Sut gall profiad gwaith i fyfyrwyr a graddedigion helpu eich mudiad

Sut gall profiad gwaith i fyfyrwyr a graddedigion helpu eich mudiad

Cyhoeddwyd: 25/10/21 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Ros Davis & Julie Bush

Mae Ros Davis, Cynghorydd Cyflogadwyedd GO Wales a Julie Bush, Cynghorydd Cyflogadwyedd GROW, o’r Brifysgol Agored (OU) yng Nghymru, yn rhannu eu barn ar fuddion lleoliadau profiad gwaith i fyfyrwyr, graddedigion a chyflogwyr y sector gwirfoddol.

Mae cyflogwyr yn rhoi profiad gwaith ar frig eu rhestr ddymuniadau wrth recriwtio graddedigion. Sut mae myfyrwyr a graddedigion yn cael y profiad sydd eu hangen arnynt i gael y swyddi y maen nhw eu heisiau mewn marchnad gystadleuol? Gwirfoddoli yw un awgrym amlwg – rhywbeth sy’n ganolog i sut mae llawer o fudiadau’r trydydd sector yn gweithredu. Ond a oes ffyrdd eraill y gall myfyrwyr gael profiad a dod o hyd i swyddi lefel radd?

GO WALES

Trwy ein prosiect GO Wales: Cyflawni drwy Brofiad Gwaith rydyn ni’n helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd a gwella’u siawns o gael swydd pan fyddant yn gadael y brifysgol. Mae llawer o’n myfyrwyr iau yn dewis astudio gyda ni am eu bod yn anabl neu â chyfrifoldebau gofalu.

Drwy gydbwyso’r galwadau hyn ag astudio rhan-amser, maen nhw hefyd yn dangos pethau fel cymhelliant a sgiliau trefnu; maen nhw’n gyfarwydd â gweithio o bell, gan reoli eu hamser a’u llwythi gwaith eu hunain.

Drwy GO Wales, mae cyflogwyr yn rhoi amrywiaeth o brofiadau i fyfyrwyr iau gan gynnwys

  • Digwyddiadau ‘Cwrdd â Rhywun Proffesiynol’ – cyfarfod byr rhwng myfyriwr a gweithiwr proffesiynol sy’n berthnasol i’w ddiddordebau. Mae’r cyfarfodydd hyn yn helpu myfyrwyr i wybod mwy am y sector neu rôl benodol, yn ogystal â llwybrau gyrfa a’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw.
  • Cysgodi yn y gwaith – hyd at dri diwrnod o brofiad gwaith di-dâl lle bydd y myfyriwr yn arsylwi ar rywun yn ei rôl i ddeall sut y mae’n gwneud ei swydd.
  • Sesiynau blasu gwaith – hyd at bedair wythnos o brofiad gwaith di-dâl lle bydd y myfyriwr yn defnyddio’i sgiliau i helpu gyda phrosiectau a thasgau, wrth ddysgu hefyd am waith a’r amgylchedd gweithio drwy arsylwi.

Yn ogystal â bod o fudd i’r myfyriwr, gall staff gael mewnwelediad newydd o fyfyriwr brwdfrydig o’r OU yng Nghymru a dangos eu bod yn gyflogwyr cyfrifol cymdeithasol. Mae rheolwyr hefyd yn dweud wrthym fod ein myfyrwyr wedi rhoi safbwynt gwahanol iddyn nhw, a bod y rhaglen wedi helpu i amrywio eu gweithlu.

Gwnaeth Candace leoliad profiad gwaith rhithiol o fewn y tîm marchnata yn y Brifysgol Agored yng Nghymru, a disgrifiodd y profiad fel un sy’n ‘newid bywyd’.

‘Byddwn yn disgrifio GO Wales fel cyfle perffaith i gael profiad ymarferol. Roeddwn i’n teimlo fy mod wedi cael cyfle i ddysgu sgiliau go iawn ac, yn bwysicach oll, fe wnes i fagu hyder drwyddo’ meddai Candace. ‘Mae’n gyfle perffaith i gael profiad ymarferol. Mae tîm GO Cymru yn ymroddgar, yn gefnogol iawn ac yn eich ysbrydoli.’

