Mae’r sector gwirfoddol wrth wraidd y system presgripsiynu cymdeithasol bresennol. Mae’n cefnogi pobl a chymunedau gydag amrediad eang o weithgareddau; rhai i gynorthwyo pobl â chyflyrau penodol, eraill yn canolbwyntio ar atal.
Ym mis Gorffennaf, lansiodd Llywodraeth Cymru ei Fframwaith Cenedlaethol drafft ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol, sydd wedi’i ddylunio i sefydlu set gyffredin o safonau a ‘sicrhau dull gweithredu cyson.’ Gan ystyried pa mor bwysig y gallai hwn fod i’r ffordd y caiff presgripsiynu cymdeithasol ei gyflwyno, gwnaeth CGGC ddwyn y sector gwirfoddol ynghyd ar draws dau ddigwyddiad, gan siarad ag ymarferwyr, swyddogion polisi a phrif weithredwyr. Gan weithio gyda Hugh Irwin Consultancy, gwnaethom lunio adroddiad fel bod Llywodraeth Cymru yn gwybod yn gwmws beth yw barn y sector cyfan ar hwn.
Mae’r adroddiad a’r prif themâu ar gael yma ac rydym wedi tynnu nifer o themâu allweddol ohono.
MODEL YN Y GYMUNED GYDAG ATAL WRTH EI WRAIDD
Mae atgyfeiriadau cymunedol yn gorfod dibynnu ar yr asedau sydd ar gael mewn cymuned, felly mae angen i unrhyw raglen gael ei harwain gan y gymuned. Codwyd cwestiynau pwysig ynghylch sut byddai fframwaith cenedlaethol yn effeithio ar waith lleol. Y consensws oedd bod angen i’r model fod yn fodel yn y gymuned, a oedd yn ystyried gwasanaethau, asedau ac anghenion y lliaws o gymunedau sydd yng Nghymru.
Yn aml, teimlai ein cyfranwyr fod presgripsiynwyr cymdeithasol dim ond yn cael eu hystyried o ran adferiad, serch tystiolaeth helaeth ei fod yn gallu bod yn wasanaeth ataliol, sy’n lleihau’r tebygolrwydd o fod angen gwasanaethau aciwt yn y dyfodol. Yn ôl llawer o’r bobl y gwnaethom siarad â nhw, dyma le y mae gan bresgripsiynu cymdeithasol y potensial mwyaf i wella llesiant. Mae hyn yn cynnwys ystyried sut y bydd llwybrau atgyfeirio ar agor i bobl cyn apwyntiad meddygol ffurfiol.
Mae’r ddau bwynt hwn yn adlewyrchu ymdeimlad na ddylai’r model fod yn rhy feddygol.
RHAGLENNI HIRDYMOR
Canfuwyd fod llawer yn teimlo’n rhwystredig bod y ffordd bresennol o fynd ati i gyllido gweithgareddau presgripsiynu cymdeithasol wedi bod ar antur, gyda gweithgareddau tymor byr yn methu ag arwain yn aml at raglenni mwy hirdymor, er bod gwerth presgripsiynu cymdeithasol wedi’i brofi. Mae hyn wedi arwain at gymorth ysbeidiol i ddefnyddwyr gwasanaethau, ac ansefydlogrwydd ariannol i fudiadau. Er bod yr ymgynghoriad hwn ar Fframwaith Cenedlaethol, cafwyd cefnogaeth sylweddol dros gyllido presgripsiynu cymdeithasol fel gweithgaredd craidd, nid fel ychwanegiad. Tan fydd hwn yn cael ei weld fel gwasanaeth craidd, hirdymor, byddwn yn parhau i weld gweithgareddau amharedig a heriau o ran recriwtio a chadw presgripsiynwyr cymdeithasol.
CYDRADDOLDEB
Mae presgripsiynu cymdeithasol yn wasanaeth cymunedol a dylai fod ar gael i bawb. Dywedodd grwpiau plant wrthym, er enghraifft, eu bod yn gweld hwn fel cyfle coll i ehangu’r fframwaith hwn i bobl iau.
Mae ymdeimlad cryf o fewn y sector y dylai’r gwasanaethau hyn fod ar gael i bawb yn y gymuned, a bod rhai grwpiau yn colli’r cyfle yn aml. Yn fwyaf nodedig, mae hyn yn cynnwys pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn ogystal â phobl ag anawsterau corfforol a dysgu.
Argymhellwn yn gryf fod gwasanaethau presgripsiynu cymdeithasol yn monitro data demograffeg y bobl y maen nhw’n gweithio gyda nhw er mwyn asesu cydraddoldeb o ran pwy sy’n manteisio arnynt a’u heffaith.
PRESGRIPSIYNU CYMDEITHASOL GWYRDD
Mae presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd – lle y caiff pobl bresgripsiwn i dreulio amser neu wneud gweithgaredd yn yr awyr agored – yn elfen hanfodol o bresgripsiynu cymdeithasol y gellir cael ei hanghofio. Ni chaiff ei grybwyll yn uniongyrchol o fewn y fframwaith, yn wahanol i fenter drawsadrannol yn Lloegr sy’n ceisio datblygu hyn yn benodol. Nodwn fod y Gwasanaeth Natur Cenedlaethol arfaethedig yn llwybr posibl i hyn yng Nghymru.
TRAFNIDIAETH A HYGYRCHEDD
Trafnidiaeth oedd un o’r prif themâu gan ein hymatebwyr. Dywedodd un presgripsiynydd cymdeithasol wrthym, ‘gallwch chi wneud 20 o atgyfeiriadau, ond os na allant fynd o’r tŷ i’r gweithgaredd, nid ydych chi wedi gwneud yr un atgyfeiriad.’ Roedd hyn yn thema amlwg iawn ymhlith presgripsiynwyr mewn ardaloedd gwledig, ond i bobl â phroblemau symudedd neu orbryder, nid hyd y daith oedd y rhwystr – roedd unrhyw daith yn broblem. Pwysleisiwn fod angen rhoi sylw i hyn mewn unrhyw fframwaith.
Os hoffech ddweud eich dweud ar bresgripsiynu cymdeithasol, neu gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith ar iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant, cysylltwch â’n prosiect seilwaith iechyd. Ein cyfeiriad e-bost yw policy@wcva.cymru.