Ddydd Iau diwethaf, cynhaliodd CGGC y bumed digwyddiad yn y gyfres ‘Paratoi ar gyfer Dyfodol Gwahanol’, a oedd yn edrych ar effaith pandemig y Coronafeirws ar y newid yn yr hinsawdd. Dyma adroddiad Jess Blair o’r digwyddiad.
Er bod sesiynau blaenorol wedi canolbwyntio ar effaith uniongyrchol yr argyfwng ar fudiadau a chymunedau ledled Cymru, roedd y digwyddiad hwn yn edrych ar y newid yn yr hinsawdd, gan ystyried sut gallai’r pandemig helpu neu lesteirio eich gallu i fynd i’r afael â’r her barhaus hon.
Wedi’i gadeirio gan Rocio Cifuentes, Prif Weithredwr Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Cymru (EYST Cymru) ac Ymddiriedolwr CGGC, gwnaeth oddeutu 50 o gyfranogwyr gymryd rhan yn y cyfarfod ar-lein.
Mae pandemig COVID wedi ychwanegu at y drafodaeth gyfredol ynghylch sut rydyn ni’n mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yng Nghymru, wrth i effeithiau stopio diwydiannau mawr, cael pobl yn gweithio o gartref ac yn aros yn eu cartrefi gan fwyaf ddod i’r amlwg.
Mae aer glân a llai o allyriadau carbon wedi bod yn ganlyniad positif annisgwyl o’r argyfwng, ond mae hwn wedi dod law yn llaw â thrychineb ariannol.
Cwestiwn mawr yw sut rydyn ni’n ailadeiladu’r economi mewn dyfodol lle rydyn ni wedi mynd i’r afael â bygythiad y Coronafeirws yn effeithiol, gan ailadeiladu mewn modd sy’n sicrhau ein bod yn cadw rhai o’r ymddygiadau cadarnhaol rydyn ni wedi’u datblygu yn ystod y misoedd diwethaf.
Newid ymddygiad
Un o’r prif feysydd trafod yn y digwyddiad oedd y newid hirdymor i ymddygiad y cyhoedd, yn enwedig o ran trafnidiaeth.
Er bod y cyfranogwyr yn croesawu defnyddio ceir yn llai, gwnaeth rhai grybwyll yr angen am seilwaith gwyrdd a llwybrau beicio mwy diogel er mwyn sicrhau y bydd hyn yn parhau yn yr hirdymor.
Sut gall cymunedau ddod yn fwy hunangynhaliol?
Rhoddwyd pwyslais mawr ar gymunedau lleol yn ystod y drafodaeth, a sut gallent fod yn fwy hunangynhaliol, yn enwedig o ran y rhwydwaith bwyd.
Gwnaeth cyfranogwr o Interlink Rhondda Cynon Taf grybwyll y posibilrwydd o dyfu cymunedol, ‘Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda nhw [banc bwyd lleol] am 18 mis i edrych ar sut gallent fod yn fwy na banc bwyd.
‘Mae mudiadau fel Tyfu Ponti a Tyfu Rhondda yn rhoi pecynnau dechrau i bobl fel y gall tyfu cymunedol ddigwydd yng ngerddi pobl. Mae hyn yn cymryd camau i gynorthwyo pobl mewn tlodi bwyd neu bobl sy’n hunanynysu.
‘Gall hefydd gysylltu’n ôl â banciau bwyd a darparu cynnyrch ar eu cyfer, gan ddechrau rhwydwaith bwyd lleol’.
Gwnaeth rhywun arall nodi fod tyfu cynnyrch yn lleol a newid i gadwyni bwyd byrrach o’r fferm i’r fforc yn effeithio’n gadarnhaol ar yr hinsawdd, cymunedau, ac yn osgoi’r broblem sydd wedi dod i’r amlwg yn ysgod argyfwng COVID.
‘Mae COVID wedi tynnu ein sylw at y bregusrwydd enfawr o ddibynnu ar wledydd eraill i ddatblygu’r pethau sydd arnom eu hangen.
‘Rydyn ni wedi sylweddoli fod cynhyrchu pethau’n lleol yn syniad da. Mae hwn hefyd yn helpu’r newid yn yr hinsawdd gan y teithiau hynny gan awyrennau a lorïau ar hyd a lled Ewrop yn cael eu lleihau’.
Gwnaeth cyfranogwr o WWF Cymru hefyd amlygu pwysigrwydd sicrhau y gallai cadwyni bwyd lleol ymdrin â thlodi bwyd a sicrhau bod bwyd yn parhau i fod yn fforddiadwy, gan ddweud ei fod yn rhan o grŵp tlodi bwyd a oedd yn edrych ar y mater hwn.
