Dyma Mary Roberts, Rheolwr Rhanddeiliaid a Pholisi Cymru’r Rheoleiddiwr Codi Arian gyda diweddariad i fudiadau gwirfoddol ar arferion codi arian da a datblygiadau diweddar.
Bydd codwyr arian elusennau yng Nghymru sy’n ymrwymedig i gyflawni arferion gorau wedi teimlo’n anesmwyth yn darllen *ymchwiliad Wales Online i’r ffordd y mae is-gontractwyr yn mynd ati i godi arian o ddrws i ddrws.
Mae mwy a mwy o dystiolaeth fod rhai cwmnïau – sy’n gweithredu fel isgontractwyr – yn defnyddio tactegau sy’n rhoi llawer o bwysau ar bobl a all fod yn torri’r Cod Ymarfer Codi Arian ac yn bygwth tanseilio ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y sector.
O ganlyniad, mae’r Rheoleiddiwr Codi Arian wedi *lansio ei ymchwiliad i’r farchnad cyntaf i edrych ar y problemau sy’n ymwneud â defnyddio isgontractwyr i godi arian gan elusennau. Bydd yr ymchwiliad i’r farchnad yn cynnwys chwilio am ffeithiau, ymgysylltu â’r sector a chynnal gweithdai gyda rhanddeiliaid perthnasol.
Gallwch *ddarllen blog diweddar gan Bennaeth Polisi’r rheoleiddiwr, Paul Winyard, sy’n amlygu risgiau is-gontractio a sut i sicrhau arferion gorau.
CODI ARIAN O DDRWS I DDRWS SY’N DERBYN Y MWYAF O GWYNION
Mae codi arian wyneb yn wyneb wedi dychwelyd o ddifrif ers pandemig y coronafeirws, a dangosodd *Adroddiad Cwynion Blynyddol y Rheoleiddiwr Codi Arian sy’n ymdrin â’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023, bod mwy o gwynion ynghylch codi arian o ddrws i ddrws nag unrhyw ddull arall.
Mae’r dull hwn yn ffordd bositif i elusennau ryngweithio gyda’r cyhoedd a chynhyrchu incwm, ond mynegodd llawer o’r rheini a gwynodd nad oeddent yn hoffi’r dull hwn. Mae defnyddio isgontractwyr yn cyflwyno’r her ychwanegol i elusennau o sicrhau bod safonau perthnasol yn cael eu cynnal.
*Lawrlwythwch adroddiad y rheoleiddiwr i ddeall rhai o’r materion sy’n wynebu’r sector codi arian a chael syniadau ar sut i liniaru ac ymateb i gwynion ynghylch codi arian elusennol.
RHOI MWY DIOGEL WRTH AGOSÁU AT Y NADOLIG
Mae’r *ymgyrch Nadolig, Rhoi mwy Diogel, a gydlynir gan y Rheoleiddiwr Codi Arian ochr yn ochr â’r Comisiwn Elusennau ar gyfer Cymru a Lloegr (CCEW) ac Action Fraud, yn annog aelodau o’r cyhoedd i wneud gwiriadau syml i sicrhau bod rhoddion elusennau yn cyrraedd yr achos bwriadedig.
Cyflwynir yr ymgyrch cyn y Nadolig, pan fydd apeliadau am roddion elusennol ar gynnydd a’r cyhoedd ym Mhrydain yn fwy tebygol o roi yn ystod y Nadolig nag ar adegau eraill o’r flwyddyn. Yn ôl data gan CCEW, mae bron un o bob tri unigolyn (28%) yn ystyried rhoi i elusen dros y Nadolig yn lle rhoi anrhegion.
Rhannwch ein neges rhoi mwy diogel gyda’ch rhoddwyr a’ch cefnogwyr.
ADOLYGU’R ARDOLL
Am y tro cyntaf ers iddo gael ei sefydlu yn 2016, mae’r Rheoleiddiwr Codi Arian yn bwriadu adolygu’r *ardoll a ffioedd cofrestru blynyddol y mae’n gofyn i elusennau eu talu i gyllido ei waith. Mae’n gwneud hyn fel y gall barhau i ddarparu hunan-reoleiddiad effeithiol o’r sector sy’n hybu ymddiriedaeth y cyhoedd mewn codi arian elusennol.
Ar 4 Rhagfyr, lansiodd y rheoleiddiwr *ymarferiad ymgysylltu ar-lein ar y newidiadau arfaethedig, ac anogir elusennau â diddordeb i ymateb.
YMGYNGHORIAD AR Y COD
Caeodd *ymgynghoriad y Rheoleiddiwr Codi Arian ar gynigion i ddiweddaru’r Cod Ymarfer Codi Arian ar 1 Rhagfyr 2023. Gwnaeth y rheoleiddiwr gyd-gyflwyno digwyddiad ymgynghori yng Nghaerdydd gydag CGGC i rannu eu cynlluniau a chasglu adborth. Hoffem ddiolch i bawb a ddaeth i’r digwyddiad ac i’r rheini a ymatebodd i’r ymgynghoriad. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o ymatebion ddechrau’r flwyddyn nesaf. Gallwch *gofrestru i gael ein cylchlythyr i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y broses o adolygu’r cod ynghyd â newyddion a digwyddiadau eraill.
CYSYLLTU Â NI
Mae sicrhau bod y sector elusennol yn cael ei gefnogi i godi arian mewn modd agored, onest, parchus a chyfreithiol yn rhan hanfodol o rôl y Rheoleiddiwr Codi Arian yng Nghymru.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch cymhwyso’r Cod Ymarfer Codi Arian DU gyfan, cysylltwch â code@fundraisingregulator.org.uk.
* Dolenni at gynnwys Saesneg yn unig