Menyw yn traddodi araith angerddol yn nigwyddiad RhCM Cymru, Lle i Ni: Menywod yn meddiannu’r Senedd

‘Rhaid i leisiau menywod gael eu clywed’

Cyhoeddwyd: 08/03/24 | Categorïau: Heb gategori, Awdur: Victoria Vasey

Y Diwrnod Rhyngwladol y Menywod hwn, myfyria Victoria Vasey, Cyfarwyddwr Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (WEN) Cymru, ar y daith tuag at gydraddoldeb i fenywod a phwysigrwydd cymdeithas sifil ar y daith honno.

Ar 8 Mawrth, rydyn ni’n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Ei thema am eleni yw *‘Buddsoddi mewn menywod: cyflymu cynnydd’ a bydd yn canolbwyntio ar drechu dirymiad ariannol menywod.

Fel pob mis Mawrth arall, mae hwn yn gyfle i ni i gyd geisio rhoi o’n hamser i gydnabod a dathlu cyflawniadau menywod rhyfeddol, i ystyried blaenoriaethau yn yr ymgyrch i gael cydraddoldeb i fenywod gartref ac yn fyd-eang, ac i hybu cyllid i rymuso menywod i yrru newid.

DATHLU MENYWOD

Ledled y byd, byddwn ni’n mwynhau straeon am fenywod eithriadol, yn enwedig y rheini sydd wedi rhagori yn eu meysydd proffesiynol, ac yn clywed am y buddsoddiad sydd wedi’i wneud ynddyn nhw.

Yn ein Caffi WEN Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024, rydyn ni’n falch o fod yn dysgu o fenywod ar draws y meysydd celfyddydol, gwleidyddol a STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) ac yn dathlu cyflawniadau’r menywod hyn.

Byddwn hefyd yn cofio cyfraniadau ein 100+ Menywod Cymreig (roedd 100 yn swnio’n daclus pan wnaethom ni ddechrau’r prosiect hwn nifer o flynyddoedd yn ôl, ond wrth gwrs, mae llawer gormod o fenywod Cymreig anhygoel i stopio yn y fan yna) a’r menywod rhyfeddol sydd, yn araf bach a fesul tipyn, yn cael eu cydnabod ar hyd a lled Cymru drwy’r fenter Placiau Porffor (a redir gan fenywod rhyfeddol, wrth gwrs).

CYFLYMU CYNNYDD TUAG AT DEGWCH ECONOMAIDD

Mae’r dathliad hwn yn bwysig. Yn wirioneddol bwysig. Mae’r menywod eithriadol hyn yn esiampl i ni i gyd. M eu cyflawniadau yn ennyn balchder, llawenydd ac ysbrydoliaeth, gan ddangos yr hyn y gall menywod ei wneud mewn byd lle maen nhw’n annhebygol iawn o gyflawni rhagoriaeth broffesiynol (a hyd yn oed bryd hynny, nid yw bob amser yn dod â chyflog cyfartal).

Ond mae’r ods yn parhau i fod yn eu herbyn ac mae’r dangosyddion i ddirymiad economaidd menywod yn llwm. Yng Nghymru, y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn 2023 oedd 12.4% (dipyn yn well na chyfartaledd y DU o 14.3%). Mae menywod nid yn unig yn cael eu talu llai fesul awr, maen nhw hefyd yn fwy tebygol o fod yn gweithio’n rhan-amser neu o fod yn economaidd anweithgar, gyda 26.1% *yn nodi cyfrifoldebau gofalu fel y prif reswm am hyn, o’u cymharu â 7.3% o ddynion.

O ganlyniad, mae gan fenywod yng Nghymru lai o gyfoeth a chynilion na dynion, maen nhw’n llai tebygol o fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain ac yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi pensiwn. Mae’r problemau hyn yn waeth ymhlith mamau sengl, menywod anabl, a menywod ethnig leiafrifol yn benodol sy’n profi mwy o wahaniaethu ac anfantais croestoriadol.

CEISIO DAL I FYNY

Ar ôl rhoi genedigaeth a gofalu am blant ifanc iawn, mae menywod yn ceisio dal i fyny â dynion yn broffesiynol ac yn ariannol. Nhw sy’n gorfod ceisio ymdopi â gwaith a gofal plant. Maen nhw’n dioddef aflonyddwch a gwahaniaethu yn y gwaith. Maen nhw’n dioddef poen, chwithigrwydd a chyfleoedd coll drwy fislifoedd, menopôs a chyflyrau sy’n gysylltiedig ag iechyd atgenhedlol, ac agweddau cymdeithas tuag at y rhain a’i diffyg ymwybyddiaeth ohonynt. Maen nhw’n byw bywydau llawn trais ar sail rhywedd, ac yn ysgwyddo baich anghymesur o ran cyfrifoldebau gofalu di-dâl.

