Mae Adrienne Earls, Rheolwr Sgiliau a Gwirfoddoli Cymru, yn canu clodydd eu gwirfoddolwyr.
Fel llawer o fudiadau eraill, mae’r Coronafeirws wedi cael effaith enfawr ar y math o weithgareddau y gall SVC (Sgiliau a Gwirfoddoli Cymru) ei gyflawni. Felly, aethom ati i ddatblygu mentrau digidol newydd a fyddai’n helpu i drechu teimladau o unigrwydd ac ynysu, ac yn dod ag ychydig o hwyl a llawenydd mawr eu hangen i’n buddiolwyr!
Gwnaethon ni rannu neges ar gyfryngau cymdeithasol yn gofyn i’r gymuned leol ein helpu ni i ddarparu opsiynau digidol gwahanol, Un o’r aelodau hyfryd o’r gymuned a ymatebodd i’n galwad am help oedd y gwirfoddolwr Wally Walsh. Mae Wally yn gydlynydd cerddoriaeth mewn ysgol gynradd, a chynigiodd gynnal sesiwn ganu wythnosol i ni.
Bob prynhawn ddydd Llun, mae grŵp o 20-30 o oedolion ag anableddau, a gweithwyr gofal iechyd, yn dod i’r sesiwn ddigidol hon i gyd-ganu nifer o ganeuon dan arweiniad Wally. Mae Wally yn ceisio cael pob un ohonon ni i wenu, ac hyd yn oed yn cymryd ceisiadau weithiau – er enghraifft, yr wythnos ddiwethaf fe ganodd You’ll Never Walk Alone – tasg go anodd i gefnogwr Manchester United!
Gwnaethon ni ofyn i Wally pam ei fod yn gwirfoddoli ei amser i’r achos hwn – ’Mae’r pandemig hwn wedi rhyddhau egni ymhlith cymunedau lleol i estyn allan, i wneud rhywbeth i helpu’r rhai llai ffodus. Mae’n debyg mod i wedi cael fy ysgubo gan y don honno.’
‘Mae fy rôl i mor werth chweil, oherwydd rwy’n cael gweld wynebau newydd, gwneud cysylltiadau newydd a chanu caneuon gyda ffrindiau newydd o un wythnos i’r llall – a hynny i hyd o’m hystafell fyw. Mae gan gerddoriaeth y gallu hudol hwnnw i uno pobl.’
Hoffem ni ddweud diolch yn fawr iawn i Wally am roi o’i amser a rhoi gwen ar ein hwynebau ni bob wythnos. Hoffem ni hefyd ddweud diolch yn FAWR i’r holl wirfoddolwyr anhygoel eraill sydd wedi ein helpu ni yn ystod y misoedd diwethaf drwy ymuno â’n gwasanaeth cyfeillio digidol, yn ogystal â’n tîm o yrrwyr dosbarthu a’n grŵp gwnïo.
Nod SVC yw darparu amrywiaeth o weithgareddau ar-lein ar gyfer cymaint â phosibl o fuddiolwyr. Os oes gennych chi ddawn y byddech chi’n fodlon ei rhannu, fel sesiwn untro neu’n rheolaidd, cysylltwch â ni ar info@svcymru.org neu cwblhewch ein cais ar-lein yma – https://forms.gle/yYxmUwf8kptVDJS38
Rydyn ni’n gweithio gyda phlant ac oedolion ag anableddau, gofalwyr ifanc, cleifion ar wardiau dementia, neu gleifion â chyflyrau iechyd meddwl, pobl ddigartref a phobl hŷn sy’n teimlo’n ynysig – www.svcymru.org