Ailadeiladu’r economi gan ystyried yr amgylchedd
Wrth i ni symud yn agosach at ddatblygu brechlyn ar gyfer COVID a chydag etholiad i ddod yng Nghymru’r flwyddyn nesaf, bydd pobl yn dechrau meddwl am sut bydd Llywodraeth Cymru’n mynd ati i ailadeiladu’r economi.
Cafwyd llawer o drafod yn y digwyddiad ynghylch sut mae hyn yn symud tuag at economi werdd gyda dibyniaeth ar leol yn hytrach na byd-eang, buddsoddi mewn swyddi gwyrdd, ac ymbellhau o’r ffyrdd traddodiadol o fesur perfformiad economaidd nad yw wedi cyflwyno budd i holl bobl Cymru.
Dywedodd Jess McQuade o WWF fod ‘COVID wedi amlygu’r system fregus sydd gennym ni’ a galwodd am fuddsoddiad sylweddol ar gyfer pecyn cyllidol gwyrdd.
Gwnaeth cyfranogwr arall ddadlau, ‘Mae gennym ni’r cyfraddau cyflogaeth isaf yn Ewrop’. Gyda hanes o fod ar frig y chwyldro diwydiannol, dadleuodd ‘fel Cymry, ni ddylai fod yr arloeswyr.
‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) oedd un o’r deddfau gorau a grewyd gan unrhyw lywodraeth yn y byd, ond nid ydyn ni wedi bodloni’r un o amcanion y ddeddf honno hyd yn oed… Mae angen i ni herio Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i greu swyddi yn y sector gwyrdd, i warchod bywyd gwyllt ac i greu môr-lynnoedd llanw. Mae angen i ni feddwl am sut rydyn ni’n integreiddio’r problemau amgylcheddol gyda’r problemau economaidd y mae’r wlad hon yn eu hwynebu’.
Yn y tymor byr, cytunwyd yn eang y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi amserlen ar gyfer eu hadnewyddu economaidd ac ystyried sut y gall yr adnewyddu economaidd hwnnw fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ac ymwreiddio rhai o’r ymddygiadau rydyn ni wedi’u gweld yn ystod y misoedd diwethaf.
Cyfle am newid
Yn ogystal â bod yn gyfnod o argyfwng a her anorchfygol, mae pandemig COVID wedi taflu cyfle i newid i’r ffordd rydyn ni’n ymateb i’r argyfwng hinsawdd.
O barhau i leihau allyriadau carbon, symud i systemau lleol ar gyfer rhwydweithiau bwyd sydd o fudd i’r gymuned drwyddo i edrych ar sut gall economi newydd ddibynnu ar swyddi gwyrdd, dyma’r cyfleoedd y dylai Llywodraeth Cymru eu blaenoriaethu nesaf.
Mwy gan Jess Blair ar y digwyddiadau yn ein cyfres, Paratoi ar gyfer Dyfodol Gwahanol
Mae Jess Blair wedi crynhoi’r trafodaethau gyda’r sector gwirfoddol sydd wedi codi yn sgil ein cyfres, Paratoi ar gyfer Dyfodol Gwahanol.
Sut mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio’n ariannol ar y sector gwirfoddol
Sut gallwn ni adeiladu ar ymateb cymunedau i goronafeirws
Darparu gwasanaethau ar ôl COVID-19
COVID-19 a dylanwadu ar benderfynwyr
Nesaf yn ein cyfres Paratoi ar gyfer Dyfodol Gwahanol
Mae COVID-19 wedi effeithio ar fywydau pawb. Mae’r cyfyngiadau symud wedi gorfodi pob un ohonom i wneud pethau’n wahanol, ac i wneud gwahanol bethau. Mae wedi cyflwyno posibiliadau newydd – da a drwg.
Wrth i lunwyr polisi ddechrau edrych ymlaen, mae’r digwyddiadau hyn yn cynnig gofod i rannu dysgu, ystyried goblygiadau ar gyfer y dyfodol a thrafod beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer penderfyniadau a wneir heddiw.
Paratoi ar gyfer dyfodol gwahanol: Economi Lesiant
Dydd Iau 18 Mehefin 12-1pm
Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar beth y gallai hyn ei olygu ar gyfer creu Economi Lesiant.
Gallwch gofrestru i gael ein diweddariadau dyddiol ar COVID-19 (Llun – Gwe). Bydd y rhain yn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r sector gwirfoddol yng Nghymru ar COVID-19, ac yn eich galluogi i gael y ddolen cadw lle wedi’i hanfon yn syth i’ch mewnflwch, yn ogystal â chyflwyno gwybodaeth ddefnyddiol arall ar COVID-19. Gallwch hefyd anfon e-bost at amonteith@wcva.cymru i fynegi eich diddordeb yn y digwyddiadau hyn.
Darllenwch yr adroddiad cyntaf o’r gyfres Paratoi ar gyfer Dyfodol Gwahanol ar effaith ariannol COVID-19