Mike Corcoran yn gwenu ar cefndir golau

Saith cwestiwn ar gyfer gwerthuso yn ystod argyfwng

Cyhoeddwyd: 28/05/20 | Categorïau: Heb gategori, Awdur: Mike Corcoran

Mae Mike Corcoran, Arbenigwr Gwerthuso gyda Rhwydwaith Cydgynhyrchu ar gyfer Cymru, yn amlinellu saith cwestiwn ar gyfer gwerthuso’ch gwasanaethau yn ystyrlon mewn cyfnod o argyfwng.

Pam ydym ni’n gwerthuso ein gwasanaethau?

I brofi i’n cyllidwyr a’n cefnogwyr ein bod ni’n cael effaith? Fwy na thebyg. Er mwyn gwella ar ein gwasanaethau, trwy ddysgu mwy am eu heffaith a’r modd y cyflawnir hyn? Heb os. I gefnogi sefydliad perthnasau cryf, hirhoedlog gyda’r sawl rydym ni’n eu cefnogi – yn seiliedig ar ymddiriedaeth, grym a chyfrifoldeb? Os na, fe ddylem fod!

Ffordd arall o feddwl am hyn yw gofyn – pam nad ydym ni’n gwerthuso ein gwasanaethau?

Pan fydd gwerthuso’n cael ei ohirio, mae hyn yn aml oherwydd bod amser, arian ac adnoddau’n brin, neu arbenigedd mewnol yn ddiffygiol. A phan roddir blaenoriaeth i ddarparu, darparu, darparu – bydd yn rhaid i werthuso aros. Dyma golli cyfle o’r radd flaenaf.

Y tro diwethaf i mi gymryd rhan mewn gweithdy Inspiring Impact, fe siaradais am y modd y cawn ni fel gwerthuswyr ein condemnio i gael effaith. Nid ydym yn gweithio gyda data, ond yn hytrach gyda phobl, a’r tu ôl i bob un o’n pwyntiau data mae yna unigolyn unigryw â theimladau, profiadau a stori i’w hadrodd. Bob tro y byddwn yn gwerthuso ein gwasanaeth, byddwn yn rhoi’r cyfle i bobl adrodd eu straeon, mewn modd sy’n eu cyfoethogi ac sy’n werthfawr iddyn nhw – bob tro na fyddwn yn gwerthuso ein gwasanaeth, byddwn yn dwyn y cyfle hwnnw oddi wrthynt.

Mewn adegau o argyfwng, mae’n bosibl bod y demtasiwn i adael gwerthuso tan wedyn yn gryfach nag erioed. Ond dyma’r union adegau pan fydd angen dealltwriaeth gliriach arnom o’r effaith rydym yn ei chael wrth i’r ddaear symud o dan ein traed. Mewn adegau fel hyn byddwn yn gynyddol ddibynnol ar yr arbenigwyr trwy brofiad sy’n defnyddio ein gwasanaethau i’n harwain wrth i ni geisio adeiladu datrysiadau newydd i broblemau cymhleth sy’n dod i’r amlwg. Ac mewn adegau fel hyn bydd y rheiny sydd â’r lleiaf o reolaeth dros eu bywydau yn colli’r cyfle i adrodd eu straeon.

Does dim angen i werthuso ystyrlon fod yn gymhleth, na chymryd amser i’w gwblhau, na bodoli ar draul darpariaeth gwasanaeth. I’r gwrthwyneb, o’i wneud yn iawn, daw’n rhan organig o’r gwasanaeth ei hun, gan ehangu’n uniongyrchol ar yr effeithiau a gyflawnir, a’r perthnasau sy’n sail iddynt.

Trwy weithio gyda CGGC, rydym wedi datblygu ‘7 Cwestiwn Syml’ ar gyfer gwerthuso ystyrlon mewn adegau o argyfwng. Wedi’u bwriadu fel man cychwyn i unrhyw un, hyd yn oed y rheiny sy’n gwbl newydd i werthuso, gellir defnyddio’r cwestiynau hyn fel adlewyrchiadau preifat, modd o gychwyn sgyrsiau, eitemau ar agenda cyfarfod tîm, neu eu datblygu’n weithgareddau syml i gymryd rhan ynddynt gyda’ch cydweithwyr a’r bobl rydych chi’n eu cefnogi. Mae pob un wedi’i gyfuno â dull gwerthuso gwydn a chadarn, ac mae nifer o adnoddau gwych ar gael am ddim ar-lein, o Inspiring Impact, BetterEvaluation a’n Sylfaen Wybodaeth Cydgynhyrchu ni, ymysg nifer o rai eraill, i’ch cynorthwyo i’w rhoi ar waith.