GROW – CYFLEOEDD PROFIAD GWAITH I RADDEDIGION

Gall dod o hyd i brofiad gwaith a chyflogaeth fod yn anodd, hyd yn oed o dan amgylchiadau arferol, ond mae’r pandemig wedi gwneud hyn yn llawer anoddach. Yn 2021, gwnaeth Llywodraeth Cymru drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, sefydlu rhaglen GROW – Cyfleoedd Profiad Gwaith i Raddedigion i ymateb i hyn. Drwy hon, rydyn ni’n cynnig cymorth ychwanegol i raddedigion sydd wedi’u heffeithio gan y pandemig ac yn gallu rhoi cyllid ar gyfer lleoliadau profiad gwaith.

Yn aml, gall graddedigion yr OU yng Nghymru ddod â lefel o aeddfedrwydd a phrofiadau byw i fudiad. Gydag amrediad eang o sgiliau a chefndir, maen nhw’n cyflwyno safbwynt unigryw i unrhyw weithle.

Gall lleoliadau profiad gwaith GROW fod o bell, yn y gweithle neu’n gyfuniad o’r ddau. Gallai graddedigion gynorthwyo eich mudiad gydag amrywiaeth o brosiectau, er enghraifft

  • Gwneud ymchwil cefndirol er mwyn pennu pa mor ymarferol yw prosiect
  • Arwain y gwaith o gyflenwi cynllun tymor byr
  • Datblygu deunyddiau marchnata
  • Ysgrifennu deunydd hyfforddi neu ganllawiau ar-lein
  • Trefnu digwyddiadau

‘Mae cynnig profiadau yn y gweithle ac interniaethau i fyfyrwyr prifysgol a graddedigion diweddar wedi dod yn rhan bwysicach fyth o’n cynnig gwirfoddoli fel gwasanaeth,’ meddai Ashley Comely, Prif Weithredwr Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf.

‘Mae’n ein cysylltu ag unigolion brwdfrydig sy’n awyddus i roi eu dysgu ar waith er budd ein defnyddwyr gwasanaethau. Rydyn ni hefyd wedi canfod bod llawer o’r rheini ar leoliadau gyda ni yn dychwelyd fel gwirfoddolwyr mwy hirdymor a hyd yn oed fel aelodau cyflogedig o’n tîm. Yn gyffredinol, mae’r lleoliadau’n cynnig elw sylweddol ar fuddsoddiad’.

LLEIHAU’R BWLCH SGILIAU

Mae ein lleoliadau profiad gwaith i raddedigion wedi’u strwythuro, gyda nodau ac amcanion dysgu clir. Mae angen cymorth a goruchwyliaeth ar raddedigion, a gall hyn roi cyfle i staff y mudiad croesawu ymarfer eu sgiliau goruchwylio a mentora. Mae cyflogi graddedigion yn y tymor byr hefyd yn rhoi pâr ychwanegol o ddwylo i chi a chyfle i gwblhau darn o waith nad ydych chi o bosibl wedi cael cyfle i’w orffen.

Yn y pen draw, gall y rhaglenni profiad gwaith hyn helpu ein heconomi drwy baratoi myfyrwyr a graddedigion am fyd gwaith a lleihau’r bwlch sgiliau. Hoffem annog eich mudiad i fod yn rhan o hyn.

‘Mae hyn, wrth gwrs, yn rhedeg ochr yn ochr â’r buddion aruthrol y mae’r cyfle hwn yn ei ddarparu i fyfyrwyr a graddedigion,’ aiff Ashley ymlaen i ddweud. ‘Rwy’n dweud hyn fel rhywun a ddechreuodd gyda’r gwasanaeth Cyngor ar Bopeth ar gynllun lleoli myfyriwr 16 o flynyddoedd yn ôl’.

Gan fod y ddwy ohonom yn dod o gefndir trydydd sector, rydyn ni’n deall pwysigrwydd a gwerth cynnwys pobl ag anghenion amrywiol yn ein gwaith, a’r brwdfrydedd a’r profiad y gall y sector ei gynnig. Mae rhoi lleoliad profiad gwaith i fyfyriwr neu raddedig o’r OU yng Nghymru yn ffordd wych o wneud hyn.

Os hoffech drafod sut gallai lleoliad profiad gwaith posibl fod o fudd i’ch mudiad neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, cysylltwch â ni.

Ros Davis, Go Wales: Cyflawni Drwy Brofiad Gwaith – ros.davis@open.ac.uk

Julie Bush, GROW – Cyfleoedd Profiad Gwaith i Raddedigion – graduates-wales@open.ac.uk