Cerys Furlong yn cael ei ffilmio yn wneud sesiwn i Safbwynt yng ngofod3 2019

Sesiynau Safbwynt yn gofod3

Cyhoeddwyd: 09/03/20 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Awdur: CGGC

Mae’r sesiynau Safbwynt yn dychwelyd i theatr gofod3 yn 2020 – sesiynau siarad bychain sy’n rhoi safbwyntiau gwahanol ar y pynciau sydd o bwys i sector gwirfoddol Cymru. Dyma ganllaw i’r hyn y gallwch chi ei ddisgwyl.

Fel y mae llawer ohonoch chi’n gwybod, mae gofod3 yn ôl yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 19 Mawrth 2020. Mae’r digwyddiad mwyaf ar gyfer sector gwirfoddol Cymru hyd yn oed yn fwy eleni, gyda mwy o gyfleoedd i gysylltu a gwneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd nag erioed o’r blaen. Peidiwch â cholli’ch cyfle i gael eich tocyn am ddim i ddigwyddiad mwyaf cyffrous sector gwirfoddol Cymru ar gyfer 2020.

Bydd y rheini ohonoch a ddaeth y llynedd yn gyfarwydd â’r sesiynau Safbwynt, sef amrywiad y sector gwirfoddol ar y fformat TEDx talk, lle mae siaradwyr yn cyflwyno darlithoedd bocs sebon ar bynciau sydd o bwys i’r sector gwirfoddol yng Nghymru.

Rydyn ni wedi ymrwymo nifer o siaradwyr parchus o bob rhan o’r sector (a thu hwnt) i ymddangos ar lwyfan gofod3.

Gan ymwneud â themâu sy’n amrywio o gyllid torfol i dlodi ac argyfyngau cenedlaethol, mae theatr gofod3 yn argoeli i fod yn fwrlwm o drafodaethau ysgogol drwy gydol 19 Mawrth.

Dyma gyflwyniad byr i bob siaradwr – nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, felly archebwch eich tocyn i gofod3 cyn y bydd hi’n rhy hwyr!

 

Leon Ward, Young Trustees Movement, Brook Young People, a First Give

@LeonjWard

‘Ymddiriedolwyr Ifanc: beth, sut a pham’

Bydd trafodaethau’r diwrnod yn cael eu hagor gan yr eiriolwr ymddiriedolwyr ifanc, Leon Ward.

Leon yw Dirprwy Gadeirydd Brook Young People; elusen iechyd rhywiol fwyaf y DU i bobl ifanc. Mae wedi bod yn ymddiriedolwr am 10 mlynedd ers cael ei benodi’n gyntaf ar fwrdd Plan UK, ac yntau ond yn 18 oed, ac yn ddiweddarach, cyhoeddodd y Young Trustee Guide mewn partneriaeth â’r Sefydliad Cymorth i Elusennau. Mae Leon hefyd yn rhedeg gweithrediadau Cymru ar gyfer yr elusen gweithredu cymdeithasol gan bobl ifanc, First Give, sy’n gweithio mewn partneriaeth â mwy na 35 o ysgolion yn Ne Cymru.

Mae Leon yn credu bod gan fyrddau elusennol broblem amrywiaeth. Yn ei sesiwn, bydd yn dadlau nad natur recriwtio bwrdd yn unig sydd ar fai am hyn, ond hefyd y ffaith bod ein holl amgyffred o fyrddau’n anghywir.

Bydd y sesiwn hon yn helpu i newid ein syniadau cyfredol am fyrddau ar eu pen ac yn eich herio i feddwl yn wahanol am bwy sydd eu hangen arnoch ar eich bwrdd, pam eich bod eu hangen a sut i fynd ati i newid eich arferion er mwyn gwneud eich ystafell fwrdd yn fwy agored.

 

Karen Cherrett, Partneriaeth Cadenza

@KarenCherrett

‘Ymddiriedaeth, Tryloywder a Thechnoleg – y pecyn offer ar gyfer arweinydd trydydd sector yn y byd sydd ohoni’

Ar ôl gyrfa traws-sector, mae Karen Cherrett yn ôl yng Nghymru, wedi sefydlu ei busnes ei hun a dod yn gyd-sylfaenydd o’r Bartneriaeth Cadenza. Mae Karen yn frwdfrydig ynghylch cyflenwi newid defnyddiwr-sentrig, gwella canlyniadau gwasanaethau cyhoeddus ac mae’n brofiadol o ran helpu mudiadau i gyflawni mwy drwy’r bobl y maen nhw’n gweithio gyda nhw. Mae’n ymddiriedolwr gyda Drive a Gofal a Thrwsio, dau fudiad sy’n galluogi annibyniaeth.

