Dyn yn siarad â grŵp o bobl yn eistedd mewn cylch

Rhoi sbotolau mwy llachar ar ofal a chymorth yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 19/03/26 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Albert Heaney

Mae Albert Heaney, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru, yn siarad â ni am bartneriaeth, diben a chefnogaeth ar gyfer gofal cymdeithasol a gwaith gwirfoddol ar y lefelau uchaf.

Gofal cymdeithasol yw un o bwerdai tawel ein cymunedau. Mae wedi’i adeiladu ar gydberthnasau, ymddiriedaeth a’r gred syml fod pawb yn haeddu byw’r bywyd sy’n bwysig iddyn nhw. Wrth wraidd hyn mae ein mudiadau rhagorol yn y sector gwirfoddol, sy’n greadigol a chysylltiedig ac wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn y cymdogaethau y maen nhw’n eu gwasanaethu.

Mae effaith y sector gwirfoddol mewn gofal cymdeithasol yn anferthol. Maen nhw’n cryfhau cymunedau, yn atal problemau rhag gwaethygu ac yn cefnogi pobl mewn ffyrdd sy’n aml yn newid eu bywydau. Ac eto, yn rhy aml o lawer, nid yw pobl yn gweld y gwaith hwn. Pur anaml mae’r storïau sy’n dangos gwir werth gofal cymdeithasol yn gwneud y penawdau.

Rydw i eisiau helpu i newid hynny. Gall newid go iawn dim ond digwydd pan fydd cydweithio. Trwy weithio mewn partneriaeth ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, gallwn roi sbotolau mwy llachar ar gryfderau gofal cymdeithasol a rhoi’r gydnabyddiaeth a’r proffil y maen nhw’n wirioneddol eu haeddu.

Pan fydd gofal cymdeithasol yn ffynnu, mae ein cymunedau’n ffynnu. Ac mae honno’n stori werth ei hadrodd.

FY NGHEFNDIR

Fel gweithiwr cymdeithasol, mae fy mhrofiadau rheng flaen wedi fy ngwneud i’r person yr ydw i ac wedi dylanwadu ar fy ngyrfa. Wrth i mi symud i mewn i rolau arwain o fewn awdurdodau lleol, a nawr gyda Llywodraeth Cymru, rwyf wedi glynu’n dynn at yr egwyddor y dylai’r unigolion rydyn ni’n eu helpu fod yn ganolog i bob penderfyniad rydw i’n ei wneud.

PRIF SWYDDOG GOFAL CYMDEITHASOL CYMRU

Yn fy rôl fel Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru, rwy’n hyrwyddo gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol ar y lefelau uchaf o fewn a thu allan i’r llywodraeth, sy’n cynnwys cynghori Gweinidogion Cymru.

Rwy’n ceisio sicrhau bod ein system yn adlewyrchu’r gwerthoedd rydyn ni’n eu rhannu o ran urddas a chynhwysiant, fel y nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rwy’n gwybod y gall hyn swnio fel iaith bolisi nad yw bob amser yn cysylltu â realiti gweithgareddau bob dydd. Dyna pam rwyf wedi ceisio ystyried fy ngwreiddiau fel gweithiwr cymdeithasol a throsi polisi yn welliannau cyffyrddadwy, go iawn i’r maes gofal cymdeithasol.

Un o’r ffyrdd pwysicaf y gallwn ni wneud hyn yw drwy gydnabod y gall newid gwirioneddol a pharhaol ddim ond digwydd pan mae pawb yn rhan o’r sgwrs. Rydyn ni’n cyflawni cymaint mwy pan rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd. Magu a chryfhau’r ysbryd cydweithredol hwn yw un o’m hymrwymiadau craidd.

Waeth a wyf yn ymhél â defnyddwyr gwasanaethau neu’n gweithio gydag arweinwyr ar draws y sector gofal cymdeithasol, rwyf bob amser yn ceisio gwrando, dysgu a chasglu syniadau. Gyda’i gilydd, mae’r mewnwelediadau hyn yn ein helpu ni i lunio system gofal cymdeithasol sy’n wirioneddol gyflwyno’r hyn sy’n bwysig i’r rhan fwyaf o bobl, lle bynnag y maen nhw’n byw yng Nghymru.

