Mae Anna Nicholl, Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygu’r Sector, yn rhannu ei barn ar adroddiad newydd ar drawsnewid a arweinir gan y gymuned a rôl y sector gwirfoddol mewn grymuso cymunedau.
SGWRS WAHANOL
Wrth symud o un cyfarfod ar-lein gefn-wrth-gefn i’r llall ar brynhawn diflas yng nghanol mis Rhagfyr, cliciais ar fy nolen Zoom nesaf. Yn sydyn, roeddwn i mewn rhywbeth gwahanol. Roedd egni mwy ffres, gofod am sgyrsiau gwahanol gyda phobl yn arwain newid mewn gwahanol ffyrdd. Roedd hwn yn ofod i wrando, ac roedd y gan y bobl roeddwn i’n gwrando arnyn nhw straeon ysbrydoledig tu hwnt i’w hadrodd.
Roedd y digwyddiad gwrando hwn yn rhan o raglen drawsnewid dan arweiniad cymuned a oedd wedi bod yn rhedeg am yr wyth mis diwethaf. Roedd y rhaglen yn canolbwyntio ar ddysgu o dair menter wahanol iawn a arweiniwyd gan gymuned – Credu ym Mhowys sy’n gweithio gyda gofalwyr i gyd-gynllunio gofal arloesol; Llanrhian yn Sir Benfro sy’n ceisio cysylltu cymunedau amrywiol; a Chwmbwrla yn Abertawe sy’n diwallu anghenion lleol drwy drefnu digwyddiadau a gweithgareddau.
DATBLYGU’R RHAGLEN
Cafodd y syniad ar gyfer y rhaglen ei fathu gan grŵp o arweinwyr o’r sector gwirfoddol – a phartneriaid ehangach (grŵp cynghori anffurfiol gan Ddyfodol Gwell Cymru a wnaeth hefyd oruchwylio prosiect Rhagolwg Cymunedol).
Yn ystod y pandemig, gwnaethon ni weithio gyda’n gilydd i greu gweledigaeth ar gyfer y gymdeithas roedden ni eisiau helpu i’w hadeiladu drwy’r adferiad. Mae’n weledigaeth am ddyfodol gwyrddach, tecach ac iachach, gyda mwy o gymunedau wedi’u grymuso a sector gwirfoddol bywiog wrth ei wraidd.
Gwnaethon ni drafod sut gallem ni ddefnyddio’r aflonyddwch sydyn a grëwyd gan y pandemig i symud systemau er gwell dros y cyfnod mwy hirdymor. Beth allem ni ei ddysgu o sut mae cymdeithas – gan gynnwys ein sector – yn ymateb i’r argyfwng?
Mae gweithredu lleol a chymunedol wedi bod yn ganolog i’n hymateb i’r pandemig. Roedd y grŵp eisiau edrych ar sut gallwn ni gynnal hyn er mwyn cefnogi’r gwaith adfer.
Wrth edrych yn fanylach, roedd y graddau y gallai pobl ddod ynghyd yn lleol a gwneud mwy o wahaniaeth i’w cymunedau yn dibynnu ar gydberthnasau a strwythurau mwy hirdymor (gweler Gwirfoddoli a llesiant yn ystod y pandemig a gwaith ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) ar ymatebion cymunedau i unigrwydd ochr yn ochr ag amrediad o dystiolaeth ehangach ar hyn).
Codwyd cwestiynau pwysig hefyd ynghylch pwy sy’n cymryd rhan a phwy sy’n elwa. Roedden ni eisiau edrych yn ddyfnach – pa gydberthnasau, adnoddau a systemau sydd eu hangen arnom ni i alluogi gweithredu dan arweiniad cymuned i hybu newid trawsnewidiol, cadarnhaol yn y dyfodol?
Yn ein trafodaethau cynnar, roedden ni i gyd yn dra ymwybodol o’r siambrau atsain rydyn ni’n byw ynddyn nhw fwy a mwy. Nid oedden ni eisiau i hyn fod yn arweinwyr cenedlaethol yn siarad â’i gilydd yn unig, neu i’r ffocws fod ar bolisïau gwych pan wyddom ni mai’r ymarfer yn aml yw’r her go iawn.
Nid oedden ni hyd yn oed eisiau canolbwyntio ar yr hyn sydd angen digwydd ar lefel gymunedol yn unig. Y rhwystrau y mae cymunedau yn eu profi’n aml wrth geisio creu newid yw’r rheini sydd yn y system ehangach.
