Yn dilyn eu sesiwn ddiddorol yn gofod3, mae Michael Jones a Johnathan Dight o Bevan Buckland yn rhannu’r risgiau cyfredol i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru a sut i’w rheoli.
Mae’r sector gwirfoddol o dan fwyfwy o bwysau. Ansicrwydd ariannol, galw cynyddol am wasanaethau, a llywodraethiant yw dim ond rhai o’r pynciau sy’n effeithio ar sut mae elusennau yn gweithredu ac yn goroesi. Yn gofod3, gwnaethom amlinellu’r risgiau cyfredol yn y sector ac egluro sut gall llywodraethu, cynllunio, a strategaethau ariannol effeithiol helpu mudiadau i lywio drwy’r dyddiau ansicr hyn.
PWYSAU ARIANNOL
Un o’r heriau mwyaf y mae elusennau yn ei hwynebu yw pwysau ariannol. Rydym wedi gweld sectorau sydd wedi cael eu cyllid wedi’i dorri’n sylweddol, sectorau lle mae’r cyllid ar yr un lefel a’r flwyddyn flaenorol ac, o bryd i’w gilydd, sectorau â chynnydd canrannol bychan mewn incwm grant. Ar yr un pryd, gyda phwysau economaidd cyfredol fel y newidiadau i’r Yswiriant Gwladol a’r cynnydd yn yr isafswm cyflog, mae’r gost o ddarparu gwasanaethau yn cynyddu’n sylweddol, ac yn golygu bod yn rhaid i elusennau ddefnyddio’u harian wrth gefn neu geisio cael cyllid ychwanegol i wneud iawn am y diffyg.
Rydym hefyd yn gweld y gystadleuaeth am gyllid yn cynyddu wrth i fwy o elusennau geisio cynyddu eu cyllid, ac mae elusennau mwy o faint yn ymgeisio am grantiau llai nawr pan mae ganddyn nhw’r adnoddau i gwblhau’r broses ymgeisio.
Ynghyd â hyn, mae seiberfygythiadau yn parhau i ddatblygu, gan dargedu seilwaith ariannol elusennau na allai fod â’r adnoddau i fuddsoddi mewn diogelwch cadarn.
MATERION LLYWODRAETHU
Mae materion llywodraethu yn parhau i fod yn ffynhonnell o risg i lawer o fudiadau, gan gynnwys recriwtio ymddiriedolwyr newydd a sicrhau bod gan y bwrdd y sgiliau neu’r lefel ymrwymiad sydd eu hangen i lywio trwy heriau heddiw yn effeithiol. Gyda chyllid grant yn newid i fod yn gadarnhad blynyddol o gyllid, gall yr ansicrwydd o gael cyllid a’r cynnydd bychan mewn cyllid arwain at golli staff allweddol wrth gystadlu â chyrff corfforaethol.
Mae diffyg adrodd amserol a chywir i’r bwrdd ymddiriedolwyr dim ond yn ychwanegu at y baich llywodraethol, gan wanhau trosolwg ac atebolrwydd. Mewn rhai achosion, mae un neu ddau unigolyn yn rheoli’r broses benderfynu, a gall hyn arwain at gyfeiriad strategol gwael a mwy o risg o achosion o wrthdaro buddiannau.
HERIAU GWEITHREDOL
Mae risgiau gweithredol hefyd wedi dod yn fwy amlwg, a llawer o fudiadau yn wynebu problemau wrth geisio gwneud y defnydd gorau o wirfoddolwyr. Mae’r problemau hyn yn amrywio i gael anhawster denu gwirfoddolwyr, peidio â defnyddio sgiliau’r gwirfoddolwyr er budd yr elusen, i gael gormod o bobl yn gwirfoddoli fel rhan o ddiwrnod elusennol cwmni, pan fyddai defnyddio’r diwrnod hwnnw i godi arian yn fwy buddiol.
Mae’r broses o fesur effeithiolrwydd gwasanaethau wedi dod yn fwy hanfodol, yn enwedig wrth i gyllidwyr a’r cyhoedd alw am dystiolaeth fwy eglur o effaith.
BYGYTHIADAU TECHNOLEGOL
Mae bygythiad achosion seiber yn parhau i gynyddu, gydag M&S a’r Coop yn profi ymosodiadau yn ddiweddar. Ni ellir pwysleisio pwysigrwydd diogelwch ddigon a gall rhoi hyfforddiant seiber i staff/byrddau a defnyddio dilysiad dau ffactor (2FA) lle bynnag y bo’n bosibl amddiffyn elusennau rhag rhai ymosodiadau.
Mae technoleg yn cynnig cyfleoedd a bygythiadau. Mae gweithio o bell wedi cyflwyno hyblygrwydd ond hefyd wedi golygu bod mudiadau yn agored i risgiau TG a seiberddiogelwch nad oedd llawer yn barod i ymdopi â nhw o’r blaen. Mae poblogrwydd deallusrwydd artiffisial (AI) yn cynnig cyfleoedd i lunio erthyglau, adroddiadau a chael ymgysylltiad â defnyddwyr yn gyflymach a haws nag o’r blaen, a hefyd y bygythiad o beidio â defnyddio AI, cwestiynau moesegol ac ystyriaethau rheoleiddio. Yn y cyfamser, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn parhau i fod yn rym pwerus ond anrhagweladwy, gyda’r potensial i wella neu niweidio enw da elusen yn gyflym.
