Pobl ifanc yn gwirfoddoli i sortio rhoddion bwyd

Siwrnai ‘Discovery’ Ben: safbwynt gwirfoddolwr

Cyhoeddwyd: 21/12/20 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Korina Tsioni

Mae Korina Tsioni yn rhoi adolygiad cyflym o 2020 gan y tîm Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr ac yn rhannu’r stori am siwrnai wirfoddoli Ben y myfyriwr.

Ni fyddwn ni byth yn anghofio 2020, mae hynny’n sicr. Blwyddyn ddwys, pan ofynnwyd i ni aros mewn ac aros yn llonydd. Pan mai’r peth iawn i’r rhan fwyaf ohonon ni ei wneud oedd dim byd, ar yr un pryd, roedden ni eisiau cyfrannu, i wneud cymaint â phosibl i helpu eraill.

ARWYR LLEOL

Yn ystod yr argyfwng, gwnaeth miloedd o bobl ymateb i geisiadau eu cymunedau am help. Ym mis Mawrth yn unig, gwnaeth 10,358 o wirfoddolwyr gofrestru ar wefan Gwirfoddoli Cymru i wirfoddoli’n lleol: gyrwyr, cludwyr presgripsiynau, gweithwyr gofal, pobl a oedd yn siopa, cyfeillachwyr dros y ffôn, a phob un ohonynt yn arwyr lleol a helpodd eu cymdogion a’r rhai mwyaf agored i niwed yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Mae’n rhaid i mi fynegi pa mor ddiolchgar mae tîm Gwirfoddoli CGGC am bopeth y mae gwirfoddolwyr wedi’i wneud, ac yn parhau i’w wneud, i’n cymunedau ni. Hoffwn amlygu hefyd y cymorth amhrisiadwy gan gymheiriaid mewn awdurdodau lleol a Chynghorau Gwirfoddol Sirol yng Nghymru. Diolch i’r holl gymheiriaid sy’n gweithio mor galed ac yn gwneud gwaith mor wych. Rwy’n dysgu cymaint oddi wrthych chi ac mae’n bleser gweithio gyda chi.

Drwy weithio ar y safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (Saesneg yn unig) y flwyddyn hon, cefais gyfle i nid yn unig weithio’n fwy agos gyda’r Cynghorau Gwirfoddol Sirol yng Nghymru, ond hefyd gyda llawer o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru sydd wedi cyflawni’r safon hon.

Os ydych chi’n fudiad gwirfoddol yn y DU, mae’r safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn cynnig fframwaith delfrydol i chi asesu ansawdd eich gwaith o ran rheoli a chynnwys gwirfoddolwyr, profi a gwella effeithiolrwydd eich gwaith gyda gwirfoddolwyr, a gwella enw da eich mudiad. Mae cyflawni’r safon yn dangos i’ch gwirfoddolwyr – a darpar wirfoddolwyr – gymaint rydych chi’n eu gwerthfawrogi ac yn rhoi hyder iddynt yn eich gallu i ddarparu profiad gwirfoddoli heb ei ail.

Un o’r mudiadau hyn yw Discovery. Wedi’i leoli yn Abertawe, mae’r mudiad hwn a arweinir gan wirfoddolwyr yn ceisio cyfoethogi bywydau pobl drwy wirfoddoli! Dyma stori Ben, gwirfoddolwr gyda ‘Discovery’, a rannwyd gyda ni’n gynharach y flwyddyn hon cyn y pandemig.

SIWRNAI ‘DISCOVERY’ BEN

Dychwelodd Ben i Brifysgol Abertawe yn nhymor yr hydref i ganfod ei fod ar ei ben ei hun yn y tŷ yr oedd yn ei rannu. Roedd ganddo bythefnos nes y byddai ei gyd-fyfyrwyr yn dychwelyd – pythefnos heb gynlluniau, strwythur, dosbarthiadau nac unrhyw gysylltiad â bodau dynol eraill.

I rai, byddai hyn yn nefoedd ar y ddaear! Ond nid oedd yn ddelfrydol i Ben. Mae ganddo amrediad o gyflyrau iechyd cymhleth, yn ogystal ag awtistiaeth. Mae’r rhain wedi’i rwystro rhag ymuno â chymdeithasau a gwneud ffrindiau, a dim ond ychydig o gyswllt y mae’n ei gael â’i deulu oherwydd pryderon diogelu. Felly, mae eisoes yn teimlo’n aruthrol o ynysig.

O dan yr amgylchiadau hyn, byddai wedi bod yn ddigon hawdd iddo redeg i ffwrdd / tynnu allan o’r coleg, ond lle hynny, cysylltodd Ben ag adran Lesiant y brifysgol a chafodd ei roi mewn cysylltiad â ‘Discovery’.

Elusen a arweinir gan fyfyrwyr yw ‘Discovery’ sy’n cyfoethogi bywydau pobl dan anfantais, yn herio gwahaniaethu ac yn cynorthwyo pobl anabl. Mae ganddyn nhw dros 600 o wirfoddolwyr yn gweithio ar draws mwy na 30 o brosiectau, o gwmpas Abertawe ac yn Zambia.