SWYDDFA GENEDLAETHOL GOFAL A CHYMORTH

I’m cynorthwyo i yrru’r symudiad tuag at wasanaethau sydd wastad o ansawdd uchel ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn ledled Cymru, gwnaethom sefydlu’r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth yn 2024. Nod fy nhîm yw cysylltu polisi ac ymarfer trwy weithio ochr yn ochr â’r sector gwirfoddol.

Rydyn ni’n datblygu diwylliant cryfach o gydweithio gydag arweinwyr sector a phartneriaid cyflenwi. Rydyn ni eisiau datblygu cydberthnasau ystyrlon â defnyddwyr gwasanaethau, eu teuluoedd a gofalwyr di-dâl.

Rydyn ni hefyd wedi bod yn cryfhau’r ymarfer ar draws y sector gofal cymdeithasol trwy gydweithio ar osod safonau cenedlaethol a hyrwyddo arloesedd.

Ochr yn ochr â hyn, rydyn ni’n mynd i’r afael â’r heriau uniongyrchol drwy alluogi ein gweithlu, gwella’r integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol a’i gwneud hi’n haws i bobl gael gafael ar y cymorth cywir. Mae’r gwaith sylfaenol hwn yn ein symud ni gam wrth gam tuag at ein huchelgais hirdymor i ddatblygu ‘Gwasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol i Gymru (NCSS)’.

BETH YW GWASANAETH GOFAL A CHYMORTH CENEDLAETHOL I GYMRU?

Bydd hyn yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl, a bydd angen i ni weithio ar hyn gyda’n gilydd. Bydd y daith yn cymryd tua deng mlynedd. Rydyn ni wedi dechrau ymhel â grwpiau ledled Cymru, o’r rheini sy’n derbyn gofal a chymorth, i gyfarwyddwyr gofal cymdeithasol awdurdodau lleol. Rhaid iddo gael ei lunio trwy gyd-gynhyrchu.

Fel chwaraewr hanfodol yn y gwaith o ddarparu gofal a chymorth, mae angen i ni sicrhau bod y sector gwirfoddol wrth y bwrdd a chyda llais clir. Mae’r trafodaethau wedi dechrau yn gofod3 (cynhadledd flynyddol CGGC), y Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod Genedlaethol.

Fe wnes i gwrdd â gofalwyr ifanc yn y Senedd ac rwyf wedi bod yn gwrando ar arweinwyr fforwm o Gynghrair Pobl Hŷn Cymru. Yr hyn rydw i’n ei glywed yw bod bodloni newidiadau demograffeg Cymru yn golygu creu Gwasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol wedi’i ddylunio ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor, sydd ag atal a chymorth cymunedol wrth ei wraidd.

Efallai bod hyn yn swnio’n uchelgeisiol, ond mae gan Gymru hanes balch o gyflawni heriau brawychus trwy gydweithio. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn dangos sut gall cydweithio greu datrysiadau beiddgar, hirdymor, ac rwy’n credu y gall yr NCCS fod yn enghraifft arall o Gymru yn arwain y ffordd.

YMUNWCH Â’R SGWRS

Felly dewch i ymuno â’r sgwrs hon wrth i’r gwaith ddatblygu. Fe wnes i gwrdd â Phrif Swyddogion y Cynghorau Gwirfoddol Sirol ym mis Mawrth, bydd fy nhîm yn gofod3 ym mis Mehefin a bydd mwy o gyfleoedd i gysylltu dros yr haf. Mae creadigrwydd ac arloesedd y sector gwirfoddol yn rhinweddau hanfodol rwyf yn gobeithio y byddwch chi’n dod gyda chi wrth i ni gydgynllunio dyfodol gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Am ragor o wybodaeth, ewch i’r dudalen we Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth.