Mae Chris Buchan, arweinydd tîm Polisi a Chymorth Trydydd Sector Llywodraeth Cymru, yn amlinellu’r camau sy’n cael eu cymryd i sicrhau bod y cod ymarfer diwygiedig ar gyfer ariannu yn cael ei ddefnyddio ar draws Llywodraeth Cymru.
Ym mis Ebrill, lansiwyd y Cod Ymarfer diwygiedig ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector yn swyddogol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS. Cymeradwywyd y Cod diwygiedig gan y Cabinet. Mae cyhoeddiad 2025 o’r Cod yn canolbwyntio ar bum prif egwyddor i lunio grantiau’n dda:
- Sgyrsiau cynnar a pharhaus – Sicrhau ymgysylltiad ystyrlon a rheolaidd rhwng cyllidwyr a chyrff y trydydd sector/sector gwirfoddol.
- Hyblygrwydd – Sicrhau y gall y cyllidwr a’r mudiad a gyllidwyd awgrymu addasiadau y bydd y ddwy ochr yn cytuno arnynt os yw’r dystiolaeth neu’r amgylchiadau yn cefnogi’r angen.
- Tegwch – Sicrhau mynediad teg i bawb – creu amgylchedd cyllido priodol sy’n cael gwared ar rwystrau i gynhwysiant ac yn meithrin cefnogaeth.
- Gwerthfawrogi a chanlyniadau – Sicrhau ein bod yn seilio ein penderfyniadau cyllido ar ystyriaeth eang o werthoedd a chanlyniadau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd.
- Dulliau cyllido priodol – Sicrhau bod cyllidwyr yn ystyried yr holl opsiynau ac yn dewis y dull(iau) priodol a fydd yn cyflawni’r canlyniadau cytunedig yn effeithiol drwy gydol y cyfnod cyllido.
Fe gymerodd hi ddwy flynedd i’r Cod diwygiedig gael ei lunio, ond gwnaeth y lansiad wirioneddol nodi dechrau’r gwaith gyda phartneriaid i barhau i godi ymwybyddiaeth a hwyluso’r newid ymddygiad sydd ei angen i greu amgylchedd cyllido gwell.
GWEITHREDU
O ochr Llywodraeth Cymru, mae hyn yn golygu gweithio gyda swyddogion polisi a rheolwyr grantiau ar draws Llywodraeth Cymru, ynghyd â’n uwch reolwyr, i ddylanwadu ar sut mae cyllid yn cael ei weinyddu.
Trwy weithio gyda swyddogion polisi a rheolwyr grantiau, rydym yn gobeithio dylanwadu ar newid ymddygiadol o’r gwaelod i fyny. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd hwn yn cael effaith gynyddol ar draws y sector cyhoeddus gan fod cyllid sector cyhoeddus yn aml yn dechrau gyda ni. Rydym yn cydnabod y bydd hon yn broses hirdymor, ond mae eisoes wedi dechrau:
- Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, a’r Cabinet llawn, ymrwymo’n ddiweddar i gytundebau cyllido mwy hirdymor lle bydd hyn yn briodol.
- Mae Canolfan Ragoriaeth Grantiau Llywodraeth Cymru wedi cynnal sesiynau ymwybyddiaeth i hysbysu swyddogion cyllido o’r polisi ar gyllid mwy hirdymor ac i roi cyngor ar y ffordd orau o’i roi ar waith. Daeth mwy na 200 o bobl i’r sesiynau hyn.
- Mae Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, Dr Andrew Goodall, wedi cytuno i fod yn hyrwyddwr i’r Cod ar draws y sector cyhoeddus. Andrew yw ein swyddog uchaf, a gall ef ddylanwadu o’r brig i lawr. Golyga hyn ein bod yn gweithio o’r ddau gyfeiriad i godi ymwybyddiaeth ac i hwyluso’r newid mewn ymddygiad sydd ei angen arnom.
- Cyfeirir at y Cod yn Safonau Gofynnol ar gyfer Cyllid Grant Llywodraeth Cymru. Defnyddir y ddogfen hon gan holl reolwyr grantiau Llywodraeth Cymru.
- Mae hefyd yn ystyriaeth i swyddogion polisi sy’n datblygu rhaglenni grant newydd fel rhan o broses sicrhau grantiau Llywodraeth Cymru.
Yn y dyfodol byrdymor, byddwn yn cyflwyno sesiynau ymwybyddiaeth pellach i swyddogion Llywodraeth Cymru yn ystod mis Medi, gan ystyried pob agwedd ar y Cod. Y pwnc cyntaf, un sy’n diddori llawer o bobl, yw adennill costau llawn.
BETH ALL Y SECTOR GWIRFODDOL EI WNEUD?
Mae gan y sector gwirfoddol rôl bwysig i’w chwarae mewn codi ymwybyddiaeth o’r Cod ymhlith rhanddeiliaid y sector cyhoeddus (yn enwedig byrddau iechyd ac awdurdodau lleol) a chyflwyno enghreifftiau o ymarfer da a gwael i’r Is-bwyllgor Cyllid a Chydymffurfiaeth.
Gallwn ni ddefnyddio enghreifftiau o ymarfer da i ddangos pwysigrwydd dilyn egwyddorion y Cod, yr effaith bositif y gall ei gael ar fudiadau a’u buddiolwyr, ac felly’n helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei nodau.
Rydym eisoes wedi derbyn rhai enghreifftiau o le nad yw cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi bodloni’r disgwyliadau. Trwy weithio gyda thimau unigol, gallwn geisio gwella’r ymarfer ar gyfer y dyfodol a datrys problemau yn y presennol. Mae hefyd yn bwysig i ni glywed am yr enghreifftiau da hynny, gallwn ddefnyddio’r rhain i amlygu buddion defnyddio’r Cod.
CYSYLLTWCH Â NI
I rannu enghreifftiau da neu wael o broses llunio grantiau Llywodraeth Cymru ar sail yr egwyddorion a’r arweiniad a roddir yn y Cod gallwch gysylltu â ni, y tîm Polisi a Chymorth Trydydd Sector, yn uniongyrchol yn thirdsectorenquiries@llyw.cymru. Gallwch hefyd gysylltu drwy dîm CGGC (gan gynnwys os ydych chi eisiau rhannu enghraifft yn ddienw) yn cyllido@wcva.cymru.
Rydym ni’n gobeithio mai hwn yw dechrau proses â chanlyniadau positif iawn.