Gwnaethant gymryd Ben fel gwirfoddolwr rheolaidd, tymor byr, gan roi hyfforddiant cynefino iddo a’i gofrestru ar gwrs diogelu. Cafodd amrediad o dasgau prosesu data eu haseinio iddo, a chytunwyd ar oriau dyddiol.

Rhoddodd y rôl wirfoddoli hon strwythur mawr ei angen i Ben, ynghyd â bywyd cymdeithasol yn ystod y cyfnod pwysig hwn. Roedd y gweithwyr prosiect a oedd yn ymwybodol o anghenion cymhleth Ben yn gwybod, pe bai wedi aros ar ei ben ei hun am yr holl gyfnod hwn, byddai wedi effeithio’n sylweddol ar ei iechyd meddwl ac ar ei allu i ddechrau tymor newydd yr hydref.

Fel y digwyddodd hi, gwnaeth gwirfoddoli gyda ‘Discovery’ magu hyder Ben yn fawr. Mae’n wirfoddolwr gyda phrosiect ‘Community Meal’, a chyda ‘Buddied Reading’, sy’n cefnogi plant i ddarllen mewn ysgol gynradd leol. Mae’n cynorthwyo aelodau eraill o’r gymuned i gymdeithasu, gan gynnwys oedolion anabl.

A gellir olrhain hyn i gyd yn ôl i’r ffaith bod ‘Discovery’ wedi derbyn Grant Gwirfoddoli Cymru, ac wedi defnyddio’r cyllid i gyflogi gweithiwr recriwtio gwirfoddol. Heb y gweithiwr hwn, ni fyddai’r cymorth cyson sydd ei angen i recriwtio gwirfoddolwyr yno.

Nawr, mae gan Ben waith a phrosiectau gwych ar ei CV, ac mae’n parhau i fod yn y brifysgol hefyd! Mae’n rhoi’r clod i ‘Discovery’ am ei gadw ar ei gwrs, ac mae ‘Discovery’ yn rhoi’r clod i Grant Gwirfoddoli Cymru am eu helpu nhw i helpu gwirfoddolwyr. Mae i’r gwrthwyneb i’r cylch cythreulig! Mae’n gylch o gymorth, cydlyniant cymdeithasol, cymuned a darganfod.

ADDASU I REALITI NEWYDD

Yn ystod 2020, bu timau Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn gweithio gyda chymheiriaid allanol ar ddiweddaru ac ailwampio’r safon. Bydd y safon ddiwygiedig ar ei newydd wedd yn cael ei lansio yn ystod 2021.

Gallwch ddod o hyd i’r offeryn newydd am ddim hwn ar-lein ar hyn o bryd: Hanfodion Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr ar-lein (Saesneg yn unig). Gall roi rhagflas i chi o’r safon, gellir ei ddefnyddio i ddechrau trafodaeth yn eich mudiad a gall fod y cam cyntaf tuag at ennill eich achrediad.

Bydd tâl yn gysylltiedig â chwblhau’r holl gamau a chyflawni’r safon, oherwydd byddwch chi’n gweithio gydag Aseswr hynod brofiadol a hyfforddedig yn ystod eich taith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr.  Mae gan 26 o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru’r safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr ar hyn o bryd, ac mae 12 o fudiadau wrthi’n ei chyflawni am y tro cyntaf neu’n ei hadnewyddu.

Mae’r timau Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn parhau i ddarparu gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid hen a newydd yn ystod COVID-19. Mae’r ddarpariaeth wedi’i haddasu er mwyn gwneud gweithdai ac asesiadau ar-lein. Mae hyn wedi galluogi teithiau safon ansawdd llawn i gael eu cyflawni a’u cwblhau ar-lein.

Rydyn ni hefyd wedi bod yn cyflwyno digwyddiadau a gweithdai Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr ar-lein am ddim, gan estyn allan i’r sector, hyrwyddo’r safon a chysylltu pobl sydd â diddordeb mewn rheoli gwirfoddolwyr. Cynhaliwyd ein digwyddiad diwethaf ym mis Tachwedd 2020, fel rhan o ddigwyddiadau #DyddMawrthSicrhauAnsawdd.

Ar y diwrnod, cawsom aseswyr a chyflawnwyr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn trafod pwysigrwydd sicrhau ansawdd cyn, yn ystod ac ar ôl yr argyfwng. Mae cymheiriaid o Gynghorau Gwirfoddol Sirol, aseswyr a chyflawnwyr wedi rhannu eu profiadau o’r safon ac wedi egluro buddion y broses, gan amlygu’r cryfderau y gwnaethant eu hennill yn ystod y broses a’u rhoddodd nhw mewn sefyllfa gryfach i wynebu’r argyfwng.

Bydd mwy o ddigwyddiadau a gweithdai yn dechrau’n gynnar y flwyddyn nesaf – gwnewch yn siŵr eich bod chi’n tanysgrifio i’n cylchlythyr i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau i ddod.

Mae croeso i chi gysylltu â ni ar e-bost os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu syniadau ynghylch y pethau uchod neu dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol. Byddai’n braf clywed gennych chi:

Ktsioni@wcva.cymru

Facebook – @WCVACymru

Twitter – @WCVACymru @korinations