Trwy ofyn cwestiynau fel hyn fel mater o drefn, ac adeiladu arnynt, dros amser fe ddaw gwerthuso cydgynhyrchiol yn rhan greiddiol o ddiwylliant eich mudiad, a bydd y bobl rydych chi’n eu cefnogi wrth wraidd popeth a wnewch bob amser.

  1. Sut gallaf wneud yfory’n well na ddoe?

Trwy ganolbwyntio ar y pethau syml y gallwn wneud er mwyn gwneud pethau rhywfaint yn well i bobl bob dydd, ar y cyd dros amser gallwn gael effaith enfawr. Mae cwestiynau fel hyn yn gydnaws a’r ymarfer adlewyrchol a’r dysgu gweithredol sy’n hanfodol er mwyn datrys problemau cymhleth sy’n dod i’r wyneb mewn amser real.

  1. Beth sydd newydd ddigwydd?

Mae newid yn digwydd yn gyflym ym mhobman o’n cwmpas ac os na wnawn ni ddal yr hyn sy’n digwydd yr eiliad hon, gallai dysgu amhrisiadwy gael ei golli am byth. Mae hi’n bwysig ein bod yn cadw cofnod cywir o’r newidiadau hyn wrth iddynt ddigwydd, er mwyn i ni ddysgu cymaint â phosibl oddi wrthynt yn y dyfodol.

  1. Beth yw’r peth gorau a ddigwyddodd yr wythnos hon?

Trwy well dealltwriaeth o’r hyn sy’n gweithio’n dda, a pham, gallwn adeiladu ar ein llwyddiannau a’u rhannu’n amlach â mwy o bobl. Nid yn unig hynny, ond mae atgoffa ein hunain o’r pethau positif mewn adegau anodd yn rhan bwysig o reoli ein llesiant ni ein hunain.

  1. Sut ydw i’n teimlo?

Gall arafu er mwyn adlewyrchu ar sut rydyn ni’n teimlo yn ystod cyfnodau o straen a phryder cynyddol roi mewnwelediadau dwfn i’r effaith mae cynllun a darpariaeth ein gwasanaethau yn ei chael arnom ni. Ni allwn ofalu am bobl eraill os nad ydyn ni’n gofalu amdanom ni ein hunain. 

  1. Sut wyt ti?

Nid mater o gwrteisi yn unig yw gofyn ‘sut wyt ti?’, dylai fod wrth wraidd yr hyn a wnawn.  Mae darparu cyfleoedd i’r arbenigwyr trwy brofiad a gefnogwn i rannu eu teimladau fel mater o drefn, boed hynny wyneb yn wyneb neu o bell, yn hanfodol.

  1. Beth sydd wedi newid?

Mae deall y newidiadau a gyflwyna ein gwasanaethau sy’n datblygu’n gyflym yn hanfodol os ydym am wella bywydau’r rheiny y gweithiwn gyda hwy. Mae cael y rhyddid i adrodd ein straeon o newid yn ein grymuso, ac yn sicrhau fod pawb ynghlwm yn weithredol wrth lunio darpariaeth ein gwasanaeth, hyd yn oed mewn cyfnodau o argyfwng.                              

  1. Pwy sydd ddim yma?

Pan osodir gwasanaethau o dan bwysau sylweddol, mae’n bosibl i rai o’r rheiny sy’n eu defnyddio lithro trwy’r rhwyd – yn aml, y bobl sydd arnynt angen y gwasanaeth fwyaf. Mae holi ‘pwy sydd ddim yma?’ fel mater o drefn yn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

Mae Mike yn gweithio gyda mudiadau ar draws Cymru a ledled y byd fel ymgynghorydd ar ymgysylltiad ac effaith. Mae’n ymgynghorydd cyswllt hirdymor i Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, ac ef arweiniodd ddatblygiad teclyn gwerthuso ‘Mesur yr hyn sy’n Bwysig’ y rhwydwaith.

Roedd Mike Corcoran yn siarad fel rhan o weminar Inspiring Impact CGGC, ‘Nid pwyntiau data yw pobl’ ar ddydd Mercher 20fed o Fai 2020.