bachgen ar ysgwyddau dyn yn gwylio rhywbeth mewn sbotolau

Sbotolau ar y sector: pam mai nawr yw’r amser i ddweud eich stori

Cyhoeddwyd: 29/04/20 | Categorïau: Heb gategori, Awdur:

Yma, mae Elen Notley, Rheolwr Marchnata a Chyfathrebiadau CGGC, yn annog y sector gwirfoddol i floeddio am yr effaith anhygoel mae’r sector yn ei chael.

Nid yw brolio am y gwahaniaeth cadarnhaol y maen nhw’n ei wneud i fywydau a chymunedau pobl yn rhywbeth y mae mudiadau gwirfoddol yn or-hoff o’i wneud. Ond nawr yn ystod argyfwng y Coronafeirws, mae’n bwysig ein bod ni’n rhoi sbotolau ar ba mor hanfodol yw gwaith y sector mewn gwirionedd.

Nawr, fwy nag erioed, mae gwirfoddolwyr, grwpiau gwirfoddol ac elusennau yn camu ymlaen i ddiogelu ein cymunedau. O gludo bwyd a meddyginiaethau i ofalu am bobl sy’n agored i niwed, mae enghreifftiau di-ri o waith ANHYGOEL sy’n cael ei wneud gan y sector. Mae elusennau a mudiadau nid-er-elw hefyd sy’n cael anhawster dal dau ben llinyn ynghyd, gyda rhoddion yn lleihau ac anallu i gyflawni eu gweithgareddau arferol.

Mae’r mudiadau hyn yn mynd o un dydd i’r llall yn gwneud gwahaniaeth syfrdanol i fywydau pobl, ac yn aml, maen nhw mor brysur yn gwneud hyn fel nad ydynt yn cymryd yr amser i stopio, myfyrio a nodi eu heffaith gadarnhaol. Ond, mae’r amser wedi dod! Mae’r byd yn troedio tir newydd, a phan fyddwn ni’n dod allan o hyn, nid yw’n debygol o fod yr un peth byth eto.

Felly, mae angen i ni fel sector godi ein lleisiau, a dangos i’r byd pa mor bwysig yw ein gwaith a sut mae’n gwneud gwahaniaeth. Fel hynny, pan fyddwn ni’n dod drwy’r argyfwng hwn, bydd mwy o gydnabyddiaeth ac ymwybyddiaeth o effaith gadarnhaol y sector gwirfoddol ar bobl a chymunedau.

Yn ogystal â hyn, rydyn ni angen pobl i wirioneddol fuddsoddi yng ngwaith hanfodol y sector, nawr ac yn y dyfodol. Gall hyn gynnwys gwirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser, rhoddwyr sy’n rhoi rhoddion i’r materion sy’n bwysig iddyn nhw, neu benderfynwyr sy’n ymrwymo adnoddau er mwyn sicrhau y gall mudiadau gwirfoddol barhau i wneud yr hyn y maen nhw’n ei wneud i newid bywydau bob dydd. Adrodd hanesion am y pethau gwych sy’n digwydd nawr yw’r ffordd orau o gael pobl i gredu a buddsoddi ym mhŵer ein sector.

Felly sut ydyn ni’n mynd ati i wneud hyn? Ble i ddechrau?

Dyma rai cwestiynau i’w hystyried a allai eich helpu i greu eich stori.

  1. Pam ydych chi’n gwneud yr hyn rydych chi’n ei wneud?

Hwn yw’r cwestiwn pwysicaf! Beth yw’r prif beth sy’n eich ysgogi? Meddyliwch am pam mae eich gwaith mor bwysig? A, beth fyddai’n digwydd heb eich effaith?

  1. Pa effaith ydych chi’n ei chael?

Pa dasgau/gwasanaethau sy’n cael eu cyflawni er mwyn cael effaith gadarnhaol ar fywydau eraill? Oes gennych chi unrhyw ffeithiau a ffigurau y gallwch chi eu defnyddio i ddangos hyn?

  1. Oes gennych chi dystlythyrau y gallwch chi eu rhannu?

Mae dyfyniadau ac astudiaethau achos yn ffyrdd gwych o amlygu’r effaith rydych chi’n ei chael ac mae’n rhoi elfen bersonol i’r stori y bydd darllenwyr yn gallu uniaethu â hi.

  1. Ydych chi’n gwneud rhywbeth arloesol?

Ydych chi wedi dod o hyd i ffordd newydd o ddarparu eich gwasanaethau, cysylltu â’ch cynulleidfaoedd neu godi arian? Neu a ydych chi wedi gorfod cynyddu eich gwasanaethau’n sylweddol ac, os felly, sut ydych chi wedi gwneud hyn? Nodwch sut rydych chi wedi addasu a sut mae hyn wedi arwain at fwy fyth o effaith.

  1. A allwch chi gael gafael ar rai lluniau neu fideo?

Mae llun yn werth mil o eiriau…. mae hyn mor wir! Ar Twitter, mae negeseuon sy’n cynnwys llun neu fideo yn debygol o gael eu rhannu 394% yn fwy! Felly, os gallwch ffilmio fideo neu dynnu llun sy’n cipio hanfod eich stori, bydd yn llawer haws i ledaenu’r gair.

Dylai’r cwestiynau hyn roi dechreuad da i chi i ddechrau bloeddio am y gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud a chofiwch, mae CGGC yma i helpu. Rydyn ni eisiau amlygu’r effaith anhygoel y mae’r sector gwirfoddol yn ei chael yng Nghymru, felly os oes angen help llaw arnoch i lunio’ch stori, neu os ydych chi dim ond eisiau lledaenu’r neges – rhowch wybod i ni!

  • Gallwch anfon e-bost atom yn news@wcva.cymru
  • Ffoniwch ni ar 0300 111 0124 a gofyn i siarad â’r adran farchnata
  • NEU postiwch eich straeon ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #NawrFwyNagErioed