HERIAU CYMDEITHASOL
Mae pwysau cymdeithasol hefyd ar gynnydd. Mae llawer o elusennau yn wynebu mwy o alw am wasanaethau, yn enwedig yn y sector iechyd, ac yn aml, mae’r anghenion yn mynd y tu hwnt i feysydd gwasanaeth traddodiadol bellach. Yn aml, gyrrir y galw hwn gan broblemau cymdeithasol fwyfwy cymhleth, gan gynnwys iechyd meddwl, anghydraddoldeb a thlodi. Mae disgwyliadau’r cyhoedd hefyd wedi symud, gyda rhoddwyr a buddiolwyr fel ei gilydd yn disgwyl mwy o dryloywder, cynhwysiant ac effaith gan waith elusennol.
PWYSAU AMGYLCHEDDOL
Mae pwysau allanol ac amgylcheddol hefyd yn chwarae rôl sylweddol mewn llunio risg. Gall safbwyntiau’r cyhoedd newid yn gyflym, a gall cyhoeddusrwydd negyddol niweidio gallu mudiad i godi arian a gweithredu yn fawr iawn. Mae cydberthnasau â chyllidwyr yn fwyfwy sensitif, ac mae newidiadau demograffig yn newid proffil rhoddwyr ac anghenion defnyddwyr gwasanaethau. Gall newidiadau polisi gan y llywodraeth hefyd greu ansicrwydd, yn enwedig pan fydd blaenoriaethau cyllid yn newid heb lawer o rybudd.
RHEOLI’R RISGIAU I ELUSENNAU
Cydymffurfiaeth reoleiddio sy’n parhau i fod yn gonglfaen i reoli risg yn effeithiol. Rhaid i elusennau sicrhau eu bod yn bodloni rhwymedigaethau cyfreithiol ac adrodd sy’n briodol i’w maint a’u strwythur. Mae hyn yn cynnwys trethiant, diogelu data ac adrodd i gyrff rheoleiddio. Yn aml, mae gofyn am gyngor proffesiynol yn hanfodol i lywio trwy’r maes cymhleth hwn.
Adnabod risg yw’r cam cyntaf i reoli risg yn effeithiol. Unwaith y gwyddys beth yw’r risgiau, gall elusennau gymhwyso un o bedair strategaeth sylfaenol. Gallant drosglwyddo’r risg, yn aml drwy yswiriant neu drwy ei chontractio’n allanol. Gallant osgoi’r gweithgaredd yn gyfan gwb os oes mwy o risg na buddion. Gallant liniaru’r risg trwy gael cynlluniau, prosesau neu reolaethau gwell. Gallent ddewis derbyn rhai risgiau os credir bod y gweithgaredd yn hanfodol ac nad oes modd osgoi’r risg.
DEFNYDDIO RHEOLI RISG FEL ADNODD
Mae rheoli risg yn ymwneud â mwy nag osgoi niwed; mae’n ymwneud â galluogi elusennau i wneud penderfyniadau gwybodus a chynllunio’n strategol. Pan mae’n cael ei wneud yn dda, mae’n caniatáu i fudiadau fanteisio ar gyfleoedd yn hyderus, gan wybod bod ganddynt fframwaith yn ei le i ymdrin â phroblemau. Mae hefyd yn cynorthwyo i gyflawni nodau hirdymor trwy leihau’r tebygolrwydd o argyfyngau a sicrhau bod risgiau yn cael sylw cyn iddynt ddod yn broblemau.
Yn y pen draw, saif y cyfrifoldeb dros reoli risg gydag ymddiriedolwyr yr elusen. Er y gall agweddau gweithredol gael eu dirprwyo i staff neu gynghorwyr allanol, rhaid i ymddiriedolwyr fod yn rhan weithredol o osod y paramedrau ar gyfer rheoli risg ac adolygu eu canlyniadau. Mae eu harweinyddiaeth yn hanfodol i sefydlu diwylliant o atebolrwydd a rhagwelediad.
YN FYR
Yn y pen draw, mae’r sector gwirfoddol yn wynebu amgylchedd risg sy’n fwy dynamig ac anodd nag erioed. Mae angen rhoi sylw arbennig i bwysau ariannol, gweithredol, technolegol, cymdeithasol a rheoleiddio a rheoli’n rhagweithiol. Trwy ddeall y risgiau hyn a mabwysiadu dull strategol o ymdrin â llywodraethiant a chynllunio, gall elusennau fod yn wydn o hyd a pharhau i gyflawni effaith ystyrlon yn y cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu.
Os hoffech ddysgu mwy am reoli risgiau eich elusen, cysylltwch â’n tîm profiadol tu hwnt drwy anfon e-bost atom neu *fynd i’n gwefan.
YNGLŶN Â’R AWDURON
Darllenwch fwy am *Michael Jones, Partner, a *Johnathan Dight, Cyfarwyddwr Cyswllt Bevan Buckland.
*Saesneg yn unig