Dyma Gethin Edwards, Arweinydd Tim Hybu Comisiynydd y Gymraeg yn sôn am bwysigrwydd y Gymraeg fel sgil wrth wirfoddoli a sut allwch chi fanteisio ar gymorth swyddfa’r Comisiynydd.
Dwi’n arwain tîm o bump sy’n cefnogi elusennau a busnesau canolig a mawr ledled Cymru, ein nod yw dangos buddion defnyddio’r Gymraeg ac i’ch helpu chi i ddatblygu eich gwasanaethau ychydig ar y tro, pob dydd.
Neges o ddiolch
Cyn dweud dim byd arall, hoffwn ddiolch yn fawr i’r holl bobl sy’n defnyddio’r Gymraeg wrth wirfoddoli. Boed hynny’n gwirfoddoli i hyrwyddo’r Gymraeg neu’n defnyddio’r Gymraeg fel rhan naturiol o’r gwaith. Os ydych chi’n gwirfoddoli yn eich banc bwyd lleol, yn ateb galwadau ffôn neu’n cludo prydau bwyd mewn argyfwng, mae siarad gyda rhywun yn eu hiaith gyntaf wastad yn cael ei werthfawrogi.
Mewn cyfnod arferol, trwy wirfoddoli, mae sefydliadau’n gallu cynnig awyrgylch ble gall pobl gymdeithasu’n Gymraeg neu ymarfer eu Cymraeg i gynyddu hyder a gwella eu gallu mewn sefyllfa anffurfiol. Gall cynnig ffyrdd i bobl ifanc sy’n gadael y system addysg Gymraeg barhau i ddefnyddio eu Cymraeg ac i rai sy’n dal i fod mewn addysg, fod yn ffordd o ddefnyddio’r Gymraeg y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.
Yn ystod y cyfnod hwn o hunan ynysu, gall derbyn gwasanaeth gan wirfoddolwr yn eich iaith gyntaf wneud byd o wahaniaeth. Wrth gwrs, mae’r gwirfoddolwyr hefyd yn cael y fantais o allu defnyddio ac ymarfer eu Cymraeg.
Ar lefel personol
Fel sawl person ar draws Cymru, rwyf wedi bod yn gwneud mwy o wirfoddoli yn ystod yr argyfwng. Rwy’n siopa am fwyd a nwyddau hanfodol i bobl sy’n hunan ynysu. Pan ddeallodd y trefnwyr fy mod i’n siarad Cymraeg fe wnaethon nhw fy mharu gyda Lillian Thomas sy’n 77 a hefyd yn byw yn Llanilltud Fawr.
I fi, mae’n deimlad da gwybod eich bod yn helpu pobl sydd mewn angen yn ystod yr argyfwng cenedlaethol. Dwi wedi bod yn cael sgyrsiau bach gyda Lillian pan fyddai’n galw yno gyda’i nwyddau. Fyddai hefyd yn ei ffonio ar adegau eraill i wneud yn siŵr ei bod yn iawn ac i sgwrsio. Dwi’n teimlo fod gallu gwneud hynny’n Gymraeg yn helpu i adeiladu perthynas lle mae rhywun yn teimlo eu bod yn gallu ymddiried ynddoch chi pan fo rhywun yn amlwg yn fwy cyfforddus yn siarad Cymraeg.
Dyma oedd yr adborth ges i gan Lillian, ‘Fi o Bontyberem yn wreiddiol yng ngorllewin Cymru. Tyfais lan yn siarad Cymraeg a dyna yw fy iaith gyntaf dal i fod. Sai’n cael y cyfle i’w ddefnyddio’n aml iawn nawr yn Llanilltud Fawr, felly mae’r cyfle i sgwrsio gyda Gethin yn Gymraeg a chael help ganddo wedi bod yn grêt. Mae o wedi gwneud gwahaniaeth mawr mewn cyfnod mor anodd pan fi’n gweld isie’n ffrindiau a’n nheulu.’
Gweithio gyda’r Cynghorau Gwirfoddol Lleol
Fel tîm rydym yn gweithio yn agos gyda nifer o’r Cynghorau Gwirfoddol Lleol ledled Cymru, dyma ychydig o adborth ges i yn ddiweddar gan Carwyn Humphreys sy’n Gydlynydd Gwirfoddoli gyda Mantell Gwynedd:
‘Cymraeg ydi’r dewis iaith naturiol yng Ngwynedd ac mae’r Gymraeg yn sgil holl bwysig pan rydym yn recriwtio gwirfoddolwyr i sefydliadau. Rydym hefyd yn gweld unigolion sydd am wirfoddoli fel ffordd o ddysgu Cymraeg. Rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau fod sefydliadau’n rhoi gwybod beth yw eu gofynion ieithyddol er mwyn cyrraedd gofynion eu cleientiaid. Nid rhywbeth tocenistaidd ydi gallu siarad Cymraeg yma, mae’n rhan naturiol o’r gymuned.’
