Gofalwr yn gosod ei law ar ysgwydd unigolyn

Rôl wirfoddoli ‘wych’ yn arwain Letitia at yrfa mewn gofalu

Cyhoeddwyd: 16/02/24 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Letitia Hawkins

Mae Letitia Hawkins, 22 oed, yn siarad am ba mor fuddiol oedd ei gwirfoddoli i ddechrau gyrfa yn y maes gofalu.

TAITH LETITIA

Fe ddechreuais i wirfoddoli gyda help o’m gweithiwr cymorth yn Phoenix, grŵp cymorth ar gyfer trais domestig. Ar ôl popeth oedd wedi digwydd, roeddwn i’n barod i gymryd y cam nesaf. Gwnaeth fy ngweithiwr cymorth fy helpu i edrych am wahanol rolau, a phan soniodd am rolau cyfeillio’r GIG, fe wnes i gais yn y fan a’r lle. Roeddwn i wastad wedi gwybod ers y bydden i’n hoffi rhoi gofal i eraill.

RÔL CYFEILLACHWR GWIRFODDOL

Fel cyfeillachwr gwirfoddol yn Ysbyty Glynebwy , byddem yn mynd i sgwrsio â’r cleifion. Byddem yn ceisio gwneud iddyn nhw wenu a theimlo’n well, weithiau bydden ni’n hel atgofion. Bydden ni’n siarad am bopeth a dweud y gwir, ond roedd hi’n braf eu gweld nhw’n gwenu. Roedd hynna’n deimlad hyfryd. Y teimlad gorau yw cerdded allan o’r ystafell a gweld y gwahaniaeth o’r adeg y cerddais i mewn. Byddai dim ond deg i 15 munud yn gwneud rhywun yn hapusach ac yn fwy positif yn ei ymddygiad a’i agwedd, yn llawer hapusach nag os oedd newydd siarad â staff meddygol ynghylch ei driniaeth.

MANTEISION Y LLEOLIAD

Gwnaeth y lleoliad gwirfoddoli fy helpu i dyfu’n bersonol, rhoi mwy o hyder i mi a’m helpu gyda sgiliau fel gallu meddwl ar fy nhraed a chyfathrebu’n well. D’oes dim geiriau gen i. Roedd yn hollol wych. Gallais wella fy hun go iawn – roedd e’n wych. Ac roedd yn garreg sarn ddefnyddiol iawn a’m helpodd i gael cyflogaeth â thâl fel Cynorthwyydd Gofal yng Nghartref Gofal BankHouse yng Nglynebwy. Rwy’n dwli ar fy ngwaith yn gofalu am bobl eraill, yn rhoi o’m hamser iddyn nhw bryd bynnag y gallaf – mae’n eu helpu nhw’n fawr.

Rwy’n gwneud NVQ ar hyn o bryd mewn cyngor ac arweiniad. Rwy’n mynd i ddefnyddio hwnnw a’m swydd fel Cynorthwyydd Gofal a gobeithio chwilio llwybr i nyrsio. Y cwbl rydw i’n ei wneud yw ceisio gwella fy hun mewn unrhyw fodd posibl.

GWYBODAETH BELLACH

Am ragor o wybodaeth am unrhyw fater a godwyd yn yr astudiaeth achos hon, anfonwch e-bost at iechydagofal@wcva.cymru.