Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar Strategaeth Ddigidol newydd i Gymru. Mae Anna Nicholl, Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygiad CGGC yn dweud wrthym pam ei bod mor bwysig fod y sector gwirfoddol yn ganolog iddo.
Mae’r pandemig wedi cyflymu’r symudiad tuag at wasanaethau digidol a oedd eisoes wedi hen ddechrau. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cyfarfodydd â gweithwyr iechyd proffesiynol, tiwtoriaid, cynghorwyr, clybiau cymdeithasol a llawer mwy wedi’u cynnal ar-lein. Wedi i’r pandemig ddod i ben, o’r diwedd, mae’n sicr y bydd gwasanaethau wyneb yn wyneb ar gael unwaith eto – bydd hyn yn hollol hanfodol i rai pobl – ond bydd gwasanaethau digidol yn parhau’n gyffredin dros ben.
Dyma’r cyd-destun wrth i Lywodraeth Cymru baratoi eu Strategaeth Ddigidol newydd i Gymru. Ynddi, maent yn amlinellu chwe phrif ‘Genhadaeth’ i’r strategaeth ymgymryd â hwy – mae’r rhain yn edrych ar wasanaethau digidol, yr economi ddigidol, sgiliau digidol, cynhwysiant digidol, cysylltedd digidol a data a chydweithredu. (Fel rhan o hyn, fe gynhalion nhw ymarfer ymgysylltu, a gallwch ddarllen ein hymateb yma).
Datganiad allweddol yn y strategaeth ddrafft yw ‘nid yw digidol yn ymwneud â chyfrifiaduron yn unig – ond â phobl.’ Cytunwn yn llwyr â hynny, felly mae’n drueni bod y sector gwirfoddol – sydd wedi’i ymwreiddio yn ein cymunedau ar hyd a lled Cymru – yn cael ei hanwybyddu gydol y strategaeth, fwy neu lai.
Mae’r ffaith fod y strategaeth yn ‘canolbwyntio ar bobl’ yn golygu ei bod yn hanfodol fod y sector gwirfoddol yn ganolog i’r ddogfen derfynol. Mae pobl, cyfiawnder cymdeithasol a gwella pob agwedd ar lesiant wrth wraidd y sector, felly mae’r diffyg sôn amdano yn fwlch sy’n achosi pryder. Mae’r sector yn cyffwrdd â’n bywydau ni i gyd – o feithrinfeydd i hosbisau, grwpiau celfyddydol a chlybiau chwaraeon a mudiadau cymdeithasol sydd wedi llunio’n hawliau, ein diwylliannau a’n hamgylchedd.
Mae hyblygrwydd ac arloesedd yn nodweddion amlwg yn ein sector. Mae’n fan lle gall pobl ddod ynghyd yn wirfoddol er mwyn gwneud gwahaniaeth i’r materion sy’n bwysig iddyn nhw. Yn aml, caiff y bobl hynny eu gyrru gan yr awydd i ganfod datrysiadau i faterion sy’n achosi pryder iddynt, gan greu ceffylau blaen ar gyfer yr hyn ddaw, yn ddiweddarach, yn wasanaethau cyhoeddus craidd.
Mae’r sector hefyd yn rhan bwysig o’n heconomi. Mae mudiadau gwirfoddol yn cyflogi tua 100,000 o bobl yng Nghymru, gyda 28% o bobl yn gwirfoddoli bob blwyddyn. Mae incwm elusennol yng Nghymru dros £1.2bn, heb gynnwys rhannau sylweddol o’r sector gwirfoddol megis Cymdeithasau Tai. Mae gwerth cyfatebol amser gwirfoddolwyr yn uwch eto – amcangyfrifir ei fod dros 3% o gynnyrch domestig gros (GDP) Cymru.
Dyma pam bod yn rhaid i’r strategaeth ddigidol newydd fanteisio ar y gronfa o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad sydd gan y sector gwirfoddol i’w chynnig, neu fentro colli ffynhonnell enfawr o werth ac arloesedd. Pe byddai’r llywodraeth yn gweithio gyda mudiadau gwirfoddol ar ddulliau digidol – sydd wedi’u cynllunio’n dda, yn ddiogel ac yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr – mae ganddo botensial enfawr i greu ac ehangu ar lesiant. Os nad yw’r strategaeth yn cysylltu â’r sector gwirfoddol, fodd bynnag, bydd yn colli rhannau allweddol o’n heconomi a’n gwasanaethau, gan lesteirio’i hymdrechion o’r cychwyn.
Er mwyn sicrhau bod ein sector wrth wraidd y chwyldro digidol, bydd angen buddsoddi er mwyn darparu arweinyddiaeth, i ymgysylltu â phobl ac i gefnogi datrysiadau ymarferol. Mae digonedd o fudiadau gwirfoddol sy’n awyddus i weithio gyda’r llywodraeth a chyda’i gilydd er mwyn gwireddu hyn.
Mae hynny’n cynnwys cyrff seilwaith fel CGGC a Chanolfan Cydweithredol Cymru, mudiadau arbenigol fel Promo Cymru yn ogystal â’r miloedd o fudiadau gwirfoddol sy’n mynd i’r afael â dulliau digidol yn eu gwaith o ddydd i ddydd mewn cymunedau ledled Cymru. Mae’r symudiad technolegol cymdeithasol hefyd, sydd eisoes yn fyw yng Nghymru, yno i gael ei ddefnyddio fel adnodd gan y sector gwirfoddol.
Amlinellodd y Papur Gwyn diweddar ar gryfhau partneriaeth gymdeithasol weledigaeth o economi yng Nghymru ‘lle gall pawb ffynnu a lle nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl.” Mewn byd lle mae gwasanaethau digidol yn ffurfio rhan fawr o fywyd cymdeithasol ac economaidd, mae’n hanfodol nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl yn ddigidol.
Rhaid i’r sector gwirfoddol fod yn rhan annatod o’r strategaeth ddigidol newydd.