Siot o'r sgrin o siaradwyr ar Teams mewn cyfarfod

Sut gallwn ni adeiladu ar ymateb cymunedau i goronafeirws

Cyhoeddwyd: 01/06/20 | Categorïau: Heb gategori, Awdur: Jess Blair

Yma, mae Jess Blair yn adrodd yn ôl ar yr ail yn ein cyfres o ddigwyddiadau COVID-19 a oedd yn canolbwyntio ar adeiladu ar ymateb cymunedau i’r pandemig, a gwirfoddoli.

Ddydd Iau 21 Mai, cynhaliwyd yr ail mewn cyfres o ddigwyddiadau gan CGGC ar ‘Baratoi ar gyfer Dyfodol Gwahanol’, sy’n ceisio hwyluso sgwrs â’r sector gwirfoddol ar y problemau sy’n ei wynebu yn sgil pandemig y Coronafeirws. Gellir gweld dadansoddiad o’r sesiwn cyn hwn ar wydnwch ariannol yma.

Gwnaeth y digwyddiad ar-lein hwn edrych ar sut i adeiladu ymateb cymunedau i Covid-19 a thrafodwyd y problemau o ran gwirfoddoli.

Ymunodd mwy na 100 o gynrychiolwyr â’r sesiwn, a Gadeiriwyd gan Emily Forbes, Prif Swyddog Cyngor Tref y Barri a’i threfnu mewn partneriaeth â CLlLC.

I ddechrau, gwnaethon ni groesawu tri chyfranogwr i roi eu safbwynt gwahanol eu hunain ar eu profiadau o sut mae’r Coronafeirws wedi effeithio ar wirfoddoli; un o safbwynt cyngor tref, un arall o safbwynt cymdeithas wirfoddol ac un o safbwynt awdurdod lleol.

Y rhain oedd y siaradwyr:

  • Y Cynghorydd Mike Theodoulou, Cyngor Tref Pen-bre a Phorth Tywyn a’r Is-Gadeirydd ar gyfer Un Llais Cymru,
  • Sue Leonard, Prif Swyddog, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro
  • Owen Wilce, Swyddog Arweiniol Datblygu Cymunedol a Phartneriaethau, Cyngor Sir Fynwy

Gan gynnig ychydig o gyd-destun i’r drafodaeth, gwnaethant amlygu rhai materion allweddol, fel rôl allweddol grwpiau gwirfoddoli anffurfiol newydd, sy’n aml yn gweithio ar lefel leol iawn ar hyd a lled Cymru. Gwnaeth Owen Wilce sylw ar hyn drwy ddweud fod ‘cymunedau wedi herio’r drefn arferol’.

Gwirfoddolwyr anffurfiol

Yr hyn sy’n arwyddocaol am grwpiau gwirfoddol/cyd-gymorth ledled Cymru yw eu bod wedi dod o’r unlle’n aml ac wedi datblygu’n gyflym iawn mewn ymateb i sefyllfa frys.

Cadarnhaodd y Cynghorydd Theodolou hyn drwy ddweud ‘Mae clybiau rygbi, clybiau pêl-droed…unigolion, busnesau, i gyd yn ymateb i’r argyfwng. Nid gwirfoddoli yn y modd traddodiadol mo hyn. Mae’n ymateb cymunedol ac mae hynny’n wahaniaeth mawr’.

Gwirfoddoli sy’n cynnwys mudiadau

I fudiadau sydd wedi dibynnu’n draddodiadol ar wirfoddolwyr rheolaidd, mae llawer ohonynt yn wynebu dilema oherwydd maen nhw’n gohirio llawer o weithgareddau ac mae llawer o’u gwirfoddolwyr ar y rhestr warchod ar hyn o bryd.

Gwnaeth un cyfranogwr yn benodol amlygu hyn, gan ddweud ‘Rydyn ni ar gau a byddai llawer o’n gwirfoddolwyr yn cael eu hystyried yn bobl sy’n agored i niwed. Yn y sector treftadaeth yn benodol, rydyn ni’n mynd i orfod newid o’n gwirfoddolwyr arferol yn gyflym a dod â gwirfoddolwyr i mewn o ffynonellau newydd.’

Ar yr un pwnc, gwnaeth eraill amlygu’r angen i ddiogelu gwirfoddolwyr, gan annog penderfynwyr i ddatblygu canllawiau ar hyn er mwyn cefnogi’r sector yn well. Er enghraifft, byddai canllawiau ar y ffordd orau o ddiogelu gwirfoddolwyr wrth i ni symud i gam adfer yn ddefnyddiol, yn enwedig y rheini sydd yn y categorïau gwarchod.