Yn ei sesiwn Safbwynt, bydd Karen yn siarad am sut gall elusennau cael eu dallu’n aml gan eu hachos ar draul gweld yr angen i reoli cydberthnasau, adnoddau ac enillion o fuddsoddiadau yn effeithiol er mwyn gwasanaethu eu hachos yn briodol.

 

Abi Carter, Cofio Srebrenica Cymru,  Forensic Resources Ltd

@AbiCarterCSI

‘O Waith Fforensig i Godi Arian: Taith gyrfa hynod a pheryglon a arweiniodd at weithrediadau gwirfoddol llwyddiannus’

Yr un nesaf i ymddangos fydd Abi Carter, cyd-gadeirydd Remembering Srebrenica. Gyda gyrfa fel Archeolegydd Fforensig, bu Abi yn gweithio ar dystiolaeth o’r beddau torfol cyntaf ac eilaidd sy’n gysylltiedig â’r hil-laddiad yn Srebrenica, Bosnia-Herzegovina, ac ers hynny, mae wedi codi dros £10,000 ar gyfer yr elusen ac wedi ennill y categori ‘Aelod Bwrdd’ yng ngwobrau Womenspire 2019.

Mae stori Abi yn un o waith caled a phenderfyniad, a berodd iddi feddwl am gerdded ymaith o’r trydydd sector lawer gwaith. Dewch i’w chlywed yn siarad am ei thaith, sydd wedi ei harwain at dderbyn gwobrau am ei gwaith gwirfoddol – mewn elusen anghyffredin iawn.

 

John Herriman, National Emergencies Trust

@NatEmergTrust

‘Helpu’r Genedl i ymateb mewn cyfnod o drychineb cenedlaethol mawr’

John Herriman yw Prif Swyddog Gweithredol y National Emergencies Trust, sy’n cydweithio ag elusennau a chyrff eraill i godi a dosbarthu arian a chynorthwyo dioddefwyr ar adeg o drychineb domestig. Mae ganddo yrfa sy’n cwmpasu’r lluoedd arfog, y sector cyhoeddus a’r sector preifat, a mwy na 30 mlynedd o brofiad o ddatblygu strategaethau a chyflawni gweithrediadau yn y DU a thramor.

Mae John wedi bod yn cefnogi’r sector gwirfoddol ers tro byd, gan gredu’n gryf yn ei allu i harneisio’r ewyllys da, y brwdfrydedd a’r trugaredd sy’n galluogi gwaith cydweithredol a yrrir gan ddiben mewn cyfnodau o angen.

 

Kellie Beirne

@kelliebeirne

‘Adeiladu llesiant economaidd yng Nghymru’

Symudodd Kellie Beirne o’i swydd fel Dirprwy Brif Weithredwr yng Nghyngor Sir Fynwy i fod yn Brif Weithredwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yng nghanol 2018. Mae’r Fargen Ddinesig yn rhaglen tyfu gwerth ychwanegol gros a chreu swyddi £1.28 biliwn, sy’n cynnwys deg awdurdod lleol yn Ne Cymru.

Bydd Kellie yn defnyddio ei sesiwn Safbwynt hi i siarad am feithrin gwydnwch ym maes datblygu economaidd rhanbarthol, a’r hyn rydyn ni’n ei olygu wrth sôn am economïau cynhwysol a’r cyfleoedd i wneud pethau ychydig yn wahanol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

Mandy Johnson, Sketchnotes UK

@MsMandyJ

‘Cynnal ymgyrch cyllido torfol llwyddiannus’

Mandy Johnson yw Sylfaenydd GreatCharitySpeakers.com a Sketchnotes UK. Cafodd ei henwi’n ddiweddar fel un o’r 20 gorau yn 100 uchaf Onalytica o bobl ddylanwadol ym myd elusennau. Mae wedi gweithio i amrywiaeth eang o fudiadau, gan gynnwys y Glymblaid Elusennau Bach, Cancer Research UK, Marie Curie, Change.org, NCT a Deloitte. Mae Mandy yn aelod o Bwyllgor Rhwydwaith Cyllido Herts ac yn Ymddiriedolwr ar gyfer Mudiad Cymunedol Swydd Bedford a Luton.

Yn y sesiwn hon, bydd Mandy yn rhoi sylw i’r camau y gall unrhyw un eu dilyn er mwyn cynnal ymgyrch cyllido torfol llwyddiannus. Bydd yn dangos enghreifftiau gan fudiadau sydd wedi defnyddio’r dull codi arian hwn yn llwyddiannus ac yn rhannu’r broses yn gamau syml fel y gall unrhyw un roi cynnig arni.

