Sesiwn galw heibio ar reoli ynni ar gyfer mudiadau gwirfoddol yn nigwyddiad gofod3 CGGC

Rheoli risg ynni mewn adegau ansicr

Cyhoeddwyd: 22/07/26 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Giles Hankinson

Mae Giles Hankinson, Prif Swyddog Gweithredol Utility Aid yn siarad â ni am pam ddylai strategaeth prynu ynni eich mudiad gwirfoddol ganolbwyntio ar reoli risg.

Pan na ellir dyfalu camau nesaf marchnadoedd ynni, nid yw dewis y contract cywir yn ymwneud â cheisio rhagweld y dyfodol. Mae’n ymwneud â deall awydd eich mudiad am risg a gwneud penderfyniadau gwybodus sy’n diogelu eich cyllidebau.

Yn Utility Aid*, rydyn ni’n gweithio gyda mwy na 4,500 o elusennau a mudiadau nid-er-elw. Un peth rydyn ni wedi’i ddysgu yw bod caffael ynni yn gweithio orau pan fydd penderfyniadau yn seiliedig ar wydnwch hirdymor yn hytrach na rhagfynegiadau marchnad tymor byr.

Y DARLUN CYFREDOL

Mae marchnadoedd ynni yn parhau i gael eu dylanwadu gan ystod o ffactorau economaidd a geowleidyddol byd-eang. Er na all neb ddweud yn sicr beth fydd yn digwydd dros y blynyddoedd nesaf, mae ansicrwydd yn parhau i chwarae rhan fawr mewn prisiau.

O ganlyniad, mae llawer o fudiadau yn gofyn ai contract un, dwy neu dair blynedd yw’r dewis cywir. D’oes dim un ateb yn addas i bawb, ond dylai’r penderfyniad fod yn seiliedig ar reoli risg yn hytrach na rhagdybiaethau ynghylch ble allai prisiau symud.

Mae’n naturiol gobeithio y bydd prisiau’n gostwng yn y dyfodol. Ond yn y pen draw, mae dewis contract byrrach dim ond am eich bod yn disgwyl prisiau is yn rhagfynegiad yn hytrach na’n sicrwydd.

Rydyn ni wedi gweld mudiadau yn elwa ar gloi prisiau’n gynnar, ac rydyn ni hefyd wedi gweld rhai eraill yn wynebu costau uwch o lawer pan symudodd marchnadoedd yn wahanol i’r disgwyliadau. Y gwir amdani yw na all yr un brocer, cyflenwr neu gwsmer ragweld prisiau ynni cyfanwerthol y dyfodol bob amser.

Yn lle gofyn, ‘A fydd prisiau’n gostwng?’, cwestiwn mwy defnyddiol yw: ‘Faint o risg ariannol mae ein mudiad yn barod i’w derbyn os nad fyddan nhw?’

CWESTIYNAU I’CH BWRDD EU HYSTYRIED

Cyn penderfynu ar hyd eich contract nesaf, gallai fod yn ddefnyddiol trafod:

  • Pa lefel o risg ariannol ydyn ni’n gyfforddus i’w chymryd?
  • Sut byddai costau ynni uwch yn effeithio ar ein mudiad, ein gwasanaethau neu ein buddiolwyr?
  • A fyddai mwy o sicrwydd cyllideb yn ein helpu i gynllunio’n fwy effeithiol dros y blynyddoedd nesaf?

Mae’r sgyrsiau hyn yn helpu i sicrhau bod y penderfyniad yn adlewyrchu strategaeth ariannol gyffredinol y mudiad yn hytrach na dim ond canolbwyntio ar y posibilrwydd y bydd prisiau yn symud yn y dyfodol.

DEALL MARCHNAD HEDDIW

Er ei bod hi’n amhosibl rhagweld prisiau ynni i ddod, mae’n werth cydnabod bod marchnadoedd yn parhau i gael eu dylanwadu gan ffactorau gan gynnwys:

  • Gwrthdaro rhyngwladol a thensiynau geowleidyddol.
  • Cyflenwad a galw am ynni byd-eang.
  • Polisïau a rheoliadau’r llywodraeth.
  • Gwydnwch a sicrwydd y seilwaith.
  • Amodau economaidd ehangach.

Mae’r rhain i gyd yn ffactorau a all gyfrannu at anwadalrwydd prisiau dros oes contract ynni.

OS MAI SICRWYDD CYLLIDEB YW EICH BLAENORIAETH

I fudiadau ag awydd isel am risg ariannol, gall contractau cwbl sefydlog roi mwy o sicrwydd dros gostau ynni yn y dyfodol. Nid yw pob contract ‘sefydlog’ yn cynnig yr un lefel o ddiogelwch. Ar hyn o bryd, dim ond nifer fach o gynnyrch cyflenwyr sy’n cael eu hystyried yn gwbl sefydlog trwy holl dymor y contract, gan gynnwys:

  • SSE – Protect (Diogelu)
  • EDF – Peace of Mind (Tawelwch Meddwl)
  • Drax – Fix for Good (Sefydlog am Byth)

Os ydych chi’n ystyried contract pris sefydlog, mae’n werth gofyn i’ch brocer neu gyflenwr esbonio beth yn gwmws sy’n sefydlog, beth sydd ddim, ac a allai unrhyw gostau ychwanegol gael eu gosod yn ystod y contract.

DIWEDD Y GÂN

D’oes dim amser perffaith i brynu ynni, ac ni all neb ragweld y farchnad yn gwbl hyderus.

Fel arfer, y penderfyniadau caffael mwyaf effeithiol yw’r rheini sy’n cydbwyso pris â risg, yn cefnogi cynllunio ariannol hirdymor ac sy’n cyd-fynd ag amcanion cyffredinol eich mudiad.

Trwy gymryd yr amser i ddeall eich awydd am risg ac edrych ar yr opsiynau sydd ar gael, gall eich mudiad wneud penderfyniad gwybodus sy’n cefnogi sefydlogrwydd ariannol a’r gwasanaethau rydych chi’n eu darparu.

CYSYLLTWCH Â NI

Mae Utility Aid wedi bod yn helpu elusennau a mudiadau nid-er-elw i reoli eu caffaeliad ynni ers bron 25 mlynedd. Os hoffech drafod eich opsiynau, mae ein tîm yma i helpu. Ewch i utility-aid.co.uk* neu ffoniwch 0808 1788 170.

DIOLCH AM EICH CEFNOGAETH

Diolch yn fawr / Big thank you i Utility Aid a fu’n ddigon caredig i noddi ein digwyddiad gofod3 diweddaraf, gan bartneru eto ag CGGC i helpu mudiadau gwirfoddol gyda phob mater sy’n gysylltiedig ag ynni.

 

*Saesneg yn unig