Cynghori Cyngor Gweithredu Gwirfoddoli Cymru
Rydym hefyd wedi bod yn cynnig arweiniad i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Cafwyd sgwrs adeiladol yn ddiweddar gyda Felicitie Walls, Rheolwr Gwirfoddoli CGGC. Trafodwyd yr ystadegau ar siaradwyr Cymraeg sydd ymysg y twf anferthol o gofrestriadau newydd ar wefan Gwirfoddoli Cymru. Dyma oedd gan Flik i ddweud:
‘O’r 18,619 o bobl sydd wedi cofrestru ar blatfform Gwirfoddoli Cymru, roedd bron 33% yn nodi’r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl neu â rhywfaint o Gymraeg (1 ymhob 3)’
‘O’r 11,000 o bobl sydd wedi cofrestru ers Mawrth 1af, gwelwyd bod 31% yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl neu â rhywfaint o Gymraeg (eto, bron 1 ymhob 3)’
‘Felly mae’r ystadegau yn cynnig sail adeiladol wrth i ni geisio gwella’r cyswllt rhwng anghenion yr elusennau sy’n chwilio am wirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg gyda sgiliau’r gwirfoddolwyr’
‘Gall Cefnogaeth Trydydd Sector Cymru helpu hefyd a byddant yn rhyddhau taflenni gwybodaeth sydd newydd gael eu diweddaru ar “hyrwyddo’r Gymraeg trwy wirfoddoli” a “denu gwirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg”. Dilynwch @VolWales ar Twitter neu ymunwch â rhestr bostio CGGC i gael gwybod pryd fydd y canllawiau hyn ar gael.’
‘Mae gwefan Gwirfoddoli Cymru yn cynnig llwyfan er mwyn recriwtio gwirfoddolwyr, gall sefydliadau llwytho cyfleoedd i fyny i’r system a thagio cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg gyda #Cymraeg’
Edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio gyda CGGC wrth wella’r gwasanaethau.
Sut allwn ni fel tîm helpu elusennau ledled Cymru?
Hoffai’ch mudiad chi ddenu mwy o wirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg?
Dyma ychydig o syniadau – Recriwtio gwirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg:
- Casglwch wybodaeth am sgiliau iaith pob gwirfoddolwr wrth iddyn nhw gofrestru – efallai bod gennych chi siaradwyr Cymraeg yn barod!
- Meddyliwch am ba sgiliau Cymraeg sydd eu hangen – efallai mai sgwrsio anffurfiol yn y Gymraeg rydych am i’ch gwirfoddolwr ei wneud – dywedwch hynny yn yr hysbyseb
- Dangosodd ein hymchwil i’r Gymraeg a gwirfoddoli fod siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o wirfoddoli mewn ffyrdd mwy anffurfiol, efallai gallwch eirio’r hysbyseb mewn ffordd sy’n fwy anffurfiol
- Gofynnwch i rwydweithiau Cymraeg eich helpu – efallai gall eich Menter Iaith leol neu’r Urdd eich helpu. Tagiwch fudiadau Cymraeg perthnasol ar y cyfryngau cymdeithasol – cofiwch am yr Awr Gymraeg #yagym
- Mae siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o fod eisiau cefnogi rhywbeth sy’n lleol – os ydych chi’n elusen genedlaethol, pwysleisiwch pwy fydd y gwirfoddolwr yn eu helpu trwy’ch mudiad chi.
Cymorth ehangach gan y Tim Hybu wrth gynllunio eich gwasanaethau:
- Cymorth un i un i chi gynllunio a chyflawni eich darpariaeth Gymraeg.
- Cynlluniau Datblygu’r Gymraeg
- Canllawiau a syniadau cyflym wedi eu selio ar sail ymchwil a phrofiadau go iawn
- Hyfforddiant a grwpiau rhwydweithio – cofrestrwch gyda ni ddysgu mwy
- Mynediad at wasanaeth prawf ddarllen testun Gymraeg
I wybod rhagor cysylltwch gyda hybu@comisiynyddygymraeg.cymru