 

Ranjit Ghoshal, One Million Steps

@speaktoranjit

‘Paru budd cymdeithasol gydag egwyddorion busnes craidd’

Y nesaf i ymddangos fydd yr entrepreneur, Ranjit Ghoshal. Ar ôl gadael gyrfa yn y sector tai/gwirfoddol, anafodd Ranjit ei ben-glin wrth ymarfer ar gyfer her elusennol a sefydlodd One Million Steps, busnes technegol newydd er budd cymdeithasol yng Nghaerdydd, sy’n cynnig pecyn cynhwysfawr o her ffitrwydd a phlatfform codi arian.

Mae Ranjit yn Gymrawd o’r Ysgol Entrepreneuriaid Cymdeithasol, mae wedi ennill gwobr UnLtd ac wedi cyrraedd y rhestr fer yn ddiweddar am Wobr Entrepreneur er Budd Cymru yn y Great British Entrepreneur Awards 2019.

One Million Steps yw’r unig fusnes newydd yng Nghymru i ennill lle yn Google Launchpad London.

Mae Ranjit wedi bod yn Aelod Bwrdd/Ymddiriedolwr ar gyfer tair elusen: Sefydliad Tai Siartredig Cymru, Shelter Cymru, a Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru.

Bydd Ranjit yn edrych ar y cysyniadau busnes pwysig a helpodd One Million Steps i edrych yn fanwl ar anghenion gwahanol iawn tri grŵp penodol o randdeiliaid: busnesau, mudiadau nid-er-elw ac unigolion – gan eu cysylltu a chreu gwerth ar gyfer pob un ohonynt.

 

Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

@sophiehowe

Mae Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, yn darparu cyngor ar gyfer y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru ar gyflawni llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol, ac yn asesu ac yn adrodd ar ba mor dda maen nhw’n cyflawni.

Ymgymerodd Sophie â’r swydd yn 2016, ac mae wedi arwain ymyriadau proffil uchel sy’n ymwneud â chynllunio trafnidiaeth, diwygio addysg a’r newid yn yr hinsawdd, gan herio’r Llywodraeth ac eraill i ddangos sut maen nhw’n ystyried cenedlaethau’r dyfodol.

Bydd Sophie yn siarad am fuddiannau cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.

 

Jane Hutt AC, Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip

@janehutt

‘Sut gallwn ni wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd gyda Jane Hutt AC’

Bydd panel o grwpiau cymunedol yn ymuno â’r Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip, Jane Hutt, i siarad am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol bum mlynedd wedi iddi ddod i rym. Ar ôl y panel, bydd sesiwn holi ac ateb a fydd ar agor i gynrychiolwyr ar y llawr.

Bydd y sesiwn yn edrych ar sut mae mudiadau gwirfoddol yn gwneud gwahaniaeth a beth gallwn ni ei wneud i wneud mwy o effaith gyda’n gilydd ar gyfer y dyfodol.

 

Ali Abdi, Citizens Cymru Wales a Phrifysgol Caerdydd

@AliAbdi_

‘Trechu tlodi, diweithdra a thangynrychiolaeth yn y gweithlu’

Ein siaradwr olaf yw Ali Abdi o Brifysgol Caerdydd.

Ali sy’n arwain datblygiadau partneriaeth rhwng rhaglen cenhadaeth ddinesig flaenllaw Prifysgol Caerdydd, Porth Cymunedol, unigolion a mudiadau o fewn Grangetown, gan ganolbwyntio ar chwalu’r rhwystrau rhwng y Brifysgol a’r gymuned leol.

Gyda Citizens Cymru Wales, mae Ali wedi arwain a chyd-ddatblygu Compact Swyddi Cymunedol gyda phreswylwyr lleol, sy’n meithrin cydberthnasau rhwng cyflogwyr a busnesau lleol.

Nod y Compact Swyddi Cymunedol yw dod â phobl a chyflogwyr lleol ynghyd i drechu tlodi, diweithdra a thangynrychiolaeth yn y gweithlu.

Bydd y Compact yn annog cyflogwyr yr ardal i ymrwymo i arfer gorau o ran cyflog a chyfle cyfartal.

Cafodd Ali ei gydnabod am ei waith gyda chymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, a chafodd ei enwebu i dderbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd ar gyfer 2020.

Bydd Ali yn siarad am y camau ymarferol y gallwch chi eu cymryd er mwyn i’ch mudiad drechu tlodi, diweithdra a thangynrychiolaeth yn y gweithlu.

Yn swnio’n ddiddorol? Archebwch eich tocyn am ddim ar gofod3.cymru/cy/cofrestru