Amgueddfa Cymru yw un o’r lliaws o fudiadau sydd wedi ennill y Dyfarniad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr – yma, maen nhw’n dweud wrthym ni sut maen nhw wedi ei ddefnyddio i ddangos i wirfoddolwyr y gwerth y maen nhw’n eu cyflwyno i’w hamgueddfeydd a chymunedau.
Amgueddfa Cymru yw cartref y saith Amgueddfa Genedlaethol ledled Cymru a’r Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol. Gyda mwy na 5.2 miliwn o wrthrychau ac atgofion yn ein casgliad cenedlaethol, mae ein hamgueddfeydd yn llawn gwrthrychau diddorol ac yn fwrlwm o brosiectau cyffrous sy’n ysbrydoli a rhoi mwynhad.
YCHWANEGU I’R PROFIAD CYFUNOL
Mae cyfraniad ein gwirfoddolwyr a’r cymorth y maen nhw’n ei roi i Amgueddfa Cymru yn amhrisiadwy – maen nhw’n cyfrannu cymaint drwy eu profiadau cyfunol ac yn cynnig safbwynt newydd ar ein gwaith.
Rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau bod pob gwirfoddolwr yn cael ei werthfawrogi, a’i fod yn teimlo bod gwerth i’r wybodaeth y mae’n ei gyflwyno. Drwy gydnabod y gall gwirfoddoli fod yn gyfrwng i gael gwaith, mae ein mudiad ni mewn sefyllfa dda i gynorthwyo cymunedau lleol amrywiol a gwahanol Cymru. Ein nod yw newid bywydau drwy ffurfio partneriaethau â mudiadau llawr gwlad sy’n cynorthwyo pobl i fagu hyder a datblygu sgiliau ymarferol drwy wirfoddoli.
‘Rwy’n gweithio gyda gwirfoddolwyr heb unrhyw brofiad o weithio ac yn magu eu hyder a datblygu eu sgiliau i’r pwynt lle y maen nhw wedi llwyddo i gael cyflogaeth.’ – Goruchwyliwr Gwirfoddolwyr
DANGOS EFFAITH
Mae ennill y Dyfarniad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) wedi rhoi’r cyfle i ni brofi a gwella ein dulliau cadarnhaol ac effeithiol o weithio. Crëwyd meysydd ansawdd IiV gyda phrofiad y gwirfoddolwr o dan sylw, ac rydyn ni mor falch o ennill y dyfarniad hwn am y drydedd gwaith.
‘I unrhyw fudiad sy’n ystyried mynd am y dyfarniad hwn, ewch amdani! Maen nhw’n eich cynorthwyo ar bob cam o’r daith ac mae treulio amser yn myfyrio ar yr effaith gadarnhaol y mae ein gwaith yn ei chael ar fywydau pobl, ac arddangos hynny, wedi bod yn fuddiol tu hwnt i ni.’ – Cydlynydd Gwirfoddolwyr
‘Mae Dyfarniad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn dyst i waith caled y tîm, ac yn dangos eu hymrwymiad i gefnogi pob gwirfoddolwr unigol, yn enwedig yn ystod gorthrymderau’r ddwy flynedd ddiwethaf. Nawr, rydyn ni’n edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn, ac i gynnig mwy fyth o gyfleoedd gwirfoddoli yn y dyfodol.’ – Pennaeth Ymgysylltu a Gwirfoddoli
DATBLYGU TEULU
Ers dechrau’r pandemig byd-eang, rydyn ni wedi dod o hyd i ffyrdd newydd a chyffrous y gall gwirfoddolwyr ein cynorthwyo ni, o drawsgrifio dogfennau hanesyddol o gartref i fod yn llysgenhadon ar gyfer ein gwaith ar-lein. Ein nod yn ystod y tair blynedd nesaf yw datblygu ein cyfleoedd e-wirfoddoli ymhellach, gan roi’r cyfle i bobl o bob cwr o Gymru, a thu hwnt, gymryd rhan, dysgu a’n cefnogi ni.
‘Rydyn ni’r gwirfoddolwyr yn cael cymaint o ofal a pharch. Rydyn ni bob amser yn teimlo ein bod yn cael ein cynnwys, fel teulu mawr. Mae’n wych bod yn rhan o gymdeithas mor amrywiol a chynhwysol. Mae gan yr holl le ymdeimlad o berthyn.’ – Gwirfoddolwr
I gael gwybod mwy am wirfoddoli yn Amgueddfa Cymru, ewch i’w gwefan: Cymryd rhan gydag Amgueddfa Cymru | National Museum Wales neu dilynwch nhw ar gyfryngau cymdeithasol: Facebook a Twitter
MWY AM IIV
I gael rhagor o wybodaeth am y dyfarniad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, ewch i https://investinginvolunteers.co.uk/ (Saesneg yn unig)