Amlygwyd yr her dechnolegol yn y drafodaeth hefyd, gyda mudiadau’n ymgodymu â chynorthwyo’u gwirfoddolwyr rheolaidd i wirfoddoli o gartref. Dywedodd un mudiad eu bod wedi derbyn grant am dechnoleg i alluogi tri gwirfoddolwr i weithio o gartref.

Newid hirdymor

Ar hyn o bryd, mae mudiadau’n symud o reoli argyfwng tymor byr mewn ymateb i bandemig y Coronafeirws i weithio allan sut maen nhw’n mynd i weithio mewn tirwedd wahanol hirdymor.

Amlygwyd rôl hyfforddiant fel rhywbeth hanfodol ar gyfer gwirfoddolwyr newydd a chyfredol wrth iddynt barhau i helpu eu cymunedau, ac addasu i weithio mewn ffyrdd newydd gyda dealltwriaeth sensitif o ddiwylliannau ac anghenion y bobl maen nhw’n eu cynorthwyo, gan gynnwys y rheini o gymunedau â chred wahanol neu gymunedau duon a lleiafrifoedd ethnig.

Elfen allweddol arall y gallai penderfynwyr ei hystyried yw’r cydweithio sydd wedi’i weld rhwng y sector gwirfoddol, awdurdodau lleol a busnesau. Gallai hyn, yn ôl un cyfranogwr, fod yn sail i bartneriaeth dref, gyda chydweithio ar draws gwahanol sectorau’n allweddol i gefnogi cymunedau drwy’r hyn sy’n debygol o fod yn gyfnod hirfaith o gynnwrf ariannol.

Sut i symud ymlaen

Wrth ofyn am argymhellion ar yr hyn y gallai penderfynwyr, mudiadau gwirfoddol a CGGC ei wneud i baratoi’r sector yn well ar gyfer y dyfodol, cyflwynodd y cyfranogwyr nifer o awgrymiadau. Yr hyn a lifodd yn naturiol o’r drafodaeth oedd hyfforddiant ar gyfer grwpiau cyd-gymorth a chanllawiau gwell gan Lywodraeth Cymru ar sut gall mudiadau gefnogi a diogelu gwirfoddolwyr.

Y cwestiwn mawr sy’n wynebu’r sector yw sut i harneisio’r ymateb cymunedol sydd wedi newid a herio’r ffordd y mae’r sector gwirfoddol yn gweithio yng Nghymru.

Er enghraifft, beth fydd yn digwydd i grwpiau cyd-gymorth wrth i bobl ddychwelyd yn raddol i’w gwaith? Sut gellir cefnogi ac arwain grwpiau yn well heb haenau ychwanegol o fiwrocratiaeth?

Gwnaeth cyfranogwr grynhoi hyn, drwy ddweud ‘Mae nifer anferthol o wirfoddolwyr lefel stryd wedi cymryd rhan. Nid yw’r rhain yn grwpiau ffurfiol. Mae angen i benderfynwyr a chyllidwyr sylweddoli hynny. Nid yw pobl eisiau cael ei boddi mewn biwrocratiaeth. Efallai y bydd angen i ni newid y ffordd rydyn ni’n meddwl am y trydydd sector yn y synnwyr traddodiadol’.

Ychwanegodd un arall, ‘Mae angen i gymunedau allu gwneud eu penderfyniadau eu hunain a chael mynediad at gyllid y gallan nhw ei ddefnyddio er budd y bobl sy’n byw yn eu cymunedau. Mae gan Gynghorau Tref a Chymuned ac aelodau etholedig, grwpiau cymunedol/ cymdeithasau/ rhwydweithiau a busnesau lleol i gyd rôl i’w chwarae mewn hyn’.

Mae dyfodol y sector gwirfoddol yng Nghymru wedi’i newid yn ei hanfod gan yr argyfwng hwn, yn y modd y mae wedi gorfod mynd i’r afael â heriau digyffelyb, ac yn y lefelau digyffelyb o gymorth sydd wedi’u gweld gan gymunedau lleol.

Gwnaeth y sesiwn hon adlewyrchu’r heriau a’r cyfleoedd hyn a chodi cwestiynau a fydd yn ffurfio’r sylfaen i sut mae’r sector gwirfoddol yn addasu ar gyfer yr hirdymor.

Bydd y sesiwn nesaf yn canolbwynto ar sut yr ydym yn dylanwadu ar bolisi, deddfwriaeth a phenderfyniadau ehangach. Bydd yn cael ei chynnal ddydd Iau 4 Mehefin am 4pm. I gael rhagor o fanylion a chofrestru cliciwch yma.