Yma, mae Natalie Zhivkova, Rheolwr Polisi a Mewnwelediadau CGGC, yn rhoi rhai awgrymiadau i aelodau CGGC ar sut i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU.
Mae’r etholiad cyffredinol ar ben. Mae llywodraeth newydd yn San Steffan, set o Aelodau Seneddol (ASau) newydd a chyfarwydd o Gymru, a digonedd o gyfleoedd i ymgysylltu â nhw. Ond a yw’n werth gwneud hynny a sut gall mudiadau gwirfoddol yng Nghymru wneud y mwyaf o’u potensial i ddylanwadu ar lefel y DU?
MYND AR ÔL ‘SGWARNOG
Mae eich mudiad a’i fuddiolwyr yn cael eu heffeithio gan gyfreithiau, rheoliadau a pholisïau a weithredir ar dair lefel – Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Llywodraeth y DU sydd â’r pwerau dros faterion a gadwyd yn ôl. Mae angen i Lywodraeth Cymru gadw at ddeddfwriaeth a gadwyd yn ôl, ond mae ganddi hefyd y pwer i ddeddfu ar faterion a gadwyd yn ôl. Mae’r strwythurau llywodraeth leol yng Nghymru yn cydymffurfio â deddfwriaeth Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a hefyd yn datblygu eu polisïau a’u rheoliadau eu hunain.
Cyn i chi ddechrau cynllunio strategaeth ddylanwadol neu gytuno i ymuno ag ymgyrch mudiad arall, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio eich ymdrechion at y lefel gywir. Efallai y bydd angen i chi ymgyrchu ar nifer o lefelau i ddatrys rhai problemau. Gwnewch ofynion cadarn ar bob lefel o’r llywodraeth ar gyfer y meysydd o fewn eu cyfrifoldeb, neu fe fydd hi’n haws iddynt ‘basio’r bêl’.
PRIF GYFLEOEDD DYLANWADU
Gallwch geisio dylanwadu ar Lywodraeth y DU mewn nifer o ffyrdd. Ond, mae San Steffan yn llawer mwy swnllyd na’r Senedd. Mae nifer dri o randdeiliaid â llawer o adnoddau sy’n gweithio’n galed i gael sylw gweinidogion. Mae cynghreiriau a phartneriaethau ymgyrchu yn gyfle gwych i godi’ch llais. Fodd bynnag, cofiwch nad yw datganoli yn cael ei ddeall yn eang – gwiriwch bob amser fod gofynion yr ymgyrch yn ymwneud â’r cyfrifoldebau a gadwyd yn ôl.
Peidiwch â cholli cyfleoedd i ddylanwadu ar newid positif yn unol â diben eich mudiad. Darllenwch Gyfarwyddyd ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol i elusennau Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr i wneud yn siŵr eich bod yn ymgyrchu’n gyfreithlon.
Dyma’r prif ffyrdd o ddylanwadu ar Lywodraeth y DU:
- Ymateb i ymgynghoriadau Llywodraeth y DU a Phwyllgorau Dethol (cofrestrwch i dderbyn rhybuddion am ymgynghoriadau*) – gall hyn arwain at wahoddiad i chi roi tystiolaeth ar lafar i Bwyllgor Dethol*
- Cymryd rhan mewn Grŵp Hollbleidiol Seneddol (APPG)* – mae hwn yn gyfle da i ddatblygu cydberthnasau â chynghorwyr y meinciau cefn ac adeiladu momentwm y tu ôl i achos
- Ysgrifennu at ASau ac ymhél â nhw ar gyfryngau cymdeithasol – gallant godi proffil eich ymgyrch drwy ofyn cwestiwn mewn cyfarfod llawn*, gwthio am ddiwygiadau mewn Bil llywodraethol*, neu gyflwyno Bil Aelodau Preifat*
- Cyflwyno sylwadau Cyllidebol* cyn digwyddiadau cyllidol (e.e. Datganiad yr Hydref)
- Ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru neu Weinidog Cabinet* arall (mae gweinidogion cabinet yn derbyn llawer o lythyrau bob dydd, mae ysgrifennu at Swyddfa Cymru yn ffordd effeithiol o ddwyn sylw pobl at broblem yng Nghymru. I bob swyddfa arall, byddai cysylltu â nhw fel rhan o gynghrair yn strategaeth fwy effeithiol)
Cyn i chi gymryd unrhyw gamau, mae bob amser yn werth gweld a allwch ymuno â rhanddeiliaid eraill. Rhannwch eich pryderon a’ch syniadau gyda chymheiriaid, cyrff ymbarél, mudiadau rhanbarthol a chenedlaethol yng Nghymru, a ledled y DU.
Ystyriwch gydweithio traws-sector a chroestoriadol. Mae’n bur debyg bod y problemau rydych chi am dynnu sylw atynt yn effeithio ar lawer o bobl eraill. Efallai y gallwch fwydo i mewn i ffrwd o waith dylanwadu sydd eisoes ar waith, neu arwain ymgyrch newydd trwy gyfuno adnoddau. Rydym yn gwneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd.
Y CABINET A SENEDD NEWYDD
Mae’r dadansoddiadau cychwynnol o senedd newydd y DU yn addawol. Mae Pro Bono Economics wedi datblygu adnodd am ddim* sy’n mapio’r holl aelodau seneddol â chefndir elusennol. Mae gan 50% o’r 32 o aelodau seneddol o Gymru brofiad o’r sector gwirfoddol. Mae mwy nag un rhan o dair o’r holl aelodau etholedig yn dod o’r sector, gan gynnwys wyth gweinidog Cabinet*. Gan ystyried hynny, rydym yn gobeithio y bydd y sector gwirfoddol yn cael mwy o ystyriaeth ac yn cael mwy o fynediad at swyddogion llywodraethol.
Dyma rai dolenni a chysylltiadau defnyddiol:
Rhestr o’r holl aelodau seneddol o Gymru* (gan gynnwys eu cyfeiriadau e-bost, eu rhifau ffôn a’u henwau ar gyfryngau cymdeithasol)
- Y Gwir Anrhydeddus Jo Stevens AS (Ysgrifennydd Gwladol Cymru)
Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon*
- Y Gwir Anrhydeddus Lisa Nandy AS* (Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon) a’i Chynghorydd Arbennig Richard Howarth (e-bost: Howarth@parliament.uk)
- Stephanie Peacock AS* (Y Gweinidog dros Chwaraeon, y Cyfryngau, Cymdeithas Sifil ac Ieuenctid) – y gweinidoges hon sydd â’r cyfrifoldeb uniongyrchol dros y sector gwirfoddol yn Lloegr a pholisïau heb eu datganoli’r sector gwirfoddol
- Sir Chris Bryant AS* (Y Gweinidog dros Ddiwydiannau Creadigol, y Celfyddydau a Thwristiaeth) – byddai llawer ohonoch yn ei adnabod fel yr AS dros y Rhondda ac Ogwr
Awgrymiadau ar gyflwyno eich mudiadau i ASau newydd* gan y Directory of Social Change.
CRYNHOAD POLISI A MATERION CYHOEDDUS CGGC
Rydym yn curadu cylchlythyr misol i aelodau’n unig sydd â’r newyddion diweddaraf a chyfleoedd i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Ymunwch â’n rhestr bostio i aelodau.
*Saesneg yn unig