Dyn yn sefyll wrth fwrdd o amgylch grŵp o bobl yn eistedd i lawr

Rheoli eich hunan ac eraill

Cyhoeddwyd: 23/02/26 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth,Hyfforddiant a digwyddiadau, Awdur: Mandy Williams ac Eileen Murphy

Aiff Mandy Williams ac Eileen Murphy â ni ar daith fanwl o gwmpas ein rhaglen hyfforddi, ‘Rheoli eich hunan ac eraill’, i egluro manteision y rhaglen i arweinwyr.

BUDDSODDI YN EICH HUN

Yn aml, buddsoddi yn eich datblygiad proffesiynol eich hun yw’r peth olaf ar eich rhestr o flaenoriaethau, gydag amser, capasiti ac adnoddau yn cael eu nodi fel rhesymau pam nad yw arweinwyr a rheolwyr yn buddsoddi yn eu hunain.

Er bod rhoi anghenion datblygu eich staff cyn eich rhai eich hun yn rhywbeth i’w ganmol, mae yna berygl mewn gwneud hynny. Mae pob un ohonom ni’n gyfarwydd â’r gyfatebiaeth adnabyddus o wisgo’ch siaced achub chi yn gyntaf cyn helpu eraill i wisgo’u rhai nhw, ond mae llawer o wirionedd a doethineb mewn hynny.

Yn aml, rydyn ni’n cwrdd ag arweinwyr sydd ar eu gliniau’n llythrennol, yn ceisio cydbwyso pob math o alwadau cystadleuol. Yn y trydydd sector, gofynnir i ni i gyd i amldasgio a bod yn bopeth i bawb.

Yn ei llyfr, Chief Everything Officer, mae Flóra Raffai yn siarad am yr angen i ddechrau gyda’ch hun: eich lles eich hun, eich datblygiad eich hun a’ch greddf eich hun o ran cyfeiriad ac arweinyddiaeth.

Dywedodd: Cofiwch, perffaith yw gelyn da. Dysgwch amdanoch chi eich hun: beth ydych chi’n ei wneud yn wych, beth ydych chi’n ddigon da arno a beth hoffech chi ei wella.’

HYFFORDDIANT YMARFEROL

Fel hyfforddwyr profiadol, rydyn ni’n deall pa mor anodd yw hi i roi eich hun yn gyntaf, felly rydyn ni’n falch iawn o argymell ychydig o hyfforddiant ymarferol a defnyddiol i reolwyr ac arweinwyr ar ddatblygu’r rhaglen Rheoli eich hunan ac eraill

Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd ar-lein byr (hanner diwrnod) i ddysgu sgiliau ymarferol y gallwch chi eu defnyddio i ddatblygu eich hun ac i helpu pobl eraill i ddatblygu. Mae’r rhain wedi’u datblygu o’n profiadau ein hunain o fod yn rheolwyr yn y sector gwirfoddol. Dyma’r sgiliau a’r adnoddau y byddem ni wedi hoffi gwybod mwy amdanynt pan oeddem ni’n wynebu’r pleserau a’r heriau o arwain pobl eraill.

Mae wyth modiwl i gyd. Gyda’i gilydd, maen nhw’n creu pecyn cymorth cryf i reolwyr ac arweinwyr, ond gellir hefyd eu gwneud yn unigol yn ôl eich anghenion a’ch amserlen.

Y RHAGLEN

Rydyn ni’n dechrau gyda Datblygu meddylfryd twf, sy’n gosod lefel y rhaglen gyfan. Mae’n amlygu’r ffaith bwysig y gall pob un ohonom ni, gyda’r meddylfryd cywir a gwaith caled, wella ein sgiliau a’n galluoedd. D’yn ni ddim yn gaeth i bwy ydym ni, gallwn ni i gyd newid, ni biau’r dewis.

Mae yna weithdai hefyd sy’n ymdrin â rheoli fel hyfforddiant, yn seiliedig ar adnoddau sy’n ein paratoi ni ac eraill i gael ymagwedd bositif a strategol at waith. Mae gosod nodau a gwerthoedd ac Arwain trwy newid yn cynnig damcaniaethau ac arferion ar adnabod gwerthoedd, datblygu amcanion CAMPUS (cyraeddadwy, amserol, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol a synhwyrus) ac yn ymrwymo i gynllun gweithredu ar gyfer newid.

Mae gweithdai eraill yn cynnig adnoddau penodol ar gyfer rheolwyr llinell ar Roi a derbyn adborth, sy’n cynnwys egwyddorion adborth effeithiol a strategaethau ar gyfer rhoi adborth clir yn hyderus. Mae Dirprwyo a’r ddawn o wneud na yn herio rheolwyr i ildio’r rheolaeth mewn modd cyfrifol a hyderus, gan gydnabod nad oes angen i ni ficro-reoli popeth a phob un.

Mae Dylanwadu a gwleidyddiaeth sefydliadol yn cynnig cyngor a strategaethau clir ar gyfer edrych ar eich arddull dylanwadu eich hun a chael dealltwriaeth well o wleidyddiaeth sefydliadol.

Os ydych chi’n rheoli tîm neu’n arwain grwpiau, gallai Adeiladu tîm ac Adnoddau ar gyfer gweithio mewn grŵp fod yn amhrisiadwy i’ch helpu chi i ddatblygu’n effeithiol a chael y gorau o’ch timau a grwpiau eraill. Mae’r ddau gwrs hyn yn mynd law yn llaw ac yn cynnig adnoddau a thechnegau defnyddiol iawn ynghyd â dealltwriaeth o ddynameg grŵp a rolau tîm.

RHAGOR O WYBODAETH

D’oes dim angen i chi frwydro ar eich pen eich hun mwyach felly. Ymunwch â ni ar y gweithdai ymarferol ac addysgiadol hyn a chwrdd â phobl eraill sy’n cael trafferthion tebyg i chi. Maen nhw’n fannau gwych i ddysgu a rhwydweithio.

Welwn ni chi’n fuan. Rhagor o wybodaeth am y rhaglen yma.

Mae Mandy Williams yn hyfforddwr, hwylusydd ac anogwr profiadol dwyieithog sydd wedi gweithio yn y rôl hon ar draws sectorau ers mwy na 30 mlynedd.

Mae Eileen Murphy Consultancy yn arbenigo mewn cynnig hyfforddiant a datblygiad sefydliadol, hwyluso a gwerthuso i elusennau, grwpiau cymunedol a mudiadau yn y Sector Cyhoeddus.