHYWEDD: MWY NA DIM OND MICROYMOSODIADAU
Mae aflonyddu rhywiol a chasineb didaro at ferched yn parhau i lywio profiadau menywod yn y gweithle. Mae llawer o fenywod, yn enwedig y rhai mewn swyddi arwain, yn dweud eu bod yn cael eu hanwybyddu, eu tanbrisio, neu’n profi aflonyddu.
‘Dw i ddim yn nabod unrhyw fenyw ym myd gwleidyddiaeth sydd heb wynebu aflonyddu rhywiol.’ – Nerys Evans, Cavendish Cymru.
Beth sydd angen ei wneud?
- Credu menywod pan fyddan nhw’n codi’u llais.
- Cryfhau polisïau Adnoddau Dynol er mwyn sicrhau bod cwynion yn cael eu cymryd o ddifri.
- Meithrin rhwydweithiau lle gall menywod gefnogi ei gilydd.
- Herio diwylliannau mewn gweithleoedd sy’n normaleiddio rhywiaeth ddidaro.
DILEU RHWYSTRAU I FENYWOD O GEFNDIROEDD DU AC ETHNIG LEIAFRIFOL
Mae menywod o gefndiroedd Du ac Ethnig Leiafrifol yn wynebu heriau ychwanegol yn y gweithle, gan gynnwys rhwystrau diwylliannol, gwahaniaethu, a diffyg cynrychiolaeth mewn rolau arwain.
Camau allweddol i wella cynhwysiant:
- Mentora a nawdd – Paru menywod Du ac Ethnig Leiafrifol gydag uwch arweinwyr i gefnogi dilyniant gyrfa.
- Hyfforddiant rhagfarn – Addysgu staff ar ragfarn ddiarwybod a gwahaniaethu.
- Paneli penodi amrywiol – Sicrhau bod arferion recriwtio yn deg ac yn gynhwysol.
- Mannau diogel – Creu grwpiau adnoddau gweithwyr lle gall menywod Du ac Ethnig Leiafrifol gysylltu a chael cefnogaeth.
- Ymgysylltu â’r gymuned – Gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau sy’n eiriol dros fenywod heb gynrychiolaeth ddigonol.
‘Mae angen i gyflogwyr edrych ar unigolion mewn ffordd gyfannol, nid fel rhifau yn unig, dyna sut gallwn gael y gorau gan bobl, drwy ddeall eu hamgylchiadau a’u diwylliant a dangos empathi pan fydd ei angen arnyn nhw. Yna bydd unigolion yn fwy cynhyrchiol oherwydd eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi.’ – Jumana Mohamed, BAWSO
CYNGOR DEFNYDDIOL I GYFLOGWYR: CREU GWEITHLE MWY CYNHWYSOL
- Datblygu polisïau cryf a chynhwysol – Sicrhau bod polisïau ar weithio hyblyg, absenoldeb rhiant, a iechyd yn adlewyrchu anghenion amrywiol menywod.
- Cynnig sesiynau hyfforddi ac ymwybyddiaeth – Addysgu staff ar ragfarn rhywedd, anghydraddoldebau iechyd, a gwahaniaethu yn y gweithle.
- Annog sgyrsiau agored – Normaleiddio trafodaethau am iechyd menywod, cyfrifoldebau gofal plant, a datblygiad gyrfa.
- Cefnogi menywod mewn swyddi arwain – Creu llwybrau clir ar gyfer dilyniant gyrfa a mentora.
- Ymrwymo i dryloywder – Adolygu a chyhoeddi data bwlch cyflog rhywedd yn rheolaidd, hyd yn oed os nad yw’n ofynnol yn gyfreithiol.
- Cydweithio ag arbenigwyr – Gweithio gyda sefydliadau sy’n arbenigo mewn hawliau menywod, iechyd a chydraddoldeb yn y gweithle.
Y FFORDD YMLAEN: MAE’N BRYD GWEITHREDU
Gyda bygythiadau cynyddol i gydraddoldeb yn y gweithle, allwn ni ddim fforddio bod yn hunanfodlon. Fel y pwysleisiodd ein panel, rhaid i ni fynd ati i herio gwahaniaethu, eirioli dros bolisïau cryfach, a sicrhau bod lleisiau menywod yn cael eu clywed mewn mannau lle mae penderfyniadau’n cael eu gwneud.
Mae cynnydd yn bosib – ond dim ond os byddwn yn gweithio gyda’n gilydd.
Beth am wneud mwy na dim ond trafod newid. Beth am wneud iddo ddigwydd.
CADW MEWN CYSYLLTIAD
Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, newyddion a darnau barn eraill gan CGGC drwy gofrestru i gael ein cylchlythyr wythnosol.