Yn hytrach, roedd y grŵp eisiau datblygu rhaglen i gysylltu ar draws gweithgareddau cymunedol, lleol, rhanbarthol a chenedlaethol; ac ar draws ymarferwyr a llunwyr polisi. Roedden ni eisiau helpu i greu ymatebion polisi drwy ystyried yr ymarfer.
Yn ffodus, roedd Llywodraeth Cymru yn cytuno. Mae cyflwyno’r rhaglen yn ymrwymiad yn adroddiad Adfer ar ôl Covid Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, a gytunwyd gan Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog bryd hynny.
Cytunodd Llywodraeth Cymru i gyllido’r gwaith a chafodd tîm ‘People Powered Results’ Nesta ei gomisiynu i’w gyflawni, gyda chymorth grŵp arweinyddiaeth genedlaethol a oedd yn cynnwys arweinwyr o’r sector gwirfoddol ynghyd â Llywodraeth Cymru, CLlLC, Un Llais Cymru a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.
Yn bwysicach na hynny, yn dilyn gwahoddiad agored, gweithiodd y tri grŵp dan arweiniad y gymuned drwy hyfforddiant a mentora Nesta i fyfyrio ar bedwar cwestiwn a rhannu’r hyn roedden nhw’n meddwl y gallai helpu gweithredu cymunedol i ffynnu.
GWRANDO AM Y CHWYLDRO TAWEL
Roedd y digwyddiad gwrando roeddwn i wedi cael cymaint o ysbrydoliaeth ohono wedi’i ddylunio i nodi myfyrdodau’r grwpiau cymunedol hynny.
Roedd gwrando ar y storïwyr o bob grŵp yn wefreiddiol tu hwnt. Maen nhw’n creu newid ar lefel gymunedol sydd nid yn unig yn drawsnewidiol i unigolion, ond sydd hefyd yn cyfrannu datrysiadau i heriau ehangach fel unigrwydd, y newid yn yr hinsawdd a thai fforddiadwy.
Roedden nhw hefyd yn straeon cymhleth. Mae angen dewrder i greu’r newid hwn. Mae angen amser ac ymrwymiad. Yn aml, bydden nhw’n llwyddo yng ngŵydd adfyd, neu ddim yn llwyddo o gwbl.
Weithiau, byddai hyn o ganlyniad i fethiannau sefydliadol – gan gynghorau, y Llywodraeth neu gyllidwyr. Weithiau, byddai o ganlyniad i fethu â chael clust i wrando’n go iawn arnyn nhw neu fethu â chael eu gwerthfawrogi gan bobl eraill yn y system ehangach. Yn aml, cydberthnasau a oedd yn dibynnu ar ei gilydd oedd yr allwedd i lwyddo, ac yn yr un modd, y rhain oedd yn creu’r rhwystr pan nad oedden nhw’n bodoli.
Mae rhai rhwystrau hefyd o fewn mudiadau cymunedol. Mae’r rhain yn cynnwys diffyg amser i fyfyrio neu gytuno ar weledigaeth ar gyfer y dyfodol, yn enwedig pan fydd gan aelodau amcanion ac uchelgeisiau gwahanol.
Mae’r newid y mae’r bobl hyn yn ei wneud, fel y disgrifiodd rhywun ef, yn ‘chwyldro tawel’. Mae angen i’r straeon hyn gael eu clywed yn uwch a theithio ymhellach.
GWAITH I NI I GYD
Mae mynd ati’n go iawn i rymuso cymunedau er mwyn creu’r newid cadarnhaol hwnnw yn waith i ni i gyd. Mae angen i ni edrych arno fel system ehangach gyda newidiadau y gall pob un ohonom ni – o wirfoddolwyr yn y gymuned i weinidogion yn y llywodraeth – eu harwain er mwyn helpu i’w gwireddu. I weld lle gallech chi ffitio yn y gwaith, edrychwch ar yr adroddiad.
Os hoffech chi weithio gyda CGGC a phartneriaid i roi’r dysgu hwn ar waith, cysylltwch â ni drwy policy@wcva.cymru
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am raglen gweithredu ymarferol CGGC yn y blogiau hyn:
Cysylltu Cymunedau: Mae gwrando yn allweddol gan Babs Lewis.
Creu cymunedau cysylltiedig: mwy na logisteg gan y Cynghorydd Neil Prior