Mae’r anghydraddoldebau strwythurol hyn (nad ydynt yn rhestr gynhwysfawr o bell ffordd) yn gymhleth, yn gorgyffwrdd ac weithiau’n rhyng-gysylltiedig. Waeth pa mor anodd y gall fod, rhaid iddynt gael eu datrys.

GWEITHIO GYDA’N GILYDD I GYFLYMU CYNNYDD

I drechu anghydraddoldebau, mae angen i’r llywodraeth, y sector preifat a’r gymdeithas sifil weithredu. Mae Llywodraeth Cymru a’r sector preifat yn addawol ac yn cymryd rhai camau. Mae hyn yn hollbwysig, wrth gwrs, ond er mwyn i’r cynnydd fod yn gynnydd effeithiol, go iawn sy’n cyflymu, mae angen cymdeithas sifil iach a chadarn arnom ni.

Mae angen clywed lleisiau menywod, yn eu holl amrywiaeth cyfoethog, a rhaid canolbwyntio ar y rhain wrth lunio polisïau. Rhaid cynyddu’r arbenigedd ym mhob un o’r materion hyn sy’n cyfrannu at ddirymiad economaidd menywod o fewn cymdeithas sifil. Ond ar hyn o bryd, mae’n lleihau.

Mae’r cyllid sy’n dod i mewn i bob sector o gymdeithas sifil ffyniannus yng Nghymru mewn argyfwng. Y sefyllfa ar gyfer y sector menywod yw un o’r rhai gwaethaf. Bu cau Chwarae Teg, y mudiad cenedlaethol sydd wedi bod yn hyrwyddo cydraddoldeb menywod ers 1992, ym mis Medi 2023 yn ergyd enfawr a lwyddodd i dynnu cyllid sylweddol o’r sector menywod, a oedd eisoes heb gyllid digonol (fel yr amlygwyd mewn *adroddiad Rosa diweddar, a nododd mai dim ond 1.8% o’r £4.1 biliwn mewn grantiau a ddyfarnwyd i elusennau’r DU yn 2021 aeth i weithgareddau a oedd yn canolbwyntio ar fenywod a merched).

CYMRU SY’N RHYDD RHAG GWAHANIAETHU AR SAIL RHYW

Ond mae’r sector wedi colli llawer mwy nag arian. Fe gollon ni fudiad – sy’n dro yn y cynffon trasig i thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni – sy’n canolbwyntio ar rymusiad economaidd menywod. Ni fydd Menywod Cymru yn elwa’n uniongyrchol mwyach ar eu rhaglenni a’u mentrau. Mae eu llais pwysig mewn galw am newid wedi mynd. Mae llawer o’r arbenigedd yr oedd eu staff niferus wedi’i fagu dros flynyddoedd maith yng nghyd-destun gwybodaeth sefydliadol hir ac ystyrlon wedi mynd, o leiaf o gymdeithas sifil.

Rhaid disodli hyn a mwy. Rhaid i ni weld mwy o gyllid yn dod i mewn i’r sector menywod, ond rhaid i ni hefyd barhau a gwella ein gwaith â phartneriaid ac elwa’n well ar y gymdeithas sifil ffyniannus a hael ei hysbryd sydd gennym ni yng Nghymru.

Mae’n amlwg bod y llwybr i rymusiad economaidd menywod a chydraddoldeb i fenywod yn gymhleth ac amlweddog, a bod pob un o’n sectorau o fewn cymdeithas sifil yn allweddol i ddod o hyd i ddatrysiadau cynaliadwy sy’n cefnogi pob ochr. Rhaid i ni sicrhau ein bod yn edrych trwy lygaid rhyweddol, sy’n edrych ar draws holl waith y gymdeithas sifil, boed hwnnw’n mewnfudo, tai, lleihau tlodi, gweithredu ar yr hinsawdd, cyfiawnder troseddol a mwy.

Mae ychydig o’r gwaith hwnnw eisoes yn cael ei wneud ac mae’n amlwg bod yr ewyllys i wneud mwy yno. Ond mae angen mwy o adnoddau, yn y sector menywod ac yng nghymdeithas sifil Cymru yn fwy cyffredinol i sicrhau y gallwn ailgodi’n gydweithredol o’r anffawd hon tuag at Gymru sy’n rhydd rhag gwahaniaethu ar sail rhyw – i bob menyw ac ym mhob rhan o’n bywydau.

Buddsoddwch mewn menywod: fe wnawn ni gyflymu’r cynnydd.

Am ragor o wybodaeth am WEN Cymru, ewch i wenwales.org.uk.

*Saesneg yn unig