I aelodau CGGC, dyma ein Rheolwr Polisi a Mewnwelediadau, Natalie Zhivkova, yn crynhoi themâu a nodau ein gwaith dylanwadu cyn etholiadau’r Senedd.
DIWYGIO’R SENEDD
Daw’r mwyafrif o dymhorau maniffesto â heriau a chyfleoedd tebyg i randdeiliaid gyflwyno eu syniadau polisi. Mae Diwygio’r Senedd wed cyflwyno swm digyffelyb o newidiadau, gan wneud etholiad 2026 yn hynod wahanol.
Mae’r newidiadau hyn wedi llywio ein gofynion maniffesto a’r dull ymgyrchu y byddwn yn ei ddilyn i sicrhau bod lleisiau mudiadau gwirfoddol yn cael eu clywed.
Mae ein prif ystyriaethau yn cynnwys:
- Ehangiad y Senedd (o 60 i 96 o aelodau)
- Cyfnod swydd byrrach yn y Senedd (o bump i bedair blynedd)
- Symud o’r System Aelodau Ychwanegol i Gynrychiolaeth Gyfrannol*
Mae’r newidiadau hyn yn golygu mwy o gyfleoedd i ddylanwadu, llawer o bobl newydd i feithrin cydberthnasau â nhw, a chronfa mwy amrywiol o wleidyddion. I’r gwrthwyneb, mae cyfnod byrrach yn y Senedd yn cyflwyno risg uwch o feddwl yn y tymor byr a newidiadau amlach mewn cyfeiriad strategol.
Mae gan bleidiau llai gwell cyfle o lawer i gael seddau yn y Senedd, mae llywodraeth glymblaid yn fwy tebygol, ac rydym yn disgwyl gweld cynghreiriau anghyffredin gyda’r wrthblaid. Bydd awyrgylch gwahanol iawn yn y Senedd ac amgylchedd dylanwadu newydd sbon i fudiadau gwirfoddol ei lywio.
NODAU MANIFFESTO CGGC
Diben maniffesto CGGC yw helpu i greu amgylchedd gwell i fudiadau gwirfoddol weithredu ynddo yng Nghymru. Gan ystyried y newidiadau mawr o’n blaenau, gwnaethom nodi tri phrif nod ar gyfer maniffesto Senedd 2006 CGGC:
- (Ail)gyflwyno’r sector gwirfoddol, ei effaith a’i arbenigedd
- Gosod blaenoriaethau a ffiniau clir i’r sector gwirfoddol
- Sicrhau bod polisïau a dulliau presennol sydd o fudd i’r sector, cymunedau a’r achosion rydym yn eu cefnogi yn parhau a gwella
Bydd y maniffesto yn sicrhau bod aelodau newydd y Senedd, ynghyd â’r rheini sy’n dychwelyd, yn deall rôl hanfodol mudiadau gwirfoddol fel darparwyr:
- cysylltiad â chymunedau
- arloesedd
- gwerth cymdeithasol
- arbenigedd heb ei ail
- gwasanaethau arbenigol, a
- chymorth cofleidiol i’r sector cyhoeddus
EIN TELERAU AC AMODAU
Byddwn yn gwneud ein ffiniau’n glir – yn aml, mae gwasanaethau’r sector gwirfoddol am ddim i fuddiolwyr, ond ni ellir eu rhedeg am ddim. Rydym yn wynebu mwy o alw nag erioed am wasanaethau, ond yn cael anhawster recriwtio a chadw staff a gwirfoddolwyr. Mae’n rhaid i gontractau cyhoeddus fod yn ddigon ar gyfer gwir gost y ddarpariaeth. Mae’n rhaid i’r sector gwirfoddol gael eu gwahodd i gyfrannu mor gynnar â phosibl pan fydd polisïau yn cael eu llunio a chael eu hymgynghori’n barhaus.
Byddwn yn gofyn i bob plaid wneud ymrwymiad i feddwl yn yr hirdymor a gwariant ataliol. Rydym eisiau gweld Llywodraeth Cymru sy’n canolbwyntio ar roi strategaethau a chynlluniau gweithredu newydd a chyfredol ar waith. Bydd y maniffesto yn galw am fwy o dryloywder gan y llywodraeth, a chyllid craidd, amlflwyddyn i fudiadau gwirfoddol fel darparwyr hanfodol yn ein cymunedau Mae’r gofynion hyn wedi’u dylunio i sicrhau gwaith partneriaeth go iawn.
CYNNIG HELP LLAW
Bydd ein maniffesto yn tynnu sylw at flaenoriaethau cyffredin y gallwn helpu’r Llywodraeth Cymru nesaf i weithio tuag atynt. Byddwn yn pwysleisio’r rôl hanfodol y mae’r sector gwirfoddol yn ei chwarae o ran cryfhau hawliau dynol, lleihau anghydraddoldeb, mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Byddwn yn gwneud nifer o ofynion cadarn o ran ffrydiau gwaith presennol. Byddwn yn galw am weithrediad llawn y Dull Newydd o Wirfoddoli a’r Cod Ymarfer diwygiedig ar gyfer Cyllido’r Trydydd Sector. Byddwn yn gofyn i bob plaid wleidyddol ymrwymo i weithio gyda’r sector gwirfoddol i ddatblygu Polisi Cymunedau. Mae angen ailwampio Cynllun y Trydydd Sector i fod yn addas i’r diben ar ôl i’r Senedd ehangu.
SIOE DEITHIOL AELODAU
Seiliwyd drafft cyntaf ein maniffesto ar faterion a blaenoriaethau polisi y clywsom amdanynt gan fudiadau gwirfoddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ym mis Ionawr, gwnaethom drefnu cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori i brofi’r syniadau hyn gyda’n haelodaeth.
Roeddwn yn falch o glywed bod aelodau’n teimlo y bydd ein maniffesto yn helpu i ddatblygu eu nodau a chryfhau eu gofynion i’r Senedd nesaf. Roeddem yn ddiolchgar o gael adborth adeiladol ac awgrymiadau ar sut i wneud ein gofynion yn fwy eglur er mwyn osgoi camddealltwriaeth.
Gwnaethom ddysgu bod llawer o fudiadau yn teimlo nad ydynt yn gwybod digon am ddiwygiad y Senedd ac roedd y syniad o adeiladu cysylltiadau â llawer o aelodau Senedd, pwyllgorau a staff newydd yn frawychus. Gwnaeth y digwyddiadau nid yn unig hysbysu ein gwaith maniffesto; gwnaeth hefyd gyfeirio at anghenion hyfforddiant a chymorth y gallai CGGC eu helpu i fynd i’r afael â nhw.
CAMAU NESAF
Rydym yn parhau i ymgynghori ag amrywiaeth eang o rwydweithiau’r sector gwirfoddol wrth i ni lunio drafft nesaf maniffesto CGGC. Os hoffech ddysgu mwy neu roi adborth i ni ar yr hyn a amlinellwyd yma, cysylltwch â ni yn polisi@wcva.cymru.
*Saesneg yn unig