Daw Judith Stone, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu Sector CGGC, yn ôl o’i secondiad i siarad am yr hyn y gall elusennau ei wneud i barhau â’u gwaith hanfodol.
Gyda mesurau’r llywodraeth i drechu’r Coronafeirws Newydd (COVID-19), gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol, mae elusennau ym mhob rhan o’r byd yn ceisio meddwl sut gallwn ni ddal ati i wneud daioni cymdeithasol pan mae ein modelau cyflenwi arferol wedi’u hamharu dros dro?
Ers mis Ionawr, rwyf wedi cael fy secondio o CGGC fel Rheolwr Gyfarwyddwr Aren Cymru. Pan ymgymerais â’r swydd, gallai’r un ohonom fod wedi rhagweld yr amgylchiadau heriol rydyn ni nawr yn eu hwynebu.
Mae’r trydydd sector yng Nghymru’n gwasanaethu amrediad syfrdanol o gymunedau o leoedd a diddordebau. Mae llawer o’n gwaith yn canolbwyntio ar yr unigolyn, a chaiff hwn ei ddarparu’n aml wyneb yn wyneb. O dan y mesurau newydd a osodwyd gan y llywodraeth yn ystod y cyfnod o argyfwng hwn i gadw pellter cymdeithasol, rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o gyflwyno ein gwaith hanfodol ac ymatebol a chefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus sy’n cael anhawster ymdopi.
Beth ydyn ni’n ei wneud yn Aren Cymru?
Mae llawer o’n gwaith yn Arwen Cymru’n cael ei wneud wyneb yn wyneb â chleifion, teuluoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol, yn aml ar safleoedd ysbytai.
Mae tua 20,000 o gleifion arennol yng Nghymru sy’n aml â lliaws o gyflyrau iechyd; efallai bod ganddyn nhw system imiwnedd wan o ganlyniad i drawsblannu, yn wynebu cyfyngiadau i’w gweithgareddau bob dydd oherwydd cyflwr eu hiechyd a thriniaeth dialysis, ac mae llawer eisoes yn dioddef o iechyd meddwl gwael.
Bydd y rheini sydd yn y categori ‘risg uchel’ o ddal y Coronafeirws yn teimlo’n fregus tu hwnt, a rhaid i elusennau barhau i gynnig gwasanaeth ystyrlon i’r bobl hyn yn ystod y cyfnod digyffelyb hwn.
Dyma rai pethau rydyn ni wedi’u rhoi ar waith yn Aren Cymru:
- Olrhain a rhannu canllawiau ar Goronafeirws (COVID-19) ar gyfer pobl â chlefyd yr arennau, a gynhyrchwyd gan Kidney Care UK. Mae elusennau eraill yn y DU yn diweddaru canllawiau hanfodol yn rheolaidd ar gyfer cyflyrau iechyd penodol, e.e: Asthma UK, Diabetes UK, British Heart Foundation. Mae Mind wedi cyhoeddi deunydd darllen hanfodol: Coronofeirws a lles meddyliol
- Ymdrin ag ymholiadau dros y ffôn gan gleifion, teulu a ffrindiau pryderus mewn modd sensitif, sicrhau atebion arbenigol i’w cwestiynau a chyfeirio at ragor o wybodaeth a chyngor
- Cadw mewn cysylltiad rheolaidd â chleifion dros y ffôn a’r cyfryngau cymdeithasol. Rydyn ni wedi cynnal te parti rhithwir a sgwrs amser cinio byw ar Facebook, ac yn chwilio am fwy o ffyrdd o gadw’r gymuned arennol mewn cysylltiad ar gyfryngau cymdeithasol
- Mynd ati’n rhagweithiol i ymhél â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a Gweithwyr Cymdeithasol Arennol arbenigol i gynnig cefnogaeth a gwydnwch ychwanegol i’w timau
Mae ein tîm ni’n gweithio o gartref am gyfnod amhenodol ac yn brysur yn ymateb i ymholiadau a meddwl am ffyrdd y gallwn gefnogi cleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol wrth i’r sefyllfa ddatblygu.
Rydyn ni hefyd yn cydnabod y bydd tarfiadau difrifol ar y gweithgareddau codi arian rydyn ni wedi’u trefnu, sy’n cyflwyno bygythiad sylweddol i’n cynaliadwyedd ariannol. Ond am y tro, rydyn ni’n canolbwyntio ar y dasg bwysicaf o’n blaenau, sef gwireddu ein gweledigaeth i uno cymuned arennol Cymru er mwyn galluogi gwasanaethau gofal, cymorth a llesiant arloesol penigamp (er y bydd hyn o bellter).
Checking in with @KidneyWales chums for our virtual tea party ☕️ Enjoying every sip of my favourite coffee (as a kidney patient, I stick to one a day- best make it a good one!) from @CoaltownCoffee to set me up for baking plum gingerbread with my daughter 😋 pic.twitter.com/wR9dkGffNu
— Judith Stone (@JStone_WCVA) March 14, 2020
Beth mae elusennau eraill yn ei wneud?
Mae’r sector ledled Cymru’n gweithio’n ddiflin i ymateb yn gyflym i’r argyfwng hwn a chwilio am ffyrdd y gallwn addasu modelau cyflenwi i ateb y galw mewn cyd-destun dynamig sy’n datblygu’n gyflym.
Rhaid i ni gefnogi’n gilydd er mwyn dod drwy’r storm hwn. Mae angen i ni gael ffyrdd o rannu cwestiynau a phryderon yn gyflym a gwerthuso syniadau a chynigion arloesol newydd. Mae gan rwydweithiau cenedlaethol CGGC, yr 19 cyngor gwirfoddol sirol (CVCs) a Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (TSPC) rôl hanfodol o ran hysbysu’r sector a galluogi arferion i gael eu rhannu’n gyflym.
Diben y blog hwn yw cael pobl i siarad â dysgu o’i gilydd. Rwyf wedi estyn allan i rai cydweithwyr yn y sector i gynnal pôl gwelltyn cyflym ar sut mae modelau cyflenwi’n cael eu haddasu i ymateb i’r achosion o Goronafeirws, a byddaf yn rhannu’r adborth yn ystod yr wythnosau i ddod. Yn y cyfamser, dywedwch wrth @WCVACymru yr hyn rydych chi’n ei wneud yn wahanol.
Judith Stone yw Rheolwr Gyfarwyddwr Aren Cymru, wedi’u secondio o’i rôl yn CGGC fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu Strategaeth a Sector
Darganfod mwy o wybodaeth am coronafeirws a’r sector gwirfoddol yng Nghymru – diweddariadau dyddiol.
Delwedd nodwedd trwy garedigrwydd: https://www.ecolife.zone/voluntourism