Teulu o bedwar yn sefyll mewn coedwig i gyd yn sefyll o gwmpas boncyff coeden ac yn ei chyffwrdd

Sut gall ‘ymdrochi coedwig’ wella iechyd a lles

Cyhoeddwyd: 21/03/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Helen Hedworth

Y Ddiwrnod Rhyngwladol Coedwigoedd y Cenhedloedd Unedig yma, mae Helen Hedworth, Cydlynydd Ymchwil a Gwerthuso Coed Lleol, yn dweud wrthym ni am ymdrochi coedwig, a sut y gall wneud i bobl deimlo’n well.

DIWRNOD RHYNGWLADOL COEDWIGOEDD Y CENHEDLOEDD UNEDIG

Mae’n Ddiwrnod Rhyngwladol Coedwigoedd y Cenhedloedd Unedig ar ddydd Iau 21 Mawrth, felly pa well amser i feddwl am ba mor bwysig ydynt i iechyd a lles? Yma, mae Helen Hedworth, Cydlynydd Ymchwil a Gwerthuso Coed Lleol/Small Woods, yn dweud wrthym ni am ymdrochi coedwig, a sut y gall wneud i bobl deimlo’n well.

BUDDION YMDROCHI COEDWIG

Mae’r term ‘ymdrochi coedwig’, cyfieithiad o’r gair Japaneeg ‘Shinrin-yoku’, yn dod yn fwyfwy cyffredin mewn diwylliannau sy’n siarad Saesneg. Mae’n ymwneud â’r ymarfer o dreulio amser mewn coedwigoedd i gael buddion iechyd a lles. Mor bell yn ôl â 2009, dangosodd astudiaeth o Japan fod gan bobl a oedd yn gwneud yr un faint o ymarfer corff mewn coedwig ag y byddent fel arfer yn ei wneud ar ddiwrnod gwaith yn y ddinas imiwnedd uwch a lefelau llai o straen pan fyddent yn mynd am dro mewn coedwig, o’u cymharu â’u diwrnod gweithio arferol – ac roedd yr effaith hon yn para am fwy na 30 diwrnod ar ôl bod am dro. Mae’r buddion iechyd ychwanegol sy’n gysylltiedig â gweithgareddau ym myd natur yn cynnwys pwysedd gwaed diastolig is, llai o gortisol yn y poer a churiad calon arafach, ynghyd â llai o achosion o ddiabetes a chlefyd cardiofasgwlaidd.

Yn ôl yr ymchwil diweddaraf, mae pobl sy’n byw mewn cymdogaethau gwyrddach, neu ar bwys y môr, yn dweud bod ei llesiant positif yn uwch os ydynt yn ymweld â’r ardaloedd hyn yn eu hamser hamdden. Mae teithiau rheolaidd yn gysylltiedig â llesiant uwch a llai o drallod meddwl. Yn ystod pandemig COVID-19, roedd mwy o wyrddni o fewn radiws o 250m i god post rhywun yn rhagfynegydd da o lefelau uwch o lesiant meddwl. Awgryma hyn fod bod yn agos at natur yn ffactor pwysig i gael mynediad ato.

Ynghyd â hyn, dangosodd astudiaeth ddeng mlynedd o 2.3 miliwn o oedolion yng Nghymru fod treulio mwy o amser mewn mannau gwyrdd yn gysylltiedig â risg lai o anhwylderau iechyd meddwl cyffredin yn y dyfodol, yn enwedig ymhlith y rheini sy’n byw mewn cymunedau difreintiedig. Roedd pob 360m ychwanegol rhwng cartrefi’r deiliaid a’r man gwyrdd neu glas agosaf yn gysylltiedig â siawns uwch o ddatblygu anhwylder iechyd meddwl cyffredin.

PRESGRIPSIYNU GWYRDD

Mae cymaint o dystiolaeth gymhellol fod treulio amser ym myd natur yn dda i’ch iechyd a lles, fel ei fod wedi’i nodi yn Fframwaith Cenedlaethol 2023 Llywodraeth Cymru ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol. Mae presgripsiynu cymdeithasol yn cysylltu pobl â’u cymuned er mwyn gwella eu hiechyd a’u lles, ac un ffordd o wneud hyn yw drwy bresgripsiynu ‘gwyrdd’ – treulio amser ym myd natur. Mae un agwedd ddiddorol arall yn dod i’r wyneb drwy’r gwaith ymchwil ar ‘gysylltedd natur’. Yn hytrach na dim ond nifer yr ymweliadau â mannau gwyrdd/glas, mae teimlo cysylltiad â’r fan honno yn ddangosydd cryfach o lesiant gwell ac o ymddygiad sydd o blaid yr amgylchedd.

Trwy feithrin cydberthynas gynaliadwy rhwng pobl a choetiroedd, mae gennym well siawns o warchod coedwigoedd i’r cenedlaethau o fodau dynol i ddod eu mwynhau – ac o ddarparu cynefinoedd hanfodol ar gyfer lliaws o rywogaethau eraill.

Mae Coed Lleol yn cynnal rhaglenni coedwigaeth cymdeithasol sy’n cysylltu â phobl â choetiroedd er mwyn cyflwyno buddion iechyd a lles a hybu pobl i reoli coetiroedd mewn modd cynaliadwy.

RHAGOR O WYBODAETH

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y pynciau y mae’r blog hwn yn ymdrin â nhw yn y ffynonellau isod:

* Gwefannau